Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymchwiliad Covid: 'Colli fy chwaer, 42, yn y pandemig yn ofnadwy'
- Awdur, Sara Down-Roberts
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Dywed dynes o F么n bod gwaeledd a marwolaeth ei chwaer 42 oed yn y pandemig wedi cael effaith fawr arni hi a gweddill y teulu, a'i bod hi "mor bwysig i'r ymchwiliad Covid" ystyried hynny.
Mae Gwenno Eyton Hodson, o Landegfan, wedi cyflwyno tystiolaeth i Ymchwiliad Covid y DU, a oedd yn dechrau clywed tystiolaeth yng Nghymru ddydd Mawrth.
Fe gafodd ei chwaer ieuengaf Carys Evans, a oedd yn byw ym Mrynbuga ac yn awdur blog , ddiagnosis o ganser yn ystod haf 2020.
Dywedodd ei bod yn allweddol i'r ymchwiliad ystyried "ddim jyst pobl gafodd Covid a'u teuluoedd".
"Roedd o'n sioc i ni gyd, ac anghofia i fyth gorfod dweud wrth mam yn Llanfairpwll yn ystod cyfnod Covid," meddai Ms Hodson wrth siarad 芒 Cymru Fyw.
"Doedd hi ddim yn teimlo'n dda yn niwedd Mai dechrau Mehefin 2020. Roedd hi'n berson ffit, yn rhedeg ac yn bwyta'n iach a 'nath hi feddwl bod hi jyst wedi blino am bod hi'n gorfod dysgu'r plant adref a gweithio o adref.
"Ond yna mi aeth hi at y meddyg. Wrth gwrs doedd hi ddim am boeni'r meddyg mewn cyfnod mor brysur a chafodd wybod wedi profion bod ganddi ganser y coluddyn Cam 4.
"Roedd y cyfan yn ofnadwy wrth iddi hi orfod wynebu pob triniaeth ar ben ei hun a ninnau fel teulu mor rhwystredig - mewn cyfnod o gyfyngiadau roedd o'n anodd iawn teithio i'w gweld hi.
"Roedd hi angen ni, a mam angen gweld ei merch, ond yn ystod cyfnod mor anodd doeddwn i ddim yn gallu bod yno iddi fel hoffen ni a'i chefnogi - a 'dan ni'n byw gyda'r euogrwydd yna.
"Doedden ni chwaith ddim yn gallu cefnogi ein gilydd.
"Ar ben hynny roedd mam mewn remission leukaemia ac felly yn un o'r bobl bregus yna oedd yn gorfod bod mor ofalus."
'Pwysig clywed lleisiau Cymru'
Dywed Ms Hodson ei bod yn hynod o bwysig fod lleisiau Cymru yn cael eu clywed yn yr ymchwiliad.
"Dydi o ddim jyst am bobl gafodd Covid a'u teuluoedd. Mae mor bwysig cofio a rhannu rhwystredigaeth eraill hefyd," meddai.
"Mae gen i lot o gwestiynau. Mi oedd yna gymaint o ansicrwydd.
"Roedd y newid o un rheol i'r llall yn creu gofid a lot o stress - yn enwedig yn ein sefyllfa ni pan do'n i ddim yn gwybod faint o amser o'dd gynnon ni hefo Carys."
Bu farw Carys, oedd yn wraig ac yn fam i ddwy ferch fach, ar 7 Gorffennaf 2021 yn 42 oed, ddiwrnod wedi pen-blwydd ei mam.
Yn unol 芒'r rheolau doedd yna ddim canu yn ei hangladd.
"Doedd hi ddim yn bosib i nifer fynd i'r angladd, ond beth a'm tarodd i nad oedd hi'n bosib canu emynau yn yr angladd," meddai Ms Hodson.
"'Dan ni'n deulu sy'n hoffi canu ac roedd Carys yn perthyn i sawl c么r - 'dan ni ar hyd y blynyddoedd wedi troi o gwmpas y capel ac eisteddfodau ac roedd peidio cael mynegi y galar yna drwy emyn mor anodd.
"Dwi'n teimlo bod yn rhaid i'r ymchwiliad Covid 'ma ystyried pa mor anodd oedd yr holl gyfnod i nifer."
'Y dystiolaeth yn help ar gyfer y dyfodol'
Mae Gwenno Hodson yn un o nifer sydd wedi cyfrannu i'r ymchwiliad, ac fe fydd ei stori yn cael ei rhannu ar ffurf fideo ar ddechrau'r ymchwiliad yng Nghymru.
"Mae hi wedi bod yn anodd iawn ailfyw yr holl gyfnod eto," meddai, "ond i fi ac i deuluoedd eraill mae'n bwysig bod ein llais yn cael ei glywed a bod yr hyn 'dan ni'n ei ddweud ar gof a chadw.
"Yr hyn sy'n holl bwysig yw bod yr ymchwiliad yn cael clywed stori y rhai na sydd yma bellach i dd'eud eu stori.
"Roedd yr hyn a brofon nhw a ni yn ystod y cyfnod yn gwbl ofnadwy ac mae'n bwysig bod arweinwyr a'r rheiny a oedd yn g'neud y penderfyniadau yn ystod Covid yn gwybod hynny.
"Fe fydd ein tystiolaeth gobeithio yn help ar gyfer y dyfodol."
Yn ystod y tair wythnos nesaf bydd ymchwiliad y DU i Covid yn canolbwyntio'n benodol ar y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru a'r rhai a oedd yn effeithio ar Gymru.
Bydd y gwrandawiadau a'r trafodaethau dyddiol yn digwydd mewn gwesty yn Llanedern yng Nghaerdydd ac yn para tan ddydd Iau, 14 Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd swyddogion yn rhoi tystiolaeth fanwl dros yr wythnosau i ddod.