Costau ymosodiadau c诺n ar dda byw wedi mwy na dyblu

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae cost ymosodiadau c诺n ar dda byw wedi mwy na dyblu rhwng 2022 a 2023.

Yn 么l adroddiad gan gwmni yswiriant NFU Mutual, fe gafodd gwerth 拢883,000 o anifeiliaid eu hanafu'n ddifrifol neu eu lladd y llynedd o'i gymharu 芒 拢439,000 yn 2022.

Mae'r adroddiad yn annog perchnogion c诺n i fod yn wyliadwrus er mwyn atal ymosodiadau difrifol.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Llun, dywedodd Aled Griffiths o NFU Mutual bod angen i berchnogion gadw eu c诺n "ar dennyn os ydych chi ar bwys anifeiliaid, yn enwedig defaid".

'Byddwch yn wyliadwrus'

Ychwanegodd Mr Griffiths fod nifer o berchnogion c诺n yn meddwl bod eu c诺n yn "ddiogel" ond y realiti yw bod "c诺n yn gallu siomi perchnogion weithie".

Dywedodd fod "mwy a mwy o bobl yn gadael eu c诺n yn rhydd oddi ar dennyn yng nghefn gwlad".

Er bod yr adroddiad yn nodi bod 46% o berchnogion c诺n yn credu nad yw eu c诺n yn gallu achosi niwed i ddefaid, dywedodd bod gan g诺n "reddf naturiol i hela ac i fynd ar 么l anifeiliaid".

Dywedodd fod angen i berchnogion gadw eu c诺n "ar dennyn os ydych chi ar bwys anifeiliaid, yn enwedig defaid".

Ychwanegodd bod angen i bobl "fod yn wyliadwrus".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un sydd wedi gweld c诺n yn ymyrryd 芒'r stoc sawl tro yw Anwen Hughes o Lanarth sy'n is-lywydd rhanbarth gydag Undeb Amaethwyr Cymru.

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd ei bod "wedi cael profiad o g诺n yn chaso ein defaid ni yn y cae, dim jyst unwaith ond sawl gwaith".

Dywedodd bod oen wedi marw o ganlyniad i g诺n yn ymosod arno ac nad oedd y perchnogion yn cydnabod bod eu c诺n ar fai.

Mae mesur newydd yn cael ei drafod ar hyn o bryd sy'n rhoi mwy o bwerau i'r heddlu tra'n ymdrin 芒 ch诺n sy'n ymosod ar dda byw.

Fe ychwanegodd Ms Hughes nad yw'r ddeddf sy'n weithredol ar hyn o bryd "yn helpu ni ffermwyr".

Fe soniodd bod y "nifer o g诺n wedi cynyddu gan fod pobl gartref" yn ystod cyfnod y pandemig ond "nawr bod pobl n么l yn y gwaith maen nhw'n gadael eu c诺n allan yn yr ardd a'r c诺n yn mynd yn rhwystredig o fod yn ga毛edig bob dydd a dyna un o'r prif resymam am yr achosion".

Mae'r adroddiad yn dangos fod 68% o berchnogion c诺n yn gadael eu c诺n yn rhydd oddi ar dennyn yng nghefn gwlad, ond mai ond 49% yn unig sy'n gallu galw'r c诺n yn 么l.

Mae'r adroddiad yn nodi ymhellach bod 8% wedi cyfaddef bod eu c诺n yn rhedeg ar 么l da byw ond bod 46% yn credu nad yw eu c诺n yn gallu niweidio neu ladd anifeiliaid fferm.

Mae'r adroddiad yn annog perchnogion i fod yn wyliadwrus er mwyn atal mwy o ymosodiadau difrifol.