C芒n i Gymru: 'Siom' bil ff么n ar 么l 'methu pleidleisio'
- Cyhoeddwyd
Mae gwylwyr rhaglen C芒n i Gymru wedi dweud eu bod yn "siomedig" ac yn "rhwystredig" ar 么l derbyn biliau ff么n uwch na'r arfer, gan nad oedden nhw'n credu bod eu galwadau i bleidleisio yn y gystadleuaeth wedi cysylltu'n iawn.
Mae Cymru Fyw wedi siarad gyda rhai sy'n dweud eu bod wedi cael biliau ff么n o dros 拢30 ar 么l ceisio pleidleisio sawl gwaith am eu hoff g芒n.
Ers y rhaglen nos Wener, mae nifer wedi honni nad oedden nhw wedi gallu pleidleisio oherwydd problemau gyda'r llinellau ff么n, ond mae rhai'n dweud eu bod nhw wedi gorfod talu am bob galwad.
Dywedodd un gwyliwr, Kylie Evans o Aberystwyth, ei bod wedi ceisio ffonio i bleidleisio nos Wener ond "doedd y galwad ddim yn cysylltu" a'i bod wedi "ymgeisio eto ac eto".
Dywedodd: "Cymaint ag o'n i'n hoffi'r g芒n bydden i ddim wedi pleidleisio 37 o weithiau a thalu 拢31.45!"
Mae S4C wedi dweud bod "problem dechnegol" gyda'r system bleidleisio ar y noson, gan ychwanegu bod trafodaethau'n digwydd ynghylch ad-daliadau posib.
'Dwi ddim yn meddwl bod e'n deg'
Sara Davies oedd yr enillydd eleni gyda'r g芒n Ti, gyda Steve Balsamo a Kirstie Roberts yn gorffen yn ail a Gwion Phillips ac Efa Rowlands yn drydydd.
Er mwyn pleidleisio roedd angen i bobl ffonio rhif oedd yn dechrau gyda 0900, ond mae'n ymddangos nad oedd rhai cyflenwyr yn caniat谩u defnyddio llinellau o'r fath.
Dywedodd Kylie Evans o Aberystwyth wrth Cymru Fyw: "Roeddwn am bleidleisio dros c芒n rhif 5 - Cysgod Coed - gan fy mod yn teimlo bod Gwion ac Efa wedi gwneud yn arbennig o dda i gyrraedd y ffeinal.
"Unwaith agorodd y llinellau ff么n, dyma fi'n ceisio mynd trwyddo ond doedd y galwad ddim yn cysylltu... ymgeisio eto ac eto felly, ac yna cael y meibion a'n chwiorydd i dreial ar eu ffonau nhw, ond dim lwc.
"Roeddwn yn siomedig - yn enwedig pan edrychais ar y bil ff么n y diwrnod wedyn a gweld bod nhw wedi codi 85c o ffi am bob tro roeddwn wedi ceisio eto!
"Cymaint ag o'n i'n hoffi'r g芒n bydden i ddim wedi pleidleisio 37 o weithiau a thalu 拢31.45!
"Dwi ddim yn meddwl ei fod yn deg i godi ffi ar bobl oedd wedi methu mynd trwyddo ar y llinellau - doedd dim neges hyd yn oed, jyst bod y ff么n ddim yn cysylltu.
"Dwi'm wedi gweld neb ar y cyfryngau cymdeithasol a lwyddodd i gofrestru pleidlais - bach o siop siafins felly!"
Un arall gafodd brofiad tebyg oedd Llio Davies o Ynys M么n, a ddywedodd wrth Cymru Fyw ei bod wedi ceisio pleidleisio ar ei ff么n symudol a ff么n y t欧.
"Yr unig beth oedd yn digwydd oedd bod y llinell yn mynd yn farw bob tro... dim neges na s诺n 'prysur'.
"Ceisiais fwy nag unwaith, ac o wirio bil ff么n y t欧 gwelais fy mod wedi talu 52c am bob galwad... roedd hynny'n 拢3.64 o ff么n y t欧 a dydw i heb wirio bil y ff么n symudol eto.
"Does ryfedd felly fod S4C wedi adrodd bod cymaint wedi pleidleisio os oedd pob galwad yn cyfri', heb yn wybod i'r sawl oedd yn talu'r bil!"
Mae'r 大象传媒 wedi clywed gan ddynes arall - sydd am aros yn ddi-enw - a ddywedodd ei bod wedi cael bil o 拢35 ar 么l trio sawl tro, ond oedd dan yr argraff nad oedd yr un alwad yn llwyddiannus.
Dywedodd gwyliwr arall oedd am aros yn ddi-enw wrth Cymru Fyw ei bod "fel nifer, yn anhapus gyda'r hyn ddigwyddodd wrth bleidleisio".
"Ro'n ni wedi talu am y galwadau ff么n a hyd y gwn i, doedd S4C, ddim wedi derbyn ein pleidleisiau.
"Beth ddigwyddodd felly gan mai'r unig dro atebwyd y ff么n yn fy achos i oedd ar 么l i'r llinellau gau?"
'Mae'n chwerthinllyd'
Dywedodd gwyliwr arall, Awen Hamilton, o Lanystumdwy, wrth Cymru Fyw: "Mi wnes i dr茂o lawer gwaith i bleidleisio oddi ar ff么n y t欧 a phedwar gwaith ar y ff么n bach hyd nes daeth tecst gan Vodafone yn gofyn os oeddwn yn sylweddoli fy mod wedi gwario dros 拢1 ar wneud galwadau i rif ff么n 0900.
"Mae'n chwerthinllyd na wnaed y gwaith ymchwil priodol ymlaen llaw er osgoi hyn."
Ychwanegodd un arall, Rachel Davies sy'n byw yn ardal Caerfyrddin: "O'dd e ddim yn mynd trwyddo... o'dd dim neges i ddweud bod y neges wedi cyrraedd neu bo fi wedi pleidleisio felly o'n i'n meddwl falle bod y llinellau ff么n yn brysur a trial sawl gwaith a cael yr un peth.
"O'dd e'n siomedig a rhwystredig i fod yn onest... o'n i ddim yn gwybod os oedd y bleidlais wedi cael ei dderbyn ac o ran y gost yr alwad hefyd."
'Problem dechnegol' ar y noson
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Rydym yn ymddiheuro am y camgymeriad technegol yn ystod C芒n i Gymru.
"Mae S4C mewn trafodaethau gyda'r darparwr telebleidleisio i ymchwilio i'r posibilrwydd o ad-dalu y rhai sydd wedi eu heffeithio.
"Profwyd y broses bleidleisio yn llwyddiannus cyn mynd ar yr awyr.
"Roedd problem dechnegol gyda'r gwasanaeth gan ddarparwr telebleidleisio'r gystadleuaeth, unwaith i'r bleidlais fynd yn fyw.
"Roedd hyn yn golygu na chafodd pleidleiswyr unrhyw gadarnhad bod eu pleidleisiau wedi eu cyfri.
"Mae'r darparwr telebleidleisio wedi ymddiheuro i S4C am y camgymeriad, ond mae wedi cadarnhau bod yr holl bleidleisiau gafodd eu taro yn llwyddiannus wedi cael eu cyfri, ac mae'r canlyniadau wedi eu gwirio.
"Ar hyn o bryd mae t卯m technegol y cwmni allanol yn ymchwilio i achos y mater.
"Bydd S4C yn adolygu'r broses bleidleisio ar gyfer C芒n i Gymru y flwyddyn nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth
- Cyhoeddwyd2 Mawrth