Diwrnod y Llyfr: Ysgolion yn galw am beidio gwario ar wisg

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Alyssa nad oes angen gwario llawer o arian ar wisg
  • Awdur, Sion Tootill
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae rhai rhieni'n poeni am y gost ychwanegol o brynu gwisg arbennig i'w plant ar gyfer Diwrnod y Llyfr oherwydd yr argyfwng costau byw.

Bob blwyddyn mae ysgolion ledled y byd yn cynnal gweithgareddau i nodi'r diwrnod, a gafodd ei ddechrau gan UNESCO yn 1995 i annog pobl i ddarllen.

Un o arferion y diwrnod erbyn hyn yw i blant wisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr.

Ond eleni, mae rhai o ysgolion Cymru'n annog rhieni i beidio 芒 phrynu gwisgoedd drud i'w plant, ac i ganolbwyntio ar gynnwys y llyfrau.

Dim angen gwario 'unrhyw arian'

Yn Ysgol Gynradd Meisgyn yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, cyngor yr ysgol oedd yn penderfynu'r ffordd orau i ddathlu'r diwrnod.

Yn 么l pennaeth yr ysgol, Fran Davies, daeth disgyblion o bob oedran at ei gilydd i rannu syniadau a phenderfynu eu bod nhw "am wneud y diwrnod mor hwyl 芒 phosibl heb ddisgwyl i unrhyw un orfod gwario unrhyw arian".

Ffynhonnell y llun, GOMER

Disgrifiad o'r llun, Sali Mali - un o hoff gymeriadau plant Cymru

Mae Alyssa, 11 oed, sydd ar gyngor yr ysgol o'r farn nad oes angen gwario arian.

Dywedodd: "Does dim rhaid gwario llawer o arian - fe allwch chi fod yn gymeriad syml, neu wisgo pyjamas os ydych chi eisiau dod 芒 stori amser gwely i mewn, neu hyd yn oed wisgo gwisg ysgol."

Mae'r ysgol hefyd yn annog disgyblion i ddod 芒'u hoff lyfr gyda nhw i'r ysgol ar gyfer Diwrnod y Llyfr.

Ond mae Ms Davies yn cydnabod nad oes gan bob plentyn lyfrau yn eu cartrefi.

Dywedodd bod yr ysgol yn mynd 芒'r plant i'r llyfrgell yn aml yn ogystal 芒'r banc bwyd ar gyfer teuluoedd yr ysgol sydd angen cymorth.

Mae ganddyn nhw focs sy'n cynnig llyfrau am ddim i ddisgyblion sydd eu hangen nhw.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y pennaeth, Fran Davies bod yr ysgol yn mynd 芒'r plant i'r llyfrgell yn aml

Dywedodd Mrs Davies fod yr ysgol "eisiau gwneud y diwrnod mor hawdd 芒 phosib heb roi unrhyw faich ariannol ar deuluoedd".

Mae Archie sy'n 10 oed yn hoffi rhannu llyfrau gydag eraill.

Dywedodd: "Ni'n rhoi llyfrau allan fel bod pobl yn gallu dewis llyfr i fynd gartref gyda nhw, a wedyn maen nhw'n gallu gwisgo lan fel cymeriad hefyd os maen nhw eisiau."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Archie ei fod yn rhannu llyfrau gydag eraill

Ychwanegodd Amelia sy'n 10 oed: "Dyw e ddim yn costio llawer o arian... os nad oes gyda chi'r dillad i wisgo lan fel cymeriad, chi'n gallu jyst dod i'r ysgol mewn pyjamas.

"Ac os oes gyda chi hen lyfrau chi'n gallu rhoi nhw yn y blwch llyfrau i rywun arall gael mwynhau nhw."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Amelia fod modd i'r disgyblion gyfrannu hen lyfrau er mwyn i "rywun arall gael mwynhau nhw"

Mae Kelly Jones sydd 芒 merch naw oed yn yr ysgol yn cefnogi'r trefniadau ar gyfer y diwrnod.

"Mae'n syniad da iawn, gallu gwisgo pyjamas yn lle gorfod mynd allan i brynu gwisg wirion sy'n ddrud."

Ychwanegodd: "Mae'n arbed arian i bawb ac mae gan bob plentyn b芒r o byjamas neu ffrog bert neu hyd yn oed wisg ysgol er mwyn dathlu'r diwrnod fel Matilda... rhywbeth syml a hawdd, ac mae'n dda iddyn nhw fwynhau darllen."

Mae Leah Jones sydd 芒 merch wyth oed yn dweud bydd eleni llawer symlach iddi.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Leah Jones ei bod wedi creu gwisg i'w merch sydd heb gostio llawer

Mae hi wedi cynllunio gwisg Diwrnod y Llyfr ei phlentyn yn barod.

Dywedodd: "Mae hi'n mynd i wisgo fel Hermione o Harry Potter.

"Mae hi'n mynd i wisgo sgert a chrys ysgol ac i ni wedi prynu hydlath iddi o siop elusen a dyna hi'n barod i fynd.

"Os oedd rhaid prynu gwisg arbennig iddi, byddai'r clogyn yn unig yn 拢20."