大象传媒

Nain a thaid yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddio eu h诺yr

  • Cyhoeddwyd
Kingsley Road
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Ethan Ives Griffiths, oedd yn ddwy oed, ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref ei naid a'i daid yn Nglannau Dyfrdwy yn 2021

Mae nain a thaid bachgen ifanc o Sir y Fflint wedi ymddangos o flaen llys wedi eu cyhuddo o'i lofruddio.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Ethan Ives Griffiths, oedd yn ddwy oed, wedi ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref y ddau yn Garden City, Glannau Dyfrdwy ar 14 Awst 2021.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Countess of Chester cyn iddo gael ei symud i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl lle bu farw yn sgil anaf i'r ymennydd.

Yn ogystal 芒 chyhuddiad o lofruddiaeth, mae Michael Ives, 46, a Kerry Ives, 45, y ddau o Garden City, wedi eu cyhuddo o ymosod ac esgeuluso.

Fe wnaeth y ddau ymddangos yn y llys fore Mercher drwy gyswllt fideo.

Cafodd cais Mr a Ms Ives am fechn茂aeth ei wrthod gan y barnwr Rhys Rowlands.

Mae mam Ethan, Shannon Kayleigh Ives, 27, o'r Wyddgrug, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o achosi neu adael i blentyn ddioddef niwed corfforol difrifol ac ymosod, cam-drin, esgeuluso neu adael plentyn gan achosi dioddefaint neu anaf.

Mae disgwyl iddi hi fynd o flaen llys ynadon ar 4 Ebrill, tra bod disgwyl i'r tri diffynnydd ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 17 Mai.

Pynciau cysylltiedig