Corff anghywir wedi'i ryddhau i deulu mewn profedigaeth
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am ryddhau'r corff anghywir i deulu mewn profedigaeth.
Fe ddigwyddodd y camgymeriad ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan ym mis Tachwedd 2023.
Roedd y bwrdd eisoes wedi cadarnhau digwyddiad tebyg ym mis Rhagfyr - ble cafodd y corff anghywir ei amlosgi ar 么l cael ei ryddhau o'r ysbyty.
Dywedodd y bwrdd iechyd mai "yr un camgymeriad dynol" oedd ar fai am y ddau achos.
"Rydyn ni wir wedi ein llorio dros y teulu oedd yn rhan o'r digwyddiad hwn ac mae'n ddrwg iawn gennym fod hyn wedi digwydd yn ein marwdy," meddai llefarydd.
'Wedi cymryd camau priodol'
Mae Wales Online yn adrodd fod y corff anghywir wedi cael ei ryddhau o Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbr芒n, ac na chafodd y teulu wybod am rai misoedd wedi'r farwolaeth.
"Mae ein hymchwiliad cychwynnol newydd gael ei gwblhau ac rydym bellach yn ymchwilio ymhellach i'r amgylchiadau yn ymwneud 芒'r ail ddigwyddiad hwn a ddigwyddodd tua'r un pryd mewn amgylchiadau tebyg," meddai llefarydd ar ran y bwrdd iechyd.
"Rydym wedi cymryd camau priodol ers mis Tachwedd yn y marwdy ac wedi rhoi mwy o fesurau diogelu ar waith oherwydd yr ail achos hwn."
Ychwanegodd fod y bwrdd wedi archwilio achosion er mwyn "sicrhau nad oes unrhyw achosion pellach".
"Rydym wedi cwrdd 芒'r teulu i roi gwybod iddynt yn llawn am y sefyllfa hon ac i gynnig cymaint o gefnogaeth ag sydd ei angen arnynt," meddai'r llefarydd.
"Rydym wedi cael gwybod nad oes unrhyw deulu hysbys o'r claf arall a dyma'r rheswm pam y bu oedi yn yr achos hwn yn cael ei nodi.
"Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r teulu drwy gydol ein hymchwiliad parhaus.
"Unwaith eto, mae'n ddrwg iawn gennym, a meddyliwn a chefnogwn y teulu o hyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2023