Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyfarnwr rygbi 15 oed am weld mwy o ferched yn ei dilyn
- Awdur, Annell Dyfri
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Gyda phencampwriaeth Chwe Gwlad y merched yn cychwyn ddydd Sadwrn, mae un dyfarnwr ifanc yn galw ar fwy o ferched ifanc i fynd ati i ddyfarnu gemau rygbi.
A hithau ond yn 15 oed, mae Olivia Meaker yn awyddus i weld mwy o ferched yn gwneud yr un peth 芒 hi.
Ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y dynion eleni doedd yna'r un dyfarnwr o Gymru.
Yn 么l y cyn-ddyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens, sicrhau bod dyfarnwyr yn parhau i ddyfarnu, er gwaetha'r heriau cynyddol, yw'r "her".
'Pwysig iawn' annog menywod i ddyfarnu
A hithau'n ddisgybl 15 oed yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, Hirwaun, mae Olivia Meaker eisoes yn dyfarnu gemau rygbi i blant yn yr ardal.
Dywedodd ei bod yn "bwysig iawn" i gael cynrychiolaeth o fenywod yn dyfarnu gemau.
Dywedodd fod rhai o'r merched oedd yn ei g锚m gyntaf fel dyfarnwr yn methu 芒 chredu fod merch yn eu dyfarnu: "Roedden nhw'n falch iawn fod merch yn eu reffio nhw, do' nhw erioed wedi cael merch yn eu reffio".
Er mai hi oedd yr unig ferch ar y cwrs dyfarnu, dywedodd mai'r peth gorau am ddyfarnu "yw gweld y merched yn gweld fi yn neud e [dyfarnu], roedden nhw mewn complete shock".
Dyw Olivia ei hun erioed wedi chwarae g锚m o rygbi pan fo menyw yn dyfarnu. Dyna un o'r rhesymau yr aeth ati i gwblhau'r cwrs: "Ro'n i eisiau rhoi cyfle i'r plant lleiaf gael y cyfle yna".
Dywedodd ei bod yn bwysig i gael mwy o ferched yn dyfarnu gemau rygbi fel bo' nhw'n "deall" g锚m y merched.
"Dw i eisiau cael mwy o'r merched o gwmpas fi i ddyfarnu".
Yn 么l Undeb Rygbi Cymru mae rhwng 80 i 100 o ferched a menywod wedi ennill cymwyster dyfarnu ar lefelau gwahanol ers Awst 2023 ac mae cyrsiau dyfarnu yn benodol i ferched ar gael.
Eisiau "ysbrydoli" pobl ifanc i ddyfarnu
Gyda'r un person o Gymru wedi dyfarnu ym mhencampwriaeth Chwe Glwad y dynion eleni, mae Ellis Cambourne, sydd hefyd yn ddisgybl 14 oed, yn awyddus i "ysbrydoli" ei ffrindiau i fynd ati i ddyfarnu.
Dywedodd fod ei dad wedi bod yn "ysbrydoliaeth" iddo gofrestru ar y cwrs ac i gychwyn dyfarnu.
"Dw i wedi bod yn chwarae rygbi lleol yn Nelson ers 'mod i'n bump oed ac mae fy nhad wedi bod yn dyfarnu ers rhyw 10 mlynedd, felly roedd e'n ysbrydoliaeth i fi ddod mewn.
"Fi yw'r unig un o'n oedran i fi'n nabod sy'n dyfarnu, ond gobeithio byddai'n ysbrydoliaeth i bawb arall gallu dyfarnu."
Dywedodd mai un o'r rhesymau nad oes llawer o bobl ifanc yn mynd ati i ddyfarnu yw oherwydd y "diffyg dealltwriaeth o'r cyfleoedd i ddyfarnu pan ry' ni mor ifanc".
"Fi'n credu bod angen i glybiau lleol hysbysebu pethau'n well achos does dim lot o coaches sy'n dweud wrth y chwaraewyr am y cyfleoedd sydd ar gael."
Rheswm arall mae Ellis yn annog eraill i fynd ati i ddyfarnu yw er mwyn datblygu eu hunan hyder.
"Mae llawer o chwaraewyr yn ein clwb ni a probably ar draws y cwm yn dawel iawn ac yn swil, ond wedyn os maen nhw'n datblygu'r hyder 'na o fod yn y canol a phawb yn gwrando arnoch chi yna bydde'n helpu chi gyda'ch sgiliau cyfathrebu a phethau," meddai.
Dywed fod peidio cael yr un Cymro yn dyfarnu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni "yn rili fustrating".
Wrth gyfeirio yn 么l at g锚m Cymru yn erbyn Ffrainc y penwythnos diwethaf, dywedodd: "Oedd Luke Pierce yn siarad Ffrangeg 芒 chwaraewyr Ffrainc, a oedd e jysd yn neud i fi feddwl does neb yn gallu siarad Cymraeg yn y canol... mae'r iaith yn cael ei cholli".
Ei gyngor felly yw i bobl ifanc yw i "fynd amdani".
Er bod y dyfarnwyr ifainc yn awyddus i weld mwy o'u cyfoedion yn mynd ati i ddyfarnu, "dala arnyn nhw yw'r challenge mwyaf" yn 么l y cyn ddyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens.
Fe gychwynnodd e ei yrfa dyfarnu yn 16 oed, tra yr oedd yn ddisgybl yn Ysgol Maes yr Yrfa yng Nghefneithin.
Dywedodd mai prin yw'r dyfarnwyr sy'n cyrraedd y lefel broffesiynol a bod llawer yn "danto ac yn gorffen" dyfarnu'n gynnar yn eu gyrfa.
Ychwanegodd ei bod hi'n "bwysig dyfarnu am y rheswm iawn, yn rhywbeth chi'n mwynhau gwneud achos mae'n fath o job os nagych chi'n neud e am y rheswm iawn, chi ddim yn mynd i fynd 'mlan gyda'r dyfarnu".
Fe gyfeiriodd at y ffaith fod ambell un yn gorffen dyfarnu oherwydd y ffordd y mae chwaraewyr yn eu trin ond nad dyna'r "rheswm pennaf".
Ychwanegodd nad oes cyfleoedd i lwyth o bobl i ddyfarnu'n broffesiynol ac felly mae pobl yn rhoi'r ffidl yn y to yn rhy sydyn.