大象传媒

Newidiadau 'anodd' i strwythur National Theatre Wales

  • Cyhoeddwyd
Circle of FifthsFfynhonnell y llun, NAtional Theatre Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynhyrchiad Circle of Fifths gan y National Theatre Wales

Mae National Theatre Wales wedi cyhoeddi eu bod yn gorfod gwneud newidiadau "anodd" i'w strwythur yn dilyn toriad o 100% i'w cyllid craidd o Ebrill 2024.

Fel rhan o'r newidiadau, bydd Leonora Thomson yn olynu Lorne Campbell ac yn ymuno 芒'r sefydliad fel Prif Weithredwr dros dro newydd.

Mewn datganiad, mae ymddiriedolwyr y National Theatre Wales yn dweud bod swyddi wedi eu colli, a bydd y newidiadau yn cael "effaith ar bawb" o fewn y sefydliad.

Ym mis Medi, fe ddaeth hi i'r amlwg nad oedd National Theatre Wales ar restr o sefydliadau fyddai'n derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Fe aethon nhw ati i gyflwyno ap锚l oedd yn amlinellu pam y dylid ailystyried y penderfyniad, ond fe gafodd hynny ei wrthod.

Roedd y sefydliad yn un o sawl enw amlwg oedd yn absennol o'r rhestr o sefydliadau sy'n derbyn cefnogaeth ariannol 2024/25 ymlaen.

Mewn datganiad, mae ymddiriedolwyr y National Theatre Wales yn dweud eu bod yn "teimlo i'r byw dros weithwyr gwerthfawr a dawnus y mae'n rhaid i ni ffarwelio 芒 nhw".

Fe ychwanegon nhw fod y penderfyniadau anodd wedi gorfod eu gwneud er mwyn "sicrhau ein dyfodol".

Ffynhonnell y llun, National Theatre Wales
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Leonora Thomson yw prif weithredwr dros dro newydd National Theatre Wales

Bydd Leonora Thomson yn olynu Lorne Campbell fel prif weithredwr dros dro'r sefydliad.

Mae ganddi gefndir yn y sector celfyddydau, ac wedi gweithio i gefnogi pobl a sefydliadau o fewn y sector.

Yn ogystal 芒 bod yn wleidydd lleol ers cael ei hethol i Gyngor Caerdydd ym mai 2022, bu'n Rheolwr Gyfarwyddwr Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 2015 a 2019.

Pynciau cysylltiedig