Swyddogion Heddlu Gwent yn wynebu gwrandawiadau camymddwyn
- Cyhoeddwyd
Mae dau o swyddogion Heddlu Gwent ac un cyn-swyddog yn wynebu gwrandawiadau camymddwyn difrifol yn sgil honiadau eu bod wedi rhannu negeseuon atgas.
Daw yn sgil ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i negeseuon sarhaus a gafodd eu darganfod ar ff么n Ricky Jones, plismon wedi ymddeol a fu farw drwy hunanladdiad yn 2020.
Cafodd y negeseuon, oedd yn cynnwys rhai o natur hiliol a homoffobig, eu darganfod gan deulu Mr Jones, a chafodd y mater ei gyfeirio at yr IOPC gan Heddlu Gwent ym mis Tachwedd 2022.
Mae'r llu yn dweud eu bod yn bwriadu cynnal y gwrandawiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Daeth ymchwiliad yr IOPC, oedd yn edrych ar ymddygiad saith swyddog a phedwar cyn-swyddog, i ben ym mis Hydref y llynedd.
Cafodd archwiliad fforensig digidol ei gynnal ar ff么n Mr Jones, tra bod y swyddogion dan sylw wedi cael eu cyfweld.
Dywedodd y swyddfa fod dau swyddog ac un cyn-gwnstabl yn wynebu honiadau eu bod wedi rhannu negeseuon a oedd yn mynegi hiliaeth, homoffobia a chasineb at fenywod.
Yn ogystal, daeth yr ymchwiliad i'r casgliad nad oedd y swyddogion hynny, o bosib, wedi herio nac wedi rhoi gwybod am achosion o gydweithwyr yn rhannu negeseuon amhriodol.
Canfyddiadau eraill yr ymchwiliad:
Roedd yr ymchwiliad yn edrych ar ymddygiad 11 o swyddogion i gyd - naw sydd yn parhau i weithio i'r heddlu, a dau gyn-swyddog
Mae'n nodi bod pedwar swyddog arall hefyd wedi camymddwyn
Cafodd gwrandawiadau eu cynnal yn gynharach yn y mis, lle daethpwyd i'r casgliad fod yr honiadau o gamymddwyn wedi eu profi yn achos tri o'r swyddogion hynny - ac fe wnaethon nhw dderbyn rhybuddion ysgrifenedig;
Yn achos y pedwerydd swyddog, ni chafodd yr honiadau o gamymddwyn eu profi, a bydd disgwyl iddyn nhw gymryd rhan mewn ymarfer myfyriol;
Ni chafodd unrhyw gamau eu cymryd yn erbyn dau swyddog wnaeth ymddiswyddo yn ystod yr ymchwiliad;
Roedd un swyddog arall wedi gadael y llu ers rhai blynyddoedd cyn dechrau'r ymchwiliad, felly ni chafodd penderfyniad ei wneud yn ei achos ef;
Fe wnaeth yr IOPC dynnu eu hymchwiliad i un swyddog yn 么l, a ni chafodd unrhyw gamau pellach eu cymryd yn ei erbyn.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: "Roedd cynnwys rhai o'r negeseuon gafodd eu hymchwilio yn codi pryderon difrifol yngl欧n ag ymddygiad y swyddogion dan sylw.
"Ni chafodd unrhyw dystiolaeth ei darganfod i gefnogi honiad bod Heddlu Gwent wedi ceisio cuddio neu cadw'r negeseuon amhriodol yma yn dawel a fyddai wedi bod yn arwydd o lygredd.
"Mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos bod yr ymchwiliadau gafodd eu cynnal ar ff么n Ricky Jones yn addas ac yn gywir drwy gydol y broses."
Mae teulu Mr Jones wedi cael gwybod am benderfyniadau'r IOPC.
Mae ymchwiliad arall ar waith gan Heddlu Wiltshire i gwynion gafodd eu gwneud gan deulu Mr Jones am y ffordd wnaeth Heddlu Gwent ymdrin 芒'r ymchwiliad i'w farwolaeth a'i gysylltiadau gyda'r swyddogion eraill.
Dywedodd teulu Mr Jones mewn datganiad eu bod yn croesawu adroddiad yr IOPC, a'u penderfyniad i gymryd camau disgyblu yn erbyn y swyddogion.
"Er ein bod ni'n ddiolchgar bod y camymddygiad yma wedi dod i'r amlwg, ry'n ni'n teimlo bod angen gwneud mwy er mwyn cael gwared ag unrhyw swyddogion eraill sy'n rhannu'r un fath o syniadau."
Pan ddaeth y negeseuon i'r amlwg ym mis Tachwedd 2022, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, bod y cynnwys wedi ei syfrdanu.
Ychwanegodd Ms Kelly ei bod yn "benderfynol o sicrhau bod unrhyw achosion o ymddygiad fel hyn yn cael eu hymchwilio'n llawn a thrylwyr".
"Ry'n ni wedi bod yn gwbl glir nad oes lle i gamymddwyn o unrhyw fath o fewn y llu, a dylai'r achos yma fod yn arwydd i bawb o'r math o ganlyniadau sy'n wynebu rhywun sy'n camymddwyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023