大象传媒

Naw swyddog Heddlu Gwent dan ymchwiliad yn sgil negeseuon

  • Cyhoeddwyd
Ricky JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r negeseuon gafodd eu darganfod ar ff么n Ricky Jones wedi arwain at ymchwiliad

Mae chwech o swyddogion Heddlu Gwent a thri chyn-swyddog dan ymchwiliad yn sgil honiadau eu bod wedi rhannu negeseuon atgas.

Fe lansiodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (yr IOPC) ymchwiliad y llynedd i ymddygiad swyddogion y llu yn sgil honiadau o negeseuon yn mynegi hiliaeth, homoffobia a chasineb at fenywod.

Cafodd negeseuon eu darganfod ar ff么n plismon wedi ymddeol, Ricky Jones, a fu farw drwy hunanladdiad yn 2020.

Fe ddywedodd yr IOPC mewn datganiad ddydd Mercher fod eu hymchwiliad yn parhau.

Dywed Heddlu Gwent bod dim lle o fewn y llu i ymddygiad amhriodol.

Fe ddywedodd yr IOPC eu bod wedi dadansoddi "swm sylweddol o ddata" a gafodd ei lawrlwytho o ff么n Ricky Jones ers dechrau eu hymchwiliad.

Maen nhw wedi cadarnhau bod tri swyddog sy'n dal gyda'r llu a dau chyn-swyddog wedi derbyn rhybuddion camymddygiad mewn cysylltiad 芒'r negeseuon ar ff么n Mr Jones.

Maen nhw hefyd yn nodi bod pedwar swyddog yn rhagor - gan gynnwys un sydd bellach wedi ymddeol - yn rhan o gr诺p WhatsApp ble y cafodd y negeseuon eu rhannu. Mae nhw o dan ymchwiliad yn sgil honiadau na wnaethon nhw herio na chyfeirio negeseuon anaddas eu cydweithwyr.

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Heddlu Gwent
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o swyddogion yn destun ymchwiliad

Dywed yr IOPC bod dau swyddog pellach, sy'n dal i weithio i'r llu, dan ymchwiliad troseddol ar amheuaeth o rannu gwybodaeth heddlu heb awdurdod gyda Mr Jones ar 么l iddo adael y llu.

Mae'r swyddogion hyn wedi cael rhybuddion ymddygiad difrifol, ond dydyn nhw ddim yn cael eu hymchwilio mewn cysylltiad 芒'r negeseuon ff么n.

Dywedodd y corff nad yw'r canfyddiadau o reidrwydd yn arwain at gamau disgyblu ond bod yr ymchwiliad yn parhau.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent ei bod hi'n bwysig bod y materion hyn yn cael eu hymchwilio'n llawn a thrylwyr ac y byddan nhw yn parhau i gydweithio 芒'r IOPC a Heddlu Wiltshire.

'Lefel cwnstabl a rhengoedd arolygu'

Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC David Ford: "Mae ein hymchwiliad yn archwilio cyfnewid negeseuon, rhannu gwybodaeth yr heddlu heb awdurdod, ac a oedd unrhyw swyddogion mewn gwasanaeth wedi methu 芒 herio neu adrodd am ymddygiad eu cydweithwyr.

"Mae'r swyddogion sy'n destun ymchwiliad yn amrywio o gwnstabl heddlu i rengoedd arolygu.

Dywedodd y bydd y corff yn parhau i adolygu unrhyw wybodaeth bellach allai ddod i'r amlwg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Heddlu Wiltshire yn ymchwilio i Heddlu Gwent wedi marwolaeth Ricky Jones

"Rydym hefyd yn ymchwilio [i'r cyfnod] pan ddaeth Heddlu Gwent yn ymwybodol o bryderon teulu Ricky Jones am y negeseuon a pha gamau a gymerodd yr heddlu i'w harchwilio.

"Byddwn yn bwrw ymlaen 芒'r ymchwiliad mor gyflym 芒 phosib, ond o ystyried nifer y swyddogion a natur yr ymddygiad honedig na sy'n ddiweddar, fe fydd ymholiadau yn cymryd peth amser."

Mae ymchwiliad ar wah芒n yn parhau gan Heddlu Wiltshire i gyfres o gwynion gan deulu Ricky Jones.

Mae hyn yn ymwneud 芒'r modd y gwnaeth Heddlu Gwent ymdrin 芒'u hymchwiliad i'w farwolaeth a chyswllt swyddogion 芒'i berthnasau.

'Rhagfarn'

Dywedodd merch Ricky Jones, Emma bod y teulu'n "drist a siomedig" na fu unrhyw weithredu nes iddyn nhw siarad gyda'r wasg, a bod datganiad diweddaraf yr IOPC yn tanlinellu'r tebygrwydd rhwng "cymeriad fy nhad" a'r bobl y cyfathrebodd 芒 nhw.

"Rydym yn credu bod gan swyddogion Heddlu Gwent ragfarn yn ein herbyn fel teulu yn ystod eu hymchwiliad ar gyfer cwest fy nhad," dywedodd.

"Mae'r diweddariad hefyd yn tanlinellu un o'r amryw resymau na all dioddefwyr trais domestig gan heddwas fynd at yr heddlu. Yr heddlu yw'r swyddogion hyn sydd dan ymchwiliad."

Ar ran Heddlu Gwent dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Williams: "Ry'n yn ddiolchgar i'r IOPC am eu hymchwiliad trylwyr. Mae'n bwysig bod y materion yma yn cael eu hymchwilio'n llawn a thrylwyr ac fe fyddwn yn parhau i gydweithio 芒'r IOPC a Heddlu Wiltshire.

"Ry'n wedi nodi'n glir i'n cydweithwyr a'n cymunedau nad oes lle i gamymddwyn o fewn y llu hwn ac ry'n yn parhau yn ymrwymedig i geisio cael gwared ag ymddygiad o'r fath.

"Rwy'n gobeithio bod cyflymder a maint yr ymchwiliad hwn yn rhoi hyder i'r cyhoedd o'n hymrwymiad i ddelio ag unrhyw ymddygiad amhriodol."

Pynciau cysylltiedig