Y freuddwyd o brynu t欧 yn 'teimlo ymhell i ffwrdd'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc o Gaerdydd sydd 芒 dwy swydd er mwyn bod mewn sefyllfa i brynu t欧 yn dweud bod ei freuddwyd yn teimlo ymhell i ffwrdd.
Mae Jordan Edwards, 21, yn gweithio mewn ysgol yn ystod y dydd ac mewn canolfan ieuenctid dair noson yr wythnos.
Ond ar 么l talu rhent a biliau, mae'n dweud bod arbed arian i brynu t欧 yn anodd.
"Rwy'n teimlo fy mod yn gwneud popeth o fewn fy ngallu," meddai, "ond nid yw'r swm sy'n rhaid i chi ei wario o'i gymharu 芒'r hyn rydych chi'n ei wneud yn helpu mewn gwirionedd."
Fe wnaeth Banc Lloegr gyhoeddi ddydd Iau y bydd cyfraddau llog yn aros ar 5.25% fel cyfradd sylfaenol, ac mae hynny wedi gwthio cost morgeisi i fyny.
Mae Jordan yn credu y bydd yn gallu fforddio i brynu t欧 un diwrnod, ond bydd yn cymryd amser hir.
"Fi ddim yn gwybod sut mae unrhyw un yn disgwyl i bobl oedran ni geisio cael t欧 neu forgais o fewn cyfnod realistig o amser," meddai.
Mae Jordan yn rhentu gyda chyd-letywr i gadw costau i lawr ond "mae'n dal i fod yn frwydr", ychwanegodd.
"Mae llawer o fy ffrindiau yn dal i fyw gartref achos maen nhw methu fforddio i symud allan i rentu oherwydd fod e mor ddrud."
Fe awgrymodd ffigyrau chwyddiant ddydd Mercher bod costau byw'n parhau i ostwng.
Mae chwyddiant yn mesur y gyfradd y mae prisiau'n codi ac yn y flwyddyn hyd at Chwefror roedd yn 3.4%.
Roedd hyn yn gwymp mwy na'r disgwyl o'i gymharu 芒 ffigwr mis Ionawr o 4%.
Mae cyfraddau llog yn amlygu faint mae'n ei gostio i fenthyg arian, ac mae Banc Lloegr yn defnyddio cyfraddau llog i geisio dod 芒 chwyddiant i lawr i'w darged o 2%.
Mae cyfraddau llog uwch yn gwneud benthyca, gan gynnwys morgeisi, yn ddrutach.
Cyfraddau newidiol yn 'risg'
Fe ddaeth cytundeb morgais Samantha James, 36, o Bont-iets i ben ym mis Ionawr. Mae hi bellach ar gytundeb cyfradd newidiol.
"Fi 'di dewis mynd ar r芒t sydd yn mynd lan a lawr, a fi mynd i adael e fel 'na nawr nes diwedd yr haf i weld be sy'n digwydd," dywedodd.
"Gobeithio bydd e'n dod lawr ond mae fe'n risg yn amlwg achos gallai fe fynd lan.
"Fi'n sefyllfa eitha' lwcus - o'n i ar y gytundeb blaenorol am 15 mlynedd. Roedd e ddim yn ormod, ond nawr mae wedi mynd lan 拢100.
"Ni'n lwcus achos ni'n gallu fforddio fe am nawr, ac mae'n rhoi amser i ni weld be sy'n mynd i ddigwydd gyda'r farchnad yn hwyrach yn y flwyddyn.
"Mae rhaid i ni fod yn fwy gofalus gyda arian, yn bendant. Mae popeth yn mynd lan felly mae yn anodd.
"Ni'n lwcus bod bach o arian sb芒r gyda ni ar hyn o bryd, ond dydyn ni ddim eisiau bod ar variable rate yn hirach na'r haf."
Roedd hi'n gyfnod heriol pan ddaeth hi'n amser i edrych am forgais newydd, medd Samantha.
"O'n i yn poeni achos tuag at ddiwedd blwyddyn diwethaf, roedd llythyron yn dod trwyddo a o'n i'n gallu gweld faint oedd e mynd i fynd lan a oedd e lot mwy na 拢100 pryd hynny.
"Ond o'n i'n lwcus achos erbyn Ionawr wnaeth y radd ddechrau cwympo tamed bach."
Mwy yn chwilio am gymorth
Yn 么l y cynghorydd morgeisi, Rhys Young, mae mwy o bobl yn edrych am gymorth annibynnol ers i gyfraddau llog codi.
"O fewn y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy o bobl eisiau cymorth," dywedodd.
"Pryd oedd y cyfraddau yn tua 1% neu 2% roedd pobol yn hapus i gymryd manylion o'r banciau. Ond gyda'r cyfraddau mwy uchel o 5%-6% mae pobol eisiau darlun o'r farchnad gyfan a'r math o opsiynau sydd mas yna.
"Os bydd chwyddiant yn cario ymlaen i ddod lawr yn ystod y misoedd nesaf, gobeithio bydd cyfraddau llog yn dechrau dod lawr hefyd, ond am nawr ni'n disgwyl i weld a fyddan nhw'n aros ar yr un radd.
"Beth ni 'di sylweddoli dros y misoedd diwethaf yw os mae rhywun yn gallu fforddio t欧 am 拢200,000 mae'r taliadau mor uchel maen nhw ddim eisiau prynu'r t欧 yna.
"Felly yn lle prynu t欧 am 拢200,000, mae nhw'n prynu un 拢160,000 i gael safon da o fywyd hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2023