Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Plaid Cymru yn cynnig 'dyfodol gwahanol' - Rhun ap Iorwerth
Dylai pleidleiswyr sydd eisiau dyfodol gwahanol i'r gorffennol gefnogi Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol y DU, medd yr arweinydd wrth gynhadledd ei blaid ddydd Gwener.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod Ceidwadwyr wedi achosi "difrod di-ddweud" i'r rhai maen nhw i fod i'w gwasanaethu a bod Llafur yn syml yn cynnig mwy o lymder.
Yng nghynadledd y blaid yng Nghaernarfon, ychwanegodd bod y blaid "yn sefyll ar wah芒n i wleidyddiaeth sefydliad y DU".
"Rydyn ni eisiau i bobl deimlo gobaith am wleidyddiaeth unwaith eto."
Yn gyfrifol am Blaid Cymru ers naw mis, mae Mr ap Iorwerth yn arwain y trydydd gr诺p mwyaf ym Mae Caerdydd, gyda 12 sedd yn y siambr 60 aelod, y tu 么l i'r Blaid Lafur lywodraethol a'r Ceidwadwyr.
Mae gan y Blaid dri AS yn San Steffan.
Mae Plaid Cymru yn wrthblaid ond mae hi ym mlwyddyn olaf cytundeb cydweithredu tair blynedd gyda gweinidogion Llafur ar ystod o bolis茂au, gan gynnwys ehangu Senedd Cymru, gofal plant a chinio ysgol am ddim.
'Cyfundrefn ddrylliedig'
Yn ei araith brynhawn Gwener, beirniadodd Mr ap Iorwerth Llafur a'r Ceidwadwyr, wrth iddo geisio egluro pam y dylai pleidleiswyr gefnogi ymgeiswyr ei blaid mewn etholiad cyffredinol DU sydd i fod i ddigwydd yn y 10 mis nesaf.
"O F么n i Fynwy, mae ASau Ceidwadol wedi cefnogi cyfundrefn ddrylliedig sy'n achosi di-ddweud i'r bobl y maent i fod i'w gwasanaethu," meddai.
Ond ateb arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer oedd i "gyhoeddi'r angen am agwedd hollol newydd at wleidyddiaeth" ond "dilyn uniongrededd y Ceidwadwyr".
Dywedodd Mr ap Iorwerth fod "gweld Rachel Reeves [canghellor yr wrthblaid yn San Steffan] yn cerdded yr un llwybr 芒 Jeremy Hunt yn cynnig rhagor o lymder".
Ei ddadl oedd y bydd pleidleisio i Blaid Cymru "yn cadw'r Tor茂aid allan, yn rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf ac yn anfon neges i Lafur i beidio cymryd Cymru'n ganiataol".
Mae Llafur wedi bod mewn llywodraeth yng Nghaerdydd ers datganoli yn 1999, ac ar hyn o bryd mae ganddi 30 o'r 60 sedd ym Mae Caerdydd a 21 o 40 sedd Cymru yn San Steffan.
"Rydym yn sefyll ar wah芒n i wleidyddiaeth sefydliad y DU. Nid ydym am i'r dyfodol edrych fel y gorffennol.
"Rydyn ni eisiau i bobl deimlo gobaith am wleidyddiaeth unwaith eto."Galwodd hefyd am fwy o arian gan lywodraeth nesaf y DU.
"Rhowch y cyllid sy'n eiddo i ni, o goffrau'r Trysorlys y mae arian trethdalwyr Cymru yn cyfrannu ato, fel pob rhan arall o'r DU."
Mynnodd hefyd y dylai llywodraeth y DU gryfhau pwerau'r Senedd ym Mae Caerdydd.
"Rhowch y grymoedd sydd eu hangen arnom i adeiladu senedd bwerus, nid datganoli tameidiog na all gadw i fyny 芒 gobeithion ein pobl," meddai.
Cafodd Rhun ap Iorwerth ei ethol heb wrthwynebiad fel arweinydd Plaid Cymru fis Mehefin diwethaf, yn sgil ymddiswyddiad dramatig Adam Price ar 么l i adroddiad damniol honni diwylliant o fwlio, aflonyddu a chasineb at fenywod yn y blaid.