大象传媒

Dathlu 60 mlynedd o Zulu, y ffilm ryfel Gymreig

  • Cyhoeddwyd
Poster ZuluFfynhonnell y llun, LMPC

Ar 30 Mawrth 1964, cafodd y ffilm Zulu ei rhyddhau mewn sinem芒u ledled Prydain.

Mae'r ffilm yn adrodd hanes brwydr yn erbyn pobl gynhenid yn Ne Affrica lle chwaraeodd catrawd o Gymru ran blaenllaw, ond fel yr eglura Gary Slaymaker, mae gan y ffilm ei hun nifer o gysylltiadau Cymreig eraill hefyd.

Adrodd hanes Rorke's Drift

Ro'n i'n 10 oed pan weles i hi gynta', ac fe wnaeth y ffilm argraff ryfeddol ar y Slaymaker bach - menywod topless, acenion Cymreig, trac sain nerthol John Barry, ac ymladd ffyrnig... lot o ymladd ffyrnig.

Mae'r ffilm yn seiliedig ar hanes catrawd y 24th Regiment of Foot (neu'r South Wales Borderers, fel roedd y gatrawd hefyd yn cael ei hadnabod), a'i dewrder yn amddiffyn cenhadaeth Rorke's Drift, yn Natal, De Affrica, ar 22 Ionawr 1879.

Fuodd rhaid i llai na 200 o ddynion wynebu byddin o 4,000 o Zulus, ac wedi 12 awr o frwydro digyfaddawd, fe lwyddodd amddiffynwyr y genhadaeth lwyddo i rhoi stop ar y Zulus, ac ennill parch y rhyfelwyr brodorol.

Fe gyflwynwyd 11 Croes Fictoria i amddiffynwyr Rorke's Drift am eu dewrder; yn 么l haneswyr, y nifer fwya' a gafodd eu cyflwyno ar gyfer un frwydr.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Catrawd y Cymry Brenhinol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dehongliad yr artist W F Dugan o frwydr Rorke's Drift. Rhwng Mehefin a Medi, mae Amgueddfa Catrawd y Cymry Brenhinol yn dathlu 145 o flynyddoedd ers y Rhyfel Eingl-Zulu a 60 mlynedd ers y ffilm Zulu, gyda'r arddangosfa For Queen and County: The War o 1879

Mae'n stori a hanner, ac un person fuodd 芒 diddordeb anferth yn yr hanes am flynyddoedd maith oedd yr actor o Ferndale yn y Rhondda, Syr Stanley Baker.

Roedd Baker yn un o'r actorion 'na oedd yr un mor gyfforddus yn chwarae arwyr neu ddihirod ar y sgrin fawr. Yn ystod y 50au hwyr a'r 60au cynnar, fe ddaeth yn enw cyfarwydd i gynulleidfaoedd sinema, gyda ffilmiau fel Campbell's Kingdom, Yesterday's Enemy, Hell Drivers a The Guns of Navarone.

Yn ystod ffilmio Hell Drivers (1957), fe ddaeth Baker yn ffrindiau agos gyda'r cyfarwyddwr Cy Endfield, ac roedd y ddau yn awyddus i weithio gyda'i gilydd eto.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, na'th y ddau daro ar draws ei gilydd, a drwy lwc pur, roedd Endfield yn gyfarwydd 芒 stori amddiffynwyr Rorke's Drift hefyd, ac fe benderfynodd y ddau i fynd ati i lunio sgript a chyllideb.

Ffynhonnell y llun, Archive Photos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y cyfarwyddwr Cy Endfield ar set Zulu

Yr un darn bach arall o lwc oedd ei angen ar Baker ac Endfield oedd dod o hyd i rywun fyddai'n medru ariannu'r prosiect. Dyma pryd ddaeth y cynhyrchydd Joseph E Levine at y prosiect, g诺r oedd 芒 meddwl mawr o ddoniau'r actor.

Pan ddywedodd Baker wrth Levine bod ganddo fe syniad am ffilm newydd o'r enw Zulu, ateb y cynhyrychydd oedd, "Zulu! I like that title. I will back you".

A dyna gychwyn ar un o'r ffilmiau 'na sydd wastad yn agos i frig unrhyw restr o ffilmiau Cymreig, a sy'n bictiwr 'wy'n caru'n ddi-flino hyd heddiw.

Ffynhonnell y llun, Silver Screen Collection
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stanley Baker oedd yn actio'r Is-gapten John Chard, a Michael Caine oedd yr Is-gapten Gonville Bromhead

Llwyddiant Zulu

Roedd premiere Zulu yn Llundain, 85 mlynedd yn union ers brwydr Rorke's Drift; ac ar ben hynny, unwaith ei bod hi mewn sinem芒u, fe brofodd i fod yn un o'r llwyddiannau mwya' yn hanes y sinema Brydeinig.

Am y 12 mlynedd nesa', fe fyddai hi'n ymddangos yn gyson mewn sinem芒u cyn cael ei darllediad cynta' ar deledu, a hyn sy'n esbonio shwt lwyddes i weld hi yn 1973, yn hen sinema'r Castle, Abertawe gyda'n nhad.

Hon odd y ffilm gynta' i dim ond fi a Dad weld 'da'n gilydd mewn sinema go iawn; a galla i ddim meddwl am well ddechreuad i'r rhestr o ffilmiau welon ni dros y blynyddoedd nesa'.

Dros y blynyddoedd, mae cariad pobl tuag at Zulu ond wedi tyfu, er gwaetha rhai'n ei dilorni hi am fod yn esiampl o imperialaeth, neu drefedigaethedd ar ei waetha'.

Fel hyn mae gwefan adolygu ffilmiau Rotten Tomatoes yn ei disgrifio hi: "Zulu patiently establishes a cast of colourful characters and insurmountable stakes before unleashing its white-knuckle spectacle, delivering an unforgettable war epic in the bargain". Clywch clywch, Rotten Tomatoes.

Ffynhonnell y llun, Getty/Amgueddfa Catrawd y Cymry Brenhinol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stanley Baker tu allan i sinema Olympia yng Nghaerdydd ar gyfer y premiere Cymreig, a'r rhaglen. Wythnos yn ddiweddarach, cafodd y ffilm ei rhyddhau mewn sinem芒u ledled Prydain

Dod 芒'r chwedloniaeth yn fyw

Deg mlynedd yn 么l, fe gyflwynais raglen ar 大象传媒 Radio Wales, yn edrych n么l ar hanes y ffilm, a s么n hefyd am y ffordd 'nath Zulu ddod 芒 fi a Dad yn agosach at ein gilydd drwy ein cariad o sinema. Yn ystod y rhaglen fe fues i'n ddigon ffodus i dreulio prynhawn yng nghwmni Lady Elen Baker (gweddw Syr Stanley), ac roedd ei hatgofion hi o'r cyfnod ffilmio yn dod 芒'r holl stori'n fyw unwaith eto.

Nawr i fod yn gwbl onest, 'dyw Zulu ddim wastad yn ffeithiol gywir. Allan o'r 200 o ddynion fuodd yn brwydro ar ochr y South Wales Borderers, dim ond 32 oedd yn Gymry.

Ond wedyn, ro'dd Stanley Baker yn deall gwerth chwedloniaeth a mytholeg ar y sgrin fawr, a fe wnaeth yn siwr bod 'na actorion Cymraeg mewn rhannau amlwg; Richard Davies, Dafydd Havard, Peter Gill, Denys Graham, a'r enwoca' ohonyn nhw i gyd, Ivor Emmanuel.

Yn enedigol o Fargam, Port Talbot, roedd Ivor yn lled-enwog yn barod fel canwr, gyda llais barit么n cyfoethog. Fe weithiodd mewn dram芒u cerddorol (gyda diolch mawr i Richard Burton am ei jobyn cynta') ac ymddangos ar sioeau teledu, ond heb os Zulu oedd y ffilm wnaeth wneud ei enw.

A gan bo' fi newydd s么n am Burton, rhaid nodi'r ffaith mai fe wnaeth y troslais sy'n agor a chloi Zulu, fel ffafr i'w hen ffrind, Stanley Baker.

Ffynhonnell y llun, Keystone-France
Disgrifiad o鈥檙 llun,

(o'r chwith) Richard Burton, Elizabeth Taylor, y cynhyrchydd Joseph Levine a Stanley Baker yng Nghanada yn ystod taith hyrwyddo'r ffilm

Felly, dyna ni - ffilm sydd 芒 Chymreictod yn rhedeg yn llwyr trwy ei gwythiennau, a digwydd bod, mae hefyd yn un o'r ffilmiau rhyfel gorau yn hanes y sgrin fawr.

Penblwydd hapus Zulu; 'wy'n edrych ml芒n i atgoffa pawb amdanoch chi pan gyrhaeddwch chi'r 70.

Hefyd o ddiddordeb: