大象传媒

Sophie Ingle i gamu lawr fel capten t卯m Cymru

  • Cyhoeddwyd
Sophie IngleFfynhonnell y llun, Jan Kruger

Mae Sophie Ingle yn camu lawr fel capten Cymru ar 么l bod yn y r么l am naw mlynedd.

Mae'r chwaraewraig ganol cae, 32 oed, wedi chwarae 136 o weithiau i Gymru.

Hi hefyd a arweiniodd y t卯m i fuddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Croatia yng ng锚m agoriadol rowndiau rhagbrofol Euro 2025 nos Wener.

Nid yw'r t卯m wedi cyhoeddi pwy fydd yn olynu Ingle fel capten.

Bydd y t卯m yn wynebu Kosovo mewn g锚m ragbrofol Euro 2025 arall nos Fawrth.

'Uchafbwynt gyrfa' i Ingle

Dywedodd Sophie Ingle: "Dyma'r naw mlynedd orau, yn cynrychioli fy ngwlad ac yn arwain y criw yma o ferched.

"Yn sicr mae wedi bod yn uchafbwynt gyrfa ac yn un y wna i fyth anghofio.

"Dwi'n meddwl mai dyma'r amser cywir i mi a'r t卯m wrth symud ymlaen, i drosglwyddo band y capten."

Ffynhonnell y llun, Jan Kruger/ Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

T卯m Cymru yn dathlu eu llwyddiant yn erbyn Croatia nos Wener

Ychwanegodd: "Mae bod yn gapten Cymru wedi creu'r person ydw i heddiw. Pan ges i'r band roeddwn i ond yn 23, yn berson swil, yn ferch ifanc nad oedd yn siarad rhyw lawer gyda'r t卯m.

"Yn sicr mae bod yn gapten wedi rhoi'r p诺er i mi siarad gyda'r merched ac i ddatblygu ein perthynas."

'Dim synnwyr'

Ond wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun, dywedodd cyn-chwaraewr Cymru a'r sylwebydd p锚l-droed, Kath Morgan, bod y cyhoeddiad wedi dod fel "sioc" iddi.

"O' ni ffili credu'r peth, ond ti 'mod beth fi ddim cweit yn gallu deall na derbyn ei rhesymau am roi lan y gapteiniaeth.

"Dyw amseriad y peth i fi ddim yn 'neud unrhyw synnwyr o gwbl."

Ffynhonnell y llun, Jan Kruger

Mae Ingle wedi bod yn gapten ers 2015 gan olynu Jess Fishlock.

Dywedodd Ingle ei bod wedi ystyried y penderfyniad ers wythnosau, a'i bod eisoes wedi bod yn trafod gyda chyn-reolwr Cymru, Gemma Grainger, sydd wedi gadael am Norwy fis Ionawr.

Gyda'r penderfyniad wedi bod ar feddwl Ingle ers cyn y Nadolig, mae Kath Morgan o'r farn y dylai wedi cyhoeddi datganiad "unwaith wnaeth Gemma Grainger adael, dyw e ddim yn eistedd yn gyfforddus gyda fi".

"Dyw'r penderfyniad yma ddim yr un gorau mae'r gymdeithas b锚l-droed wedi ei wneud."

Er nad oes gan Ingle unrhyw gynlluniau i ymddeol o'r g锚m, mae'n edrych ymlaen at gynnig cymorth i'r sawl fydd yn ei holynu.