Dyn ifanc o Sir G芒r wedi ei anafu'n ddifrifol yn Sbaen

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Magaluf yn denu miloedd o dwristiaid Prydeinig bob blwyddyn
  • Awdur, Dafydd Morgan
  • Swydd, 大象传媒 Cymru

Mae'r awdurdodau yn Sbaen yn ymchwilio ar 么l i ddyn 28 oed o Gymru gael ei anafu'n ddifrifol yn Mallorca dros y penwythnos.

Mae heddlu cenedlaethol Sbaen ar yr ynys yn ymchwilio i'r digwyddiad. Dyw hi ddim yn glir eto union natur y digwyddiad nac anafiadau'r dyn.

Mae'r 大象传媒 yn deall mai Ifor Jones, o Lanllwni yn Sir Gaerfyrddin, yw'r dyn sydd wedi ei anafu, a'i fod ar barti stag yn Magaluf dros y penwythnos.

Cafodd ei gludo i'r ysbyty am driniaeth, ond dyw ei gyflwr ddim yn glir hyd yma.

Mae'r Swyddfa Dramor yn dweud eu bod yn "rhoi cymorth i deulu dyn o Brydain a gafodd ei gludo i'r ysbyty yn Sbaen", a'u bod "mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau'n lleol".