A fydd diweddglo perffaith i dymor cyntaf Wrecsam yn 么l?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Paul Mullin yn dathlu g么l ddiweddar i Wrecsam gydag Elliot Lee ac Andy Cannon
  • Awdur, Aled Williams
  • Swydd, Chwaraeon 大象传媒 Cymru

Hir yw pob aros medda' nhw.

Ar 么l disgwyl 15 mlynedd am ddyrchafiad o Gynghrair Genedlaethol Lloegr, mae Wrecsam o fewn cyrraedd dyrchafiad awtomatig am yr ail flwyddyn yn olynol.

Fe gadarnhaodd t卯m Phil Parkinson eu lle yn y gemau ail gyfle Adran Dau gyda buddugoliaeth gyfforddus o 4-1 yn erbyn Crawley ar y Cae Ras nos Fawrth.

Mae'r Dreigiau mewn sefyllfa gref wrth i'r tymor ddirwyn i ben.

Ffynhonnell y llun, Matthew Ashton - AMA

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Paul Mullin anaf ddifrifol cyn dechrau'r tymor, ond mae wedi bod yn hollbwysig i Wrecsam yn ystod y tymor

Mae'r ymosodwr Paul Mullin wedi bod yn rhoi'r b锚l i mewn i'r g么l yn gyson yn y gemau hollbwysig dros yr wythnosau diwethaf, a hynny ar 么l colli dechrau'r tymor wedi anaf cas.

Roedd Mullin wedi tyllu ei ysgyfaint mewn g锚m gyfeillgar yn ystod yr haf a gyda'r talisman yn absennol, colli i MK Dons oedd hanes Wrecsam ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch.

Mi fyddai llawer ar ddechrau'r tymor wedi bod yn ddigon bodlon gyda lle yn y gemau ail gyfle.

Ond y nod bellach fydd osgoi'r gemau diwedd tymor, a sicrhau dyrchafiad awtomatig er mwyn cael mwynhau'r haf ac edrych ymlaen at fywyd yn Adran Un.

Nid fod Parkinson a'i d卯m yn gyhoeddus yn meiddio s么n am ddyrchafiad, am y tro o leiaf. Un g锚m ar y tro yw hi.

Ond y tu 么l i ddrysau caeedig yr ystafell newid fe fydd staff a chwaraewyr Wrecsam yn ymwybodol iawn o'r hyn maent angen ei wneud i gyflawni hynny.

Maen nhw bellach wedi arfer gyda brwydro ar frig cynghrair, gyda Parkinson hyd yn oed yn awgrymu bod angen cofleidio a mwynhau y pwysau a ddaw o'r ras am ddyrchafiad.

Mae Wrecsam yn ail yn y tabl ac mi fyddai pum pwynt o'r dair g锚m sydd ganddyn nhw yn weddill yn sicrhau eu lle yn y tri uchaf a dyrchafiad awtomatig.

Ond fe allai Wrecsam sicrhau dyrchafiad awtomatig mor fuan 芒'r Sadwrn hwn drwy guro'r t卯m ar y gwaelod, Forest Green Rovers, ac os bydd MK Dons a Barrow yn methu ennill eu gemau nhw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Rob McElhenney (chwith) a Ryan Reynolds wedi bod yn berchnogion Wrecsam ers 2022

Tra bod y tymor ar y maes yn dirwyn i ben, ar fin dechrau y mae trydedd cyfres 'Welcome to Wrexham'.

Mae'r gyfres ddogfen sy'n bwrw golwg ar y clwb dan berchnogaeth s锚r Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi profi yn boblogaidd iawn yn enwedig yng ngogledd America.

Mae ffilmiau Hollywood yn hoff o ddiweddglo dramatig, sydd yn y pen draw yn gorffen yn hapus.

A dyna yw'r sgript mae Reynolds a McElhenney yn gobeithio ar gyfer diweddglo cyfres ddiweddaraf Disney.