大象传媒

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Iwerddon 36-5 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru yn erbyn IwerddonFfynhonnell y llun, Brendan Moran / Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Molly Reardon a Abbie Fleming yn ceisio atal prop Iwerddon, Christy Haney

Mae Cymru wedi colli am y trydydd tro o'r bron ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi i Iwerddon eu trechu'n hawdd.

36-5 oedd y sg么r terfynol ym Mharc Virgin Media, Cork - canlyniad sy'n golygu bod Cymru'n parhau ar waelod y tabl.

Roedd t卯m Ioan Cunningham eisoes wedi golli g锚m agos ar Barc yr Arfau yn erbyn Yr Alban cyn colli'n drwm oddi cartref yn erbyn y deiliaid Lloegr.

Roedd y t卯m cartref 21-0 ar y blaen erbyn diwedd yr hanner cyntaf wedi i Aoife Wafe, Eve Higgins a Neve Jones groesi'r llinell.

Fe diriodd Katie Corrigan wedyn ar ddechrau'r ail hanner cyn i Beibhinn Parsons sgorio pumed cais Iwerddon.

Roedd yna ambell eiliad addawol i'r Cymru - fe wnaethon nhw ddarfod y g锚m yn gryfach ac roedd yna elfennau cadarnhaol o ran yr amddiffyn a'r sgrym.

Ac fe sgoriodd Gwennan Hopkins unig gais Cymru yn ei g锚m ryngwladol gyntaf ar 么l dod ymlaen fel eilydd.

Ond chwarae am friwsion fydd Cymru yn y ddwy g锚m sy'n weddill - y ddau yng Nghaerdydd - yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.