'Braint achub capel gwledig yng Ngheredigion'
- Cyhoeddwyd
Yn 2004 roedd capel Ebeneser, Ystumtuen - ardal fynyddig 12 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth - yn barod i gau'r drysau nes i gyn-arweinydd C么r Meibion Trelawnyd ddod i'w achub ac ers hynny mae e wedi bod yn trefnu oedfaon yn y capel Wesleaidd unwaith y mis.
Mae Geraint Roberts yn byw ym Mhrestatyn - taith ryw deirawr o Ystumtuen - ond dywed ei bod wedi bod yn fraint "trefnu yr oedfaon am yr 20 mlynedd diwethaf er parchus gof am y tair blynedd hapus" a dreuliodd yn yr ardal pan roedd ei dad yn weinidog ar y capel.
"2004 oedd hi pan ddywedodd gweinidog capel Ebeneser bod y capel wedi 'outgrown its usefulness' a'r bwriad oedd ei werthu heb ystyried, mae'n debyg, bod y capel a safai yn hen ardal y diwydiant plwm yn adeilad cofrestredig," meddai Mr Roberts wrth siarad 芒 Cymru Fyw.
"Wedi i rywrai'n lleol gysylltu yn gofyn am fy help dyma fi'n mynd ati yn syth i geisio cael rhai o'r teuluoedd a arferai fynychu'r capel i ddod eto - ac yn wir i chi mae 'na nifer go dda wedi bod yn dod yn gyson."
Cafodd capel Ebeneser ei adeiladu'n wreiddiol ar ddechrau'r 19g a'i ehangu yn ddiweddarach y ganrif honno ac mae'n debyg mai dyma'r capel Methodistaidd Wesleaidd cyntaf yng Ngheredigion.
Cafodd ei adeiladu yn bennaf gan fwynwyr plwm o Gernyw oedd wedi dod i'r ardal i weithio.
"Un o'm hatgofion cyntaf erioed yw eistedd y tu allan i Glantuen - mans cylchdaith Ystumtuen ym mynyddoedd y Pumlumon," ychwanegodd Geraint Roberts, mab y diweddar Barchedig Cifford Roberts.
"Ychydig cyn i ni symud roedd yr ysgol leol newydd gau ac wedi cael ei haddasu'n hostel ieuenctid ac roedd yna dipyn o bobl ifanc yn ymweld 芒'r ardal.
"Roedd gweinidog Wesle yn gorfod symud yn gyson a chyfnod byr o ryw dair blynedd fuom i yno ond oedd e'n gyfnod sobor o hapus.
"Roedd yna deimlad o agosatrwydd yn perthyn i'r lle - cymdeithas gl貌s ddiwylliedig yn llawn cyfarfodydd cymdeithasol, dram芒u ac eisteddfodau a dwi mor falch bod fy nghyfeillgarwch i 芒'r ardal yn parhau dros 60 mlynedd yn ddiweddarach."
"Mae'n ardal fynyddig iawn ac roedd y gaeafau yn galed a phetrol yn brin. Dwi'n cofio fy nhad yn gorfod cerdded i wasanaethu o un capel i'r llall. Daeth y cyfan i ben yn llawer rhy gyflym.
"Wedi hynny buom fel teulu yn byw ym Mrymbo, Rhyd-y-foel a Phrestatyn a chael cyfnod gwych ymhobman ond mae agosatrwydd pentref Ystumtuen yn dal yn fyw yn y cof a dwi mor falch bo fi wedi medru cadw'r capel i fynd - dyna ganolbwynt y gymuned ac mae'n le pwysig fel man cyfarfod," meddai Geraint Roberts.
Croeso twymgalon
Un sy'n mynychu'r oedfaon yw Huw Morris a symudodd i'r ardal 15 mlynedd yn 么l.
Wrth siarad 芒 Cymru Fyw dywedodd bod y capel yn ganolbwynt y gymuned wedi i'r ysgol a'r siop gau.
"Mae'r gwasanaethau mor werthfawr - yn fan cyfarfod - ac yn dod 芒 bywyd i'r ardal.
"Mae croeso twymgalon i unrhyw un ymuno 芒 ni."
Bydd Geraint Roberts yn s么n mwy am ei ymrwymiad i Gapel Ystumtuen ar Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar 大象传媒 Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
- Cyhoeddwyd18 Chwefror