´óÏó´«Ã½

Crynodeb

  • Pumed diwrnod Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018

  • Mae'r eisteddfod yn cael ei chynnal eleni ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd

  • Enillydd y Goron yw Erin Hughes oedd ddim yn bresennol o achos salwch

  • Yr Urdd yn gosod nod i greu 100 prentisiaeth erbyn 2022

  • Gwrandewch ar y cystadlu trwy'r dydd ar Radio Cymru

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Dyna'r cyfan gan Lif Byw'r Steddfod ar ddydd Gwener.

    Llongyfarchiadau mawr i Erin Hughes o Ben Llyn a'r holl gystadleuwyr yn ystod y dydd.

    Hwyl fawr am y tro.

  2. Trefnu seremoniwedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Yr Urdd yn mynd i drefnu seremoni i anrhydeddu Erin Hughes pan fydd hi wedi gwella.

  3. Dylanwadauwedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Aled Jones Williams, Sonia Edwards a Lleucu Roberts yw rhai o’i dylanwadau mwyaf.

    Mae Erin yn dweud bod ei dyled yn enfawr i’w hathrawon a’i darlithwyr Cymraeg am eu hanogaeth ddiflino ar hyd y blynyddoedd.

    Mae hefyd yn dweud ei fod yn ddiolchgar i'w theulu ac i Steffan ei phartner a’i deulu, oedd yn bresennol yn y seremoni.

    Yr Athro Gerwyn Williams sydd yn derbyn y goron ar ei rhan.

  4. Cefndir yr enillyddwedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae Erin, 20, yn byw yng Ngheidio, yn ardal Boduan ger Pwllheli ac yn blentyn canol o bump o blant.

    Cafodd ei haddysg gynradd yn Ysgol Pont-y-Gôf, ac yna addysg uwchradd yn Ysgol Botwnnog a Choleg Merion Dwyfor.

    Mae bellach newydd orffen ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor, lle mae’n astudio’r Gymraeg a Chymdeithaseg.

  5. Yr enillydd ddim yn bresennolwedi ei gyhoeddi 16:18 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Yn anffodus, dyw Erin ddim yn bresennol i dderbyn ei choron yn y seremoni heddiw oherwydd salwch.

    Mae Erin yn dioddef o gyflwr sy'n ymyrryd ar y cyswllt rhwng y nerfau a'r cyhyrau; cyflwr a elwir yn Myasthenia Gravis.

    SionedFfynhonnell y llun, Yr Urdd
  6. Enillydd y Goron yw...wedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Sioned Erin Hughes 20 oed o Ben Llyn yw yn Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed.

    CoronFfynhonnell y llun, bbc
  7. 'Melyn' sydd yn mynd â hiwedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    'Melyn' sydd yn mynd â hi.

    Yn drydydd roedd Iestyn Tyne, Mared Roberts sydd yn ail.

  8. Seremoni'r Goronwedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae'r brif seremoni wedi dechrau.

    Catrin Beard sy'n traddodi'r feirniadaeth.

    Mae'n dweud bod y safon eleni wedi bod yn uchel ac fe fydden nhw wedi bod yn "barod i wobrwyo hyd at saith o'r ymdrechion".

    Catrin BeardFfynhonnell y llun, bbc
  9. Steddfod y stondinwyrwedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    I Lara ac Emily o Aberystwyth, mae gweithio ar stondin ar faes yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ymarfer eu Cymraeg.

    Mae'r ddwy, sy'n gweithio yn Siop y Pethe yn y dref, ac yma ar y maes yr wythnos hon, wedi dysgu Cymraeg.

    "Dwi'n dysgu ers blwyddyn a hanner," meddai Lara sy'n wraig i Nicky Roberts, un o'r pump sydd wedi dod i'r brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Caerdydd 2018.

    "Symudon ni o Abertawe i Aberystwyth a meddwl rydw i'n Gymraes, ddylwn i fod yn gallu siarad yr iaith."

    "Dwi'n dod o gefndir di-Gymraeg," meddai Emily. "Does neb o fy nheulu na ffrindiau yn siarad yr iaith, ond fe wnes i gais i weithio yn y siop, a dwi'n dysgu wrth weithio.

    "Mae gweithio yna yn help i ymarfer ac rydyn ni'n dwy yn cynnal Clwb Clonc er mwyn i ddysgwyr eraill ymarfer eu Cymraeg."

    Siop y Pethe
  10. Hanesion yr ardal yn destun llyfr newyddwedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Os ydych chi awydd teithio o amgylch ardal brydferth yr eisteddfod fe allai llyfryn bach newydd fod o fudd i chi.

    Bethan Price o Fenter iaith Brycheiniog a Maesyfed sy’n gyfrifol am Enwau Lleoedd Brycheiniog a Maesyfed.

    Mae'n rhoi hanesion diddorol gwahanol drefi a phentrefi.

    Dywedodd Bethan: "O ni’n teimlo yn yr ardal hon fod hi mor bwysig fod pobl yn deall yr enwau er mwyn sicrhau eu bod yn eu cadw nhw.

    "Os nad ydynt yn deall yr enwau dyn nhw ddim yn teimlo gymaint drostynt."

    Bethan Price
  11. Canlyniad yr ymgomwedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Ymgom Bl. 10 a dan 19 oed

    1. Ysgol Gyfun Rhydywaun

    2. Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

    3. Ysgol Gyfun Garth Olwg

  12. Llongyfarchiadau!wedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Beth yw eich atgof cynharaf chi o'r Urdd?wedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Llywydd y dydd, Richard Lynch sydd yn rhannu ei atgof ef.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Dim angen ymbarel ar y maes heddiw!wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Lluniau dydd Gwener o'r maeswedi ei gyhoeddi 14:43 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    ´óÏó´«Ã½ Cymru Fyw

    Fe ddaeth y glaw ben bore ond erbyn hyn mae'r haul yn disgleirio.

    Ac mae ffotograffydd Cymru Fyw wedi bod yn crwydro'r maes.

    Dyma .

    Efa, Bleddyn ac Esyllt
    Disgrifiad o’r llun,

    Efa, Bleddyn ac Esyllt yn mwynhau'r ffair

  16. Canlyniad unawd bechgynwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Unawd Bechgyn Bl. 10 a dan 19 oed

    1. Cai Fôn Davies Ysgol Uwchradd Tryfan

    2. Lewys Meredydd Uwch Adran Cylch Idris

    3. Dyfan Parry Jones Aelod Unigol Cylch Bro Ddyfi

  17. Cinio yn yr haulwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Mae'r haul yn gwenu ar faes y Steddfod amser cinio, ac mae'r teulu Laing o Fae Colwyn yn mwynhau eu picnic cyn i'r merched gystadlu yng nghystadleuaeth y Côr SATB gyda Ysgol y Creuddyn, yn hwyrach yn y prynhawn.

    Teulu Laing
  18. Canlyniad y ddeuawd cerdd dantwedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Deuawd Cerdd Dant Bl. 10 a dan 19 oed

    1. Beca ac Elan Aelwyd Llanbedr Pont Steffan

    2. Elenid a Modlen Adran Ysbyty Ifan

    3. Celyn a Hanna Ysgol Bro Myrddin

  19. 'Safon aruthrol' i'r Siarad Cyhoedduswedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Prifysgol Abertawe

    Cafodd cystadleuaeth siarad gyhoeddus ei gynnal heddiw yn y GwyddonLe.

    Y testun oedd 'Mae ynni niwclear yn hanfodol er mwyn sicrhau cyflenwad ynni cynaliadwy i Gymru'.

    Enillydd y gystadleuaeth oedd Ellen Jones, disgybl blwyddyn 11 o Ysgol y Creuddyn.

    Dywedodd un o'r beirniaid, Helen Mary Jones, dirprwy gyfarwyddwr Academi Morgan Prifysgol Abertawe bod y "safon yn aruthrol".

    Ellen Jones o Ysgol y CreuddynFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
  20. Canlyniad y ddeuawd offerynnolwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2018

    Eisteddfod yr Urdd

    Deuawd Offerynnol Bl. 13 ac iau

    1. Rachel a Huw Ysgol Uwchradd Brynrefail

    2.Elin ac Amy Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt

    3. Annest Mair ac Awen Esyllt Ysgol Gyfun Y Preseli