Grantiau busnes i elusennauwedi ei gyhoeddi 08:32 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2020
Mae disgwyl i Weinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans gyhoeddi y bydd elusennau bychain yng Nghymru yn derbyn grantiau busnes o £10,000 i'w cynorthwyo gyda heriau Covid-19.
Mae'r pecyn cymorth £26m - estyniad i gynllun grantiau a gyhoeddwyd fis diwethaf - hefyd yn cefnogi 2,600 o ddarnau eiddo yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch.
Byddai hynny'n cynnwys siopau elusen, sefydliadau chwaraeon a chanolfannau cymunedol. Tan nawr dydyn nhw heb fod yn gymwys i dderbyn grant.