Hogia' Llangwm 'di cyrraedd y maeswedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich+1 7 Awst 2023
Lowri ac Ynyr o Langwm sy'n gwarchod yr hogiau direidus 'ma heddiw!
Rhys Iorwerth yn ennill y Goron o blith 42 o gystadleuwyr
Cyflwyno Medal TH Parry-Williams i Geraint Jones
Urddo enillwyr Eisteddfod Ceredigion 2022 ac Eisteddfod yr Urdd
Dim Theatr y Maes ond perfformiadau theatrig ar draws y Brifwyl
Gwerthfawrogi cyfraniad Alan Llwyd a Wil Sam
Lowri ac Ynyr o Langwm sy'n gwarchod yr hogiau direidus 'ma heddiw!
Yn y Babell L锚n mae 鈥榥a sgwrs dan y teitl 鈥楲lyfrau Lliwgar Cymru鈥, sy鈥檔 trafod datblygiad llenyddiaeth LHDTC+ yng Nghymru.
Mae Gareth Evans-Jones yn dechrau drwy ofyn i鈥檙 panel a oes un darn o lenyddiaeth yn y maes hwnnw sydd wedi creu argraff benodol arnyn nhw.
Dewis Lois Gwenllian yw 鈥楾u 么l i鈥檙 Awyr鈥 gan Megan Angharad Hunter, tra bod Dr Nia Jones yn canmol 鈥極n the Red Hill鈥 gan Mike Parker.
Mae Dylan Huw yn mynd am ddrama 鈥業mrie鈥 gan Nia Morais, tra bod Ll欧r Titus yn s么n am 鈥榊 Daith Ydi Adra鈥 gan John Sam Jones.
Heno
Heno
Mae Huw Fash o raglen Heno wedi bod yn brysur yn rhoi ei s锚l bendith ar rai o'r gwisgoedd mae wedi ei weld ar faes yr Eisteddfod ym Moduan.
Dyma'r ddwy wnaeth serennu heddiw! 馃憞
Ym Maes D mae sgwrs yn cael ei chynnal i nodi lansiad Memorandwm Dealltwriaeth rhwng y Mudiad Meithrin a鈥檙 Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.
Bydd y Memorandwm yn ffurfioli cydweithio sydd eisoes yn digwydd rhwng y ddau fudiad, gan gynnwys cyfleoedd pellach i drosglwyddo鈥檙 Gymraeg, a chefnogi plant, teuluoedd a gofalwyr i ddysgu鈥檙 iaith.
Mae prif weithredwyr y ddau fudiad, Gwenllian Lansdown Davies a Dona Lewis, yn cael eu holi fwy am y cynllun gan y gyflwynwraig Mari Grug.
Dyma gip tu ol i'r llen gyda dau o'r cyflwynwyr, Heledd Cynwal a Tudur Owen 馃憞馃憖
Dei Tomos oedd ar y llwyfan yn cyflwyno鈥檙 wobr sy'n mynd i berson brwd ac ysbrydoledig, sy鈥檔 meithrin a hybu鈥檙 iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
A'r un sy'n derbyn y wobr eleni yw Geraint Jones o Drefor.
Fe gafodd y fedal ei chyflwyno iddo y prynhawn 鈥榤a yn y Pafiliwn Mawr.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad i'w ardal leol, gyda phwyslais ar weithio gyda phobl ifanc.
Mewn datganiad, dywedodd yr Eisteddfod fod cymuned Mr Jones "wedi elwa o'i ymroddiad, ei frwdfrydedd a'i egni ers dros hanner canrif".
"Yn ddi-os, mae ei ddylanwad a'i gefnogaeth ymarferol wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ei fro."
Mae Tabitha a Ted yn mwynhau crwydro鈥檙 maes yng nghwmni Taid (Arwel) a Nain (Marion) o Borthmadog.
Un o ddramodwyr ac awduron amlycaf bro鈥檙 Eisteddfod eleni oedd y diweddar Wil Sam.
Wil Sam oedd yr awdur cyntaf yn y Gymraeg i wneud bywoliaeth o'i ysgrifennu.
Am dros 50 mlynedd bu'n cyhoeddi dram芒u a straeon byrion am gymeriadau ei fro - Eifionydd.
Y prynhawn 鈥榤a yn y Babell L锚n fe fydd Gruffudd Eifion Owen yn cofio am ei yrfa ac am ei ddylanwad a Chwmni Theatr y Gegin gyda鈥檌 frawd Elis Gwyn.
Nos Lun yn Neuadd Dwyfor fe fydd cyfle i weld cynhyrchiad Theatr Bara Caws o 鈥楧inas鈥 鈥 comedi glasurol Emyr Humphreys a Wil Sam.
Mae tipyn o dorf wedi casglu ar gyfer sioe Cyw ar 么l cinio - a digon o ganu a dawnsio i gadw pawb yn hapus.
Cafwyd sgwrs ym mhabell Cymdeithasau 1 yn gynharach y bore 鈥榤a am dlodi yn Arfon, wedi ei arwain gan yr AS lleol Hywel Williams.
Un o鈥檙 pwyntiau gafodd eu codi yn y sgwrs oedd bod gan Arfon - etholaeth sy鈥檔 cynnwys Bangor a Chaernarfon - gyfradd uwch na chyfartaledd y DU o ran swyddi sydd yn talu鈥檔 dda.
Ond mae 鈥榥a dal gyfraddau tlodi uwch ymhlith y bobl sy鈥檔 byw yn yr etholaeth ei hun, gan fod llawer o鈥檙 bobl sydd yn y swyddi da hynny yn byw y tu allan i鈥檞 ffiniau.
Fe ddaeth y newyddion mawr y prynhawn 'ma mai Pontypridd fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2024.
Dyma'r foment y dadorchuddiwyd arwydd y Brifwyl ym mharc Ynysangharad yn y dref.
A hithau wedi sychu mae'r hetiau bwced yn dechrau ymddangos!
Mae Megan a Nansi, efeilliaid o Fethesda, yn hapus yn eu hetiau Mistar Urdd ac yn barod i wylio Sioe Cyw ar lwyfan y maes.
Sesiwn ar bwnc llosg ym mro'r Brifwyl ym mhabell Prifysgol Bangor y prynhawn 'ma.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Ar ddydd Llun yr Eisteddfod Genedlaethol mae aelodau newydd yn cael eu croesawu i Orsedd y Beirdd.
Ond pe fyddech chi'n cael eich anrhydeddu, beth fyddai eich enw barddol? Fe aeth Lois i holi o amgylch y Maes...
Does yna ddim Theatr y Maes yn Eisteddfod Ll欧n ac Eifionydd eleni.
Yn lle hynny mae perfformiadau theatrig yn cael eu cynnal ar draws y maes yn hytrach nag mewn un adeilad.
Roedd Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cynnig cefnogaeth dechnegol ar gyfer Theatr y Maes ond mae'r bartneriaeth wedi dod i ben.
"Mae'r Eisteddfod eisoes wedi arbrofi gyda lleoli perfformiadau ar draws y maes dros y blynyddoedd diwethaf, gyda datblygiad amlwg y rhaglen Theatr Stryd, a'r defnydd o bafiliynau fel Caffi Maes B a'r Babell L锚n,鈥 medd llefarydd.
"Mae'r rhaglen eleni'n gyfle i ddatblygu hyn ymhellach, ac rydyn ni a'r rheini sy'n rhan o'r trafodaethau'n croesawu'r cyfle yma i roi pwyslais ar yr arlwy yn hytrach na'r adeilad yn 2023."
Dyma Ffion, Meiriona, Mared a Sara o Flaenau Ffestiniog yn mwynhau bwyta pitsa blasus ar y maes! 馃崟
Mewn ymdrech i wella'r profiad o fynd o fan i fan ar faes yr Eisteddfod eleni mae'r 诺yl wedi penodi Oliver Griffith-Salter fel swyddog hygyrchedd.
Dewch i adnabod Oliver a chlywed am ei waith
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Dyma Joseff a Lydia gyda鈥檜 dwy ferch fach, Leila a Mali, o Flaenau Ffestiniog yn mwynhau ar y maes.