´óÏó´«Ã½

Crynodeb

  • Dros 65 o ysgolion ar gau ar hyd a lled Cymru ar ôl eira dros nos

  • Siroedd gorllewinol - yn enwedig Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro - sydd wedi'u heffeithio waethaf

  • Rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am eira a rhew mewn grym ers 22:00 nos Fercher - daeth i ben am 11:00 ddydd Iau

  • Nos Fercher oedd y noson oeraf o'r gaeaf hyd yn hyn - cofnodwyd -9.1C ym Mhowys

  • Y tymheredd isaf a gofnodwyd erioed oedd -23.3C (-10F), yn Rhaeadr Gwy, Powys, ym mis Ionawr 1940

  1. Diolch am eich cwmniwedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Mae'n ymddangos fod pethau'n gwella erbyn hyn, gyda'r rhybudd melyn am eira a rhew gan y Swyddfa Dywydd wedi dod i ben o fewn yr hanner awr ddiwethaf.

    I arbed gwaith sgrolio i chi, dyma'r prif benawdau:

    • Dros 40 o ysgolion ar gau ar hyd a lled y wlad ar ôl eira dros nos;
    • Siroedd gorllewinol - yn enwedig Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro - sydd wedi'u heffeithio waethaf;
    • Nos Fercher oedd y noson oeraf o'r gaeaf hyd yn hyn - cofnodwyd -9.1C ym Mhowys.

    Yn y cyfamser, mae'r gwasanaethau brys yn parhau i rybuddio pobl i gymryd gofal, yn enwedig gyrwyr.

    Ond dyna'r oll gan dîm llif byw Cymru Fyw am heddiw - diolch o galon i chi am ddilyn a chymerwch ofal yn y tywydd oer.

    Diolch hefyd i Ani-Caul am anfon y llun yma o goedwig yn ardal Pentraeth, Ynys MonFfynhonnell y llun, Ani-Caul/´óÏó´«Ã½ Weather Watchers
    Disgrifiad o’r llun,

    Diolch hefyd i Ani-Caul am anfon y llun yma o goedwig yn ardal Pentraeth, Ynys Môn

  2. Hwyl ar iard yr ysgolwedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Mae Ysgol y Garnedd, Penrhosgarnedd yn agored heddiw ac mae'r disgyblion yn ac yn cael hwyl ar yr iard!

    Ysgol y GarneddFfynhonnell y llun, Ysgol y Garnedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysgol y Garnedd

  3. Rhybudd tywydd yn dod i benwedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd newydd ddod i ben, ond mae hi'n dal yn oer iawn ar draws y wlad.

    Y newyddion da i'r rhai sy'n casáu rhew ac eira yw bod tywydd llai gaeafol i ddod dros y penwythnos, ond fe fydd y gwynt a'r glaw yn eu holau wrth i'r tymheredd godi.

  4. Brrrr-idellwedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Mae hi'n eithriadol o rewllyd yn ardal Bridell, gogledd Sir Benfro'r bore 'ma ac mae'r lonydd llithrig yn creu trafferth i yrwyr.

    Bridell
  5. 'Ofnadwy o lithrig dan draed' yn Y Felinheliwedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Ein gohebydd Carwyn Jones sy'n rhoi blas o'r sefyllfa y bore 'ma yng Ngwynedd.

  6. O'r awyr dywyll i'r bore braf!wedi ei gyhoeddi 10:42 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Fel arfer mae Dani Robertson yn tynnu lluniau o'r awyr dywyll.

    Ond yr olygfa braf ben bore oedd yn mynd â'i .

    Dani RobertsonFfynhonnell y llun, Dani Robertson
    Disgrifiad o’r llun,

    Ynys Môn

  7. Fideo: Tractor yn dod i'r adwywedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Tractor yn tynnu car oedd wedi mynd i drafferth ar yr eira ar yr A487 rhwng Crymych ac Aberteifi yn Sir Benfro - mae'n siŵr bod yna ryddhad o'i weld yn cyrraedd.

  8. Y Coleg Ar Y Bryn... o eira!wedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Prifysgol Bangor

    Mae Prifysgol Bangor yn enwog am fod y Coleg Ar Y Bryn.

    Ond mae trwch o eira yn croesawu'r myfyrwyr ar y bryn heddiw!

    Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, Prifysgol Bangor
  9. Cyngor i yrwyrwedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Traffig Cymru

    Mae Traffig Cymru wedi rhyddhau rhestr o gynghorion i yrwyr sut i yrru'n ddiogel mewn amodau rhewllyd.

    Cofiwch fynd â'r offer angenrheidiol gyda chi yn y car - cliciwch isod i ddarllen mwy.

    car
  10. 'Dim llawer yn symud' yng ngogledd Sir Benfrowedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Aled Scourfield
    Gohebydd ´óÏó´«Ã½ Cymru

    Mae'r gorllewin yn gweld rhai o'r amodau gwaethaf y bore 'ma wedi i'r eira syrthio dros nos, fel y mae Aled Scourfield yn egluro.

    Disgrifiad,

    Ein gohebydd Aled Scourfield

  11. Pwyll piau hi ar y ffyrddwedi ei gyhoeddi 09:44 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Heddlu Gogledd Cymru

    Yn yr ardaloedd gwledig y mae angen pwyllo fwyaf y bore 'ma os oes rhaid mentro allan, yn ôl Heddlu'r Gogledd, er bod yr amodau'n gur pen i yrwyr a cherddwyr ar draws y rhanbarth.

    Maen nhw'n atgoffa gyrwyr o bwysigrwydd gadw pellter diogel, gan bod hi'n cymryd hyd at 10 gwaith yn hirach i gerbyd ddod i stop mewn rhew ac eira.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 'Nifer o geir a lorïau'n sownd'wedi ei gyhoeddi 09:35 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Aled Scourfield
    Gohebydd ´óÏó´«Ã½ Cymru

    Mae hi’n amlwg bod y "Pembrokeshire Dangler" wedi gweithio ei hud dros nos, gan adael mantell wen dros rannau helaeth o Sir Benfro a De Ceredigion.

    Mae'r ffyrdd gwledig, fel y rhai yma ym mhentref Mynachlog-ddu, wedi eu gorchuddio ag eira o hyd, ac mae 'na drwch go lew o rhyw 5cm. Dim ond cerbydau 4x4 a cheir rali rwy' wedi gweld hyd yn hyn y bore 'ma!

    Mae'r problemau mwyaf wedi bod ar y briffordd rhwng Arberth ac Aberteifi, yr A478. Mae yna nifer o geir a lorïau wedi mynd yn sownd yn yr eira.

    Doedd traffig ddim yn symud ym Mridell am gyfnod oherwydd y trafferthion. Mae criw tân Crymych wedi bod yn cynorthwyo i roi graean ar y ffordd yn y pentref mae'n debyg. Mae'r eira wedi cael effaith fawr ar ysgolion gydag o leiaf 13 ar gau yn Sir Benfro hyd yma.

    Maenclochog
    Maenclochog
  13. Y noson oerafwedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Tywydd

    Neithiwr oedd noson oeraf Cymru o'r gaeaf hyd yn hyn.

    Cafodd tymheredd dros dro o -9.1 C ei gofnodi ym mhentref Tirabad ger Pontsenni ym Mhowys.

  14. 'Oer heddiw, Mr Lloyd George!'wedi ei gyhoeddi 09:19 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Yr olygfa ar y Maes yng Nghaernarfon ger y cerflun o'r Dewin Cymreig

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Faint o ysgolion sydd ar gau?wedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Ar hyn o bryd, mae dros 40 o ysgolion yng Nghymru ar gau o achos y tywydd.

    Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny yn siroedd Gwynedd a Phenfro.

    Mae'n amlwg mai ardaloedd gorllewinol sydd wedi'u heffeithio waethaf gan y tywydd heddiw.

  16. Ceredigionwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Cyngor Ceredigion

    Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi datgan fod o leiaf saith ysgol - yn gymysgedd o rai cynradd ac uwchradd - wedi cau oherwydd y tywydd.

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.
    Dyw'r ´óÏó´«Ã½ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  17. Lluniau: Eira'r wythnoswedi ei gyhoeddi 08:54 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Roedd eira cyntaf y flwyddyn wedi disgyn yn gynharach yn yr wythnos a hynny ar dir isel mewn ambell i ardal yng Nghymru, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain.

    Dyma rai o'r golygfeydd gaeafol dros y dyddiau diwethaf.

    Awyr las a chaeau gwyn yn Nantglyn, sir DdinbychFfynhonnell y llun, Paulo/´óÏó´«Ã½ Weather Watchers
    Disgrifiad o’r llun,

    Awyr las a chaeau gwyn yn Nantglyn, sir Ddinbych

  18. Rhybudd melyn mewn grym tan 11:00wedi ei gyhoeddi 08:47 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Daeth rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am eira a rhew i rym am 22:00 nos Fercher ac fe fydd yn para tan 11:00 ddydd Iau.

    Mae'n effeithio ar chwe sir y gogledd, Ceredigion a Phowys, a siroedd Penfro, Caerfyrddin ac Abertawe.

    Mae yna rybudd y bydd yr amodau i deithwyr yn anodd.

    Map y rhybudd eira a rhewFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  19. Cau rhai o ysgolion Sir Benfrowedi ei gyhoeddi 08:40 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Cyngor Sir Penfro

    Mae Cyngor Sir Penfro wedi cadarnhau bydd rhai ysgolion ar gau yn y sir heddiw.

    RhosfarcedFfynhonnell y llun, Scarlet Rose/´óÏó´«Ã½ Weather Watchers
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhosfarced, neu Rosemarket, yn Sir Benfro bore 'ma

  20. Tagfeydd ar y pontyddwedi ei gyhoeddi 08:31 Amser Safonol Greenwich 18 Ionawr

    Traffig Cymru

    Mae'r tywydd gwael yn achosi oedi ar Bont Britannia wrth i bobl geisio croesi i gyrraedd y tir mawr y bore 'ma.

    Mae Traffig Cymru yn cynghori pobl i ganiatáu amser ychwanegol i deithio.

    Pont BritanniaFfynhonnell y llun, Traffig Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Tagfeydd ar Bont Britannia