'Amhosib trafod cyfrif ffrind anabl gyda banc dideimlad'
- Cyhoeddwyd
Mae ffrind i ddyn anabl o Geredigion wedi beirniadu banc Santander yn hallt ar 么l atal defnydd ei gerdyn a'i adael heb fynediad i arian ei gyfrif ers canol Awst.聽
Fe gysylltodd y cyn-arolygydd David Morgan gyda'r banc ar 么l i'w ffrind, Anthony Hawkins, 59, o Landysul ddangos iddo bod dros 拢2,000 wedi gadael ei gyfrif heb ganiat芒d.聽
Cafodd cerdyn debyd Mr Hawkins ei rewi gan Santander ym mis Awst, a oedd yn golygu nad oedd ganddo fodd o dalu am bethau hanfodol fel bwyd a nwyddau glendid, tra bod y banc yn ymchwilio.聽
Mae Santander wedi dweud ei bod nhw'n "adolygu'r opsiynau cymorth cywir" ar gyfer eu cwsmer.
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019
Mae Mr Hawkins yn defnyddio cadair olwyn oherwydd problemau difrifol gyda'i gefn, ac mae ond yn medru dweud ychydig eiriau ar 么l cael sawl str么c.
Yn gyn-blismon yn Jersey, cafodd Mr Hawkins Fedal Ymerodraeth Prydain am ei waith ymgyrchu dros bobl anabl yn 2018.聽
Fe ddaeth ei ffrind, David Morgan, 72 oed, i wybod am y problemau gyda'i fanc am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf.
"Fe ddangosodd Tony wrtha' i ar ei ff么n symudol bod arian yn cael gadael ei gyfrif.
"Fe gadarnhaodd nad oedd wedi rhoi caniat芒d i arian adael ei gyfrif. Gofynnais iddo, 'a wyt ti'n hollol sicr?', ac fe ddywedodd 'ydw'."
Anabledd yn atal bancio ar-lein
Fe gysylltodd Mr Morgan gyda banc Santander ar 2 Awst, ond fe esboniodd y cwmni nad oedden nhw yn gallu trafod y mater, am nad enw Mr Morgan oedd ar y cyfrif.
Fe gysylltodd David Morgan gydag Action Fraud, ond cafodd wybod nad oedd modd ymchwilio ymhellach.
Ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach, fe ddywedodd gofalwraig sydd yn prynu nwyddau i Mr Hawkins nad oed ei gerdyn debyd yn gweithio mwyach.
Roedd hynny'n golygu nad oedd yn gallu cael unrhyw arian o'i gyfrif i dalu am nwyddau hanfodol.聽
Dyw Mr Hawkins ddim yn medru defnyddio bancio ar-lein oherwydd ei anabledd.
Yn 么l Mr Morgan, mae hyn wedi creu problemau mawr, gyda Mr Hawkins yn gorfod benthyg arian o'r awdurdod lleol a ffrindiau i dalu am bethau hanfodol.
"Beth sydd yn rhyfedd yw mae arian yn dal i adael y cyfrif er nad yw ei garden yn gweithio. Arian sydd yn gadael heb ganiat芒d."
'Ddim yn barod i ddelio gyda'r mater'
Cafodd Mr Hawkins wybod gan Santander y bydden nhw ond yn fodlon trafod y mater wyneb yn wyneb.
Fe aeth David Morgan gyda'i ffrind i'r gangen yng Nghaerfyrddin ar gyfer apwyntiad ar 30 Awst, ond doedd dim modd datrys y sefyllfa.聽
"Roedd trwydded yrru Mr Hawkins wedi mynd ar goll," dywedodd.
"Dywedodd Santander i fynd 芒 gohebiaeth o'r awdurdod lleol, ac ynghyd 芒 hynny fe ges i afael ar lun o Mr Hawkins o bapur y Tivyside, oedd yn ei ddangos yn derbyn y Fedal.
"Fe ofynnais i gyfreithwraig arwyddo'r llun fel un dilys o Mr Hawkins.
"Yn 么l y banc, doedd hyn ddim yn ddigon, a doedden nhw ddim yn barod i ddelio gyda'r mater."
Roedd Tony Hawkins a Mr Morgan wedi ymweld 芒 changen arall o Santander yn Aberystwyth, wythnos ynghynt.
Yn anffodus, doedd drws ei gar sydd wedi ei addasu ddim yn fodlon agor yn iawn oherwydd problemau technegol.
Er ei fod parcio 30 metr i ffwrdd o'r gangen, doedd y staff ddim yn fodlon dod i weld Mr Hawkins yn 么l David Morgan.聽
Mae David Morgan yn dweud bod yr achos yn tanlinellu'r heriau i bobl anabl wrth geisio datrys problemau bancio.聽
"Ry'n ni'n siarad fan hyn, nid yn unig am bobl gydag anabledd corfforol, ond pobl sydd yn methu delio gyda bancio ar-lein.
"Mae'r banciau yn dweud bod nhw'n cau mwy a mwy o ganghennau am fod mwy yn defnyddio bancio ar-lein, ond mae'n teimlo bod nhw'n gwthio ni i'r cyfeiriad hwnnw.
"Mae hyn wedi achosi problemau mawr i Mr Hawkins, a'r teimlad yw nad yw'r banciau yn poeni.
"Mae yna nifer o feini tramgwydd cyn medru siarad gydag unrhyw un. Mae'r cyfan wedi awtomeiddio neu wedi ei recordio.
"Dyw e ddim yn ofal da i'r cwsmer. Mae yna Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a dwi'n amau nad yw nhw yn cydymffurfio 芒 hyn."
Mae'n dweud bod agwedd y banc wedi bod yn "ddi-deimlad."
'Adolygu opsiynau cymorth cywir'
Mae Mr Morgan wedi gwneud cais am Atwrneiaeth dros faterion ariannol Mr Hawkins er mwyn gwneud penderfyniadau ariannol ar ei ran gyda ei gydsyniad ond dyw'r cais ddim wedi cael ei brosesu eto.
Mae dros 拢3,200 wedi gadael ei gyfrif yn barod, ac mae'r mater bellach yn nwylo Heddlu Dyfed-Powys.
Doedd Santander ddim yn gallu rhoi sylw manwl am achos Mr Hawkins heb ganiat芒d y cwsmer.
Dywedodd llefarydd ar ran Santander eu bod "yn adolygu'r opsiynau cymorth cywir ar gyfer ein cwsmer.
"Mae gan Santander amrywiaeth o opsiynau i gwsmeriaid sydd angen cefnogaeth wedi ei deilwra, ac rydym yn annog cwsmeriaid i gysylltu gyda ni naill a'i yn bersonol mewn cangen, dros y ff么n neu trwy gyfrwng ein sianelu digidol."