Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Medal TH Parry-Williams i sefydlwyr Cwmni Theatr Maldwyn
Bydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei chyflwyno i Penri Roberts a Linda Gittins.
Fe wnaeth Mr Roberts a Ms Gittins, ynghyd â'r diweddar Derec Williams, sefydlu Cwmni Theatr Maldwyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth ym 1981.
Maen nhw'n derbyn y wobr am "gynnig profiadau amhrisiadwy i bobl ifanc cefn gwlad canolbarth Cymru".
Dyma'r tro cyntaf i fwy nag un person dderbyn y fedal, sy'n cydnabod cyfraniad gwirioneddol yr enillydd i'w ardal leol – yn enwedig wrth weithio gyda phobl ifanc.
Mae'r cwmni wedi dod yn adnabyddus dros y 40 mlynedd diwethaf am eu sioeau poblogaidd fel Y Mab Darogan a Pum Diwrnod o Ryddid.
Mae rhai o'r bobl ifanc fu'n rhan o'r cwmni wedi mynd ymlaen i yrfaoedd ym myd sioeau cerdd y DU.
'Triawd oedden ni'
“Rydw i’n hynod falch o dderbyn y Fedal hon ac yn falch iawn dros Penri hefyd," medd Ms Gittins.
"Wnes i erioed feddwl y buaswn yn derbyn y fath anrhydedd. Roedd yn sioc cael gwybod a dydw i dal ddim yn credu'r peth."
Ychwanegodd bod y wobr "gymaint i [Derec Williams] ag i ni’n dau".
"I’r tri ohonon ni, y sioe oedd bwysicaf ac roedd gweld llwyddiant honno a mwynhad y criw a'r cast yn ddiolch ynddo'i hun."
Ategodd Mr Roberts sylwadau Ms Gittins, gan ddweud eu bod yn derbyn y fedal ar ran Mr Williams.
"Triawd oedden ni wrth gyfansoddi a chynhyrchu holl sioeau Cwmni Theatr Maldwyn a thri ffrind yn ogystal," meddai.
Cafodd y ddau wybod eu bod i'w gwobrwyo yn ystod ymarferiad o'u sioe Pum Diwrnod o Ryddid, a fydd yn teithio Cymru yn ddiweddarach eleni.
"Cefais wybod bod criw teledu am ein ffilmio ni'n ymarfer ar gyfer eitem, a ro’n i ar ganol egluro hyn i’r criw pan ddaeth Alwyn Siôn i sefyll o flaen pawb a dweud wrtha i a Linda am eistedd i lawr," medd Mr Roberts.
"Ac yna, fe eglurodd am y Fedal. Wel, am sioc."
Bu Syr TH Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol.
Cafodd cronfa i goffáu ei gyfraniad i'r brifwyl ei sefydlu ym 1975, yn dilyn ei farwolaeth, gydag Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams yn ei weinyddu.
Bydd Mr Roberts a Ms Gittins yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn am 12:30 dydd Mawrth 6 Awst.