Ymchwiliad wedi i blentyn bach ddianc o feithrinfa

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng penaethiaid cyngor, arolygwyr Gofal Cymru a Meithrinfa Tiny Tots yn Llan-ffwyst

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i blentyn bach gael ei ganfod yn crwydro yng nghanol y ffordd wedi iddo dianc o feithrinfa yn Sir Fynwy heb i neb sylwi.

Mae trafodaethau yn cael eu cynnal rhwng penaethiaid cyngor, arolygwyr Gofal Cymru a Meithrinfa Tiny Tots yn Llan-ffwyst i atal digwyddiad tebyg.

Cafodd y bachgen, a gredir o fod rhwng 12 a 18 mis oed, ei weld gan ddau yrrwr ar Ffordd Llanellen, Llan-ffwyst, tua 11:00 ddydd Iau, 27 Mehefin.

Doedd y feithrinfa ddim am wneud sylw.

Yn 么l gohebydd Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol dywedodd rhywun a oedd yn digwydd mynd heibio ac a oedd am aros yn ddienw: "Roedd e yn llythrennol yn cerdded ar y ffordd."

Fe aeth un o'r gyrwyr 芒'r plentyn yn 么l i'r feithrinfa.

Camau i atal digwyddiad tebyg

Cadarnhaodd Cyngor Sir Fynwy eu bod mewn trafodaethau gyda Meithrinfa Tiny Tots Llan-ffwyst a bod y feithrinfa wedi rhoi gwybod iddyn nhw am y digwyddiad.

Ychwanegodd llefarydd: 鈥淢ae staff Cyngor Sir Fynwy ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau gyda鈥檙 feithrinfa ac mae trafodaethau pellach ar y gweill i drafod y mesurau sy鈥檔 cael eu cyflwyno i atal digwyddiad tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.

"Bydd y cyngor hefyd yn parhau i gysylltu ag Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer unrhyw ymchwiliadau yn y dyfodol."

Dywedodd Arolygiaeth Gofal Cymru, sy'n cofrestru, yn arolygu ac sydd 芒'r awdurdod i wella gwasanaethau, gan gynnwys meithrinfeydd, eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad a'u bod wedi "cymryd y camau priodol".

Ychwanegodd: "Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r darparwr a Chyngor Sir Fynwy i sicrhau diogelwch pob plentyn sy'n defnyddio'r gwasanaeth."