Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
P锚l-droediwr yn euog o fethu 芒 datgelu gwybodaeth i'r heddlu
Mae p锚l-droediwr wedi鈥檌 gael yn euog o fethu 芒 datgelu i'r heddlu pwy oedd yn gyrru car Porsche sy'n cael ei amau o yrru trwy olau coch yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd chwaraewr canol cae Chelsea a'r Ariannin, Enzo Fernandez, ei gyhuddo o beidio 芒 rhoi gwybodaeth i Heddlu Dyfed-Powys ar 27 Rhagfyr y llynedd.
Cafwyd Fernandez yn euog mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher, ond nid oedd yn bresennol.
Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn Llanelli ar 11 Medi.
Cafodd y gwrandawiad i'w ddedfrydu ei ohirio gan ynadon, er mwyn ystyried a oes amgylchiadau lliniarol, "gan gynnwys caledi eithriadol", am beidio 芒'i wahardd rhag gyrru.
Cafodd Fernandez ei gyhuddo o yrru car Porsche Cayenne drwy olau coch ar Stryd yr Eglwys yn Llanelli ar 28 Tachwedd 2023, ac o yrru'r un cerbyd heb yswiriant ar yr un diwrnod.
Nododd ei gyfeiriad ar restr y llys fel maes hyfforddi Chelsea yn Stoke D'Abernon.
Ni chafodd ple ei gyflwyno ar gyfer y cyhuddiadau hynny, ac fe'u tynnwyd yn 么l.