Pryder yngl欧n 芒 gosod cyllideb Cyngor Sir Penfro

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro

  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, 大象传媒 Cymru

Mae Archwilio Cymru wedi cadarnhau ei bod nhw wedi derbyn gohebiaeth yngl欧n 芒鈥檙 broses o osod y gyllideb ar gyfer Cyngor Sir Penfro eleni.

Mae 大象传媒 Cymru wedi cael gwybod bod aelod o鈥檙 gr诺p Annibynnol ar y cyngor wedi codi pryderon yngl欧n 芒鈥檙 ffordd y cafodd y gyllideb ei pharatoi, a newidiadau munud olaf i lefel treth y cyngor.

Nid yw Archwilio Cymru wedi lansio ymchwiliad eto.

Roedd disgwyl i gynghorwyr bleidleisio ar gynnydd posib o 16.31%, ond fe gynigiwyd newid munud olaf gan y Dirprwy Arweinydd, Paul Miller ar ddiwrnod y cyfarfod, 7 Mawrth.

Yn y diwedd, fe gefnogwyd cynnydd o 12.5%, gyda 拢1.5m yn dod o gronfeydd wrth gefn a 拢1m yn dod o arbedion pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro y byddai 鈥漸nrhyw bryderon yn cael eu hateb yn y cyfarfod nesaf o鈥檙 Pwyllgor Llywodraethant ac Archwilio".