Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Nyrs wedi dal Covid-19 yn y gwaith', medd cwest
Mae'n debyg i nyrs asiantaeth farw wedi iddi ddal Covid yn y gwaith ar ddechrau'r pandemig, mae cwest i'w marwolaeth wedi clywed.
Credir mai Leilani Medel, 41, oedd un o'r gweithwyr iechyd cyntaf i farw gyda Covid-19 yng Nghymru.
Bu farw ar 9 Ebrill 2020, 10 diwrnod wedi iddi gael ei derbyn i'r ysbyty.
Dywedodd Mr David Regar, dirprwy grwner canol de Cymru ei fod yn debyg iddi ddal Covid tra'n gweithio yng nghartref gofal Anwen ym Mhen-y-bont.
Daeth y crwner i gasgliad naratif, gan ddweud nad oedd hi'n bosib iddo roi achos ei marwolaeth fel afiechyd diwydiannol.
Dywedodd "ar falans" fod Mrs Medel yn "debyg o fod wedi dal y feirws pan roedd cleifion wedi anadlu allan gronynnau mewn ystafelloedd heb eu hawyru", ond ychwanegodd nad oedd casgliad o "afiechyd diwydiannol yn briodol yn yr achos yma".
"Rwy'n fodlon fod Leilani wedi cael Covid-19 tra'n gweithio yng nghartref gofal Anwen," meddai, ond ychwanegodd y byddai'n "straen ar y dystiolaeth i fynd ymhellach na hynny".
Yn cyfeirio at ei g诺r, Johnny Medel, dywedodd: "Rydych chi wedi ymddwyn gydag urddas ac mae'n flin gennyf am yr effaith arnoch chi a'ch teulu."
Yn siarad gyda 大象传媒 Cymru yn dilyn y dyfarniad fe ddywedodd Mr Medel: "Mae'n teimlo'n iawn i wybod fod y cwestiwn mawr am le ddaliodd fy ngwraig coronafeirws.
"Roeddwn wedi dweud ers y diwrnod cyntaf ei bod wedi ei ddal o'r gwaith.
"O'r diwedd gallaf orwedd fy ngwraig i orffwys nawr ac mae fy holl gwestiynau wedi eu hateb.
"Wna'i byth mo'i anghofio".