大象传媒

Archesgob Cymru: 'Mae rhedeg yn gyfle i gael lle i feddwl'

Y Gwir Barchedig Andy John allan yn rhedegFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Andy John yn gweld bod rhedeg yn rhoi cyfle iddo feddwl

  • Cyhoeddwyd

Mae rhedeg wedi helpu Archesgob Cymru dros y blynyddoedd i ymdopi a phrysurdeb bywyd ac mae'r Gwir Barchedig Andy John yn gweld rhedeg fel ffordd o gynnig cydbwysedd i鈥檞 fywyd.

鈥淥鈥檙 heriau i gyd, does dim byd i鈥檞 gymharu 芒鈥檙 pwysau mae rhedeg yn ei roi ar y corff 鈥︹nd hefyd yn gyfle i ddarganfod eich hun,鈥 meddai ar Dros Frecwast ddydd Mawrth tra'n olygydd gwadd y rhaglen.

Mae wedi cymryd rhan yn Marathon Eryri dair gwaith hyd yma ac yn dal ati i hyfforddi ar gyfer o bosib ei farathon Eryri olaf yn 2024.

Bydd yn dathlu ei benblwydd yn 60 oed fis Ionawr ac wedi dwy flynedd fel Archesgob mae鈥檔 braf dianc meddai i "redeg o brysurdeb gwaith bob dydd".

Marathon Llundain ac Eryri

鈥淓r ei bod hi鈥檔 gyfnod prysur, ac yn fraint gwneud y swydd, mae rhedeg yn gyfle i gael lle i feddwl ac mae hynny yn bwysig iawn i mi,鈥 meddai鈥檙 Archesgob, sy鈥檔 aelod o glwb rhedeg Amlwch Arrows.

"Mae rhedeg yn rhywbeth dwi鈥檔 trio ei wneud yn fy amser sb芒r, sydd bach yn brin ar hyn o bryd.

"Ond o鈥檙 holl o bethau dwi鈥檔 ei wneud, mae cael lle i feddwl, yn bwysig iawn i mi."

Fe ddechreuodd yr Archesgob redeg n么l tua 2002 ac yn y flwyddyn honno fe wnaeth o ymgeisio ym Marathon Llundain.

Harddwch a hwyl

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae miloedd yn cymryd rhan yn flynyddol ym Marathon Eryri

鈥淲edi cyrraedd 19 milltir o amgylch Llundain, fe ddywedodd fy nghorff bod hi鈥檔 hen bryd gorffen, ond roedd 鈥榥a saith milltir arall," meddai.

鈥淥nd fe wnaeth o gychwyn blas newydd sydd gen i at redeg.鈥

Ond mae鈥檔 dweud nad oes dim i鈥檞 gymharu 芒 Marathon Eryri a hynny am ei fod yn 鈥渃yfuno harddwch y lle a bach o sbort sydd i'w gael efo鈥檙 rhai sy鈥檔 rhedeg hefyd鈥.

鈥淢ae pobl wedi gofyn pam mod i鈥檔 ffan o redeg.

"Mae 鈥榥a deimlad, yn fy marn i, bod bod yn y mynyddoedd lle da chi ar goll bron, 鈥榙a chi鈥檔 ail ddarganfod eich hunain a phethau sy鈥檔 bwysig i chi.

鈥淚 gael cydbwysedd yn eich bywyd, o鈥檙 holl bethau dwi鈥檔 eu gwneud, rhedeg ydi鈥檙 peth sydd wedi fy nharo i, sy鈥檔 bwysig i mi yn bersonol.鈥

Chwalu priodas

Dywedodd fod o sicr yn cael effaith ysbrydol arno hefyd.

鈥淲edi cwblhau un ras neu fod yn y mynydd, mae鈥檙 byd yn teimlo yn iawn ac mae鈥檔 rhoi persbectif newydd ar yr heriau da ni鈥檔 ei wynebu,鈥 meddai.

鈥淒wi鈥檔 cofio amser anodd iawn yn bersonol ar 么l i鈥檓 mhriodas gynta鈥 ddod i ben.

鈥淔ydde llawer yn dweud bod rhaid cael pethe i roi cydbwysedd i chi鈥. A falle gan ffrindiau a鈥檙 cyngor ges i, rhedeg oedd un o鈥檙 pethau roddodd gydbwysedd i mi ac wedi gwneud gwahaniaeth o鈥檙 holl bethau efallai a fy achub rhaid cyfadde鈥.鈥

'Cam wrth gam'

A be am gyngor rhedeg gan Yr Archesgob?

"Dal ati wrth gwrs. Ond os yn bosib, dechrau efo鈥檙 math o bellter sy鈥檔 siwtio chi.

"Un o鈥檙 camgymeriadau mwya' gan bobl ydi trio rhedeg marathon neu wneud lot o filltiroedd heb hyfforddi.

"Cam wrth gam ydi hi.

"Dechrau efo鈥檙 camau bach ac yna ychwanegu at y milltiroedd.

"Yn y b么n, fyddwch chi鈥檔 darganfod y bydd yn trawsffurfio bob dim."

Pynciau cysylltiedig