Dynes wnaeth ddwyn 拢25,000 gan elusen yn osgoi carchar

Ffynhonnell y llun, Cyngor Cymru i Bobl Fyddar

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Louise McGrath gymryd cyfanswm o 拢25,164 gan yr elusen

Mae cyn-bennaeth elusen sy'n cynrychioli pobl fyddar wedi osgoi dedfryd o garchar ar 么l cyfaddef dwyn mwy na 拢25,000 gan y sefydliad.

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Louise McGrath, 49 o Bontypridd, wedi benthyg arian yn enw Cyngor Cymru i Bobl Fyddar, ond ei bod wedi cadw'r arian ei hun.

Roedd Ms McGrath - oedd yn cael ei hadnabod fel Louise Sweeney yn ystod ei chyfnod yn gweithio i'r elusen - wedi gweithio i'r sefydliad am ddeg mlynedd.

Clywodd y llys fod y troseddau wedi digwydd rhwng Ionawr 2019 ac Awst 2022, a bod yr elusen wedi dod i wybod am un o'r benthyciadau ym mis Ionawr y llynedd.

Dywedodd yr erlyniad fod Ms McGrath wedi derbyn benthyciad gwerth 拢6,000 yn 2019, bron i 拢9,000 yn 2020 ac yna un arall gwerth 拢6,000 yn 2021.

Roedd hi hefyd wedi gwneud taliadau gwerth 拢3,700 i un o gyn-gwsmeriaid yr elusen, cyn trosglwyddo'r arian yna i'w chyfrif ei hun.

'Sioc ofnadwy'

Dywedodd Geoff Moses, ymddiriedolwr a thrysorydd yr elusen, fod yr effaith ar y sefydliad wedi bod yn fwy nag ergyd ariannol.

"Roedd dod i wybod am yr holl ymddygiad anonest yma yn sioc ofnadwy i ni, ac mae'r achos wedi cael effaith negyddol ar hwyliau staff ac enw da'r elusen," meddai.

Clywodd y llys fod Ms McGrath wedi cynnig talu'r arian yn 么l wedi iddi gael ei dal, ond ar 么l gwneud "ambell i daliad" doedd hi ddim yn ymateb i negeseuon yr elusen.

Yn 么l yr amddiffyniad, mae Ms McGrath bellach yn ceisio gwerthu ei chartref er mwyn talu'r arian yn 么l.

Fe blediodd Ms McGrath yn euog i un achos o dwyll drwy ymhoniad anwir mewn gwrandawiad blaenorol.

Cafodd ei dedfrydu i gyfnod o ddwy flynedd o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, yn ogystal 芒 gorchymyn i gwblhau 250 o oriau o waith di-d芒l a gweithgaredd adsefydlu.