大象传媒

Y Seintiau Newydd allan o Gynghrair y Pencampwyr

Seintiau Newydd v HackenFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd allan o rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr ar 么l cael eu trechu o 5-1 gan BK H盲cken o Sweden dros ddau gymal.

Ar 么l colli'r cymal cyntaf 3-1 oddi cartref yn Sweden, roedd t卯m Craig Harrison yn wynebu talcen caled i symud ymlaen i'r rownd nesaf.

Er gwaethaf ymdrechion y Seintiau, pencampwyr presennol Sweden oedd yn fuddugol ar Neuadd y Parc nos Fawrth hefyd, gyda'u buddugoliaeth o 0-2 yn golygu eu bod yn mynd trwodd i'r ail rownd ragbrofol ar draul pencampwyr Cymru.

Aeth H盲cken ar y blaen wedi 19 munud, gydag ergyd Ibrahim Sadiq o ymyl y cwrt cosbi yn gwyro oddi ar amddiffynnwr i gornel isa'r rhwyd.

Un g么l oedd ynddi tan y munud olaf, pan lwyddodd Momodou Sonko i ddyblu mantais yr ymwelwyr.

Ond dyw ymgyrch Ewropeaidd y Seintiau ddim ar ben eto - maen nhw'n disgyn i rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa, sef y gystadleuaeth drydedd haen.