'Gobaith i unrhyw un' sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol

Disgrifiad o'r llun, Mae Leanne Jones yn dweud bod "ffordd allan a dydi pobl ddim yn gorfod gwneud o ar eu pen eu hunain鈥
  • Awdur, Sion Tootill
  • Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru

Mae gr诺p o 60 o bobl sydd wedi rhoi鈥檙 gorau i gyffuriau ac alcohol wedi dod at ei gilydd i ddringo un o fynyddoedd Eryri i ddangos bod 鈥榥a obaith i鈥檙 rheini sy鈥檔 parhau鈥檔 gaeth.

Teithiodd pobl o sawl rhan o Gymru a Lloegr i Feddgelert er mwyn dringo Moel Hebog.

Gwasanaeth cymorth lleol, Sober Snowdonia drefnodd y daith er mwyn dangos sut mae natur yn gallu helpu pobl.

Roedd y daith hefyd yn gyfle iddyn nhw greu cysylltiadau newydd a rhannu eu profiadau gyda鈥檌 gilydd.

Disgrifiad o'r llun, Dydi Llion Wyn Huws heb gymryd unrhyw gyffuriau nag alcohol ers dros 6 mis

Un o鈥檙 rheini deithiodd o Loegr i ogledd Cymru ar gyfer y digwyddiad oedd Llion Wyn Huws.

Yn wreiddiol o Gaernarfon, dechreuodd Llion gamddefnyddio alcohol a chyffuriau pan oedd yn blentyn.

鈥淣es i ddechrau cymryd alcohol a thabledi pan o鈥檔 i鈥檔 10 oed, ac yn weddol sydyn symudodd o ymlaen i anffetamin ac ecstasi.

"Erbyn o鈥檔 i鈥檔 16 oed o鈥檔 i鈥檔 chwistrellu heroin. Yn dilyn hynny o鈥檔 i jyst mewn ac allan o鈥檙 carchar."

Dywedodd Llion: 鈥淵 tro diwethaf es i i鈥檙 carchar nes i daro rock bottom, ac o鈥檔 i鈥檔 gwybod o鈥檔 i naill ai yn mynd i farw neu o鈥檔 i鈥檔 mynd i ladd rhywun arall.

"Es i i rehab... a nath hynny newid popeth i fi.

"Dwi 'di ffeindio Iesu Grist hefyd ac mae fy mywyd i鈥檔 gwbl wahanol.

鈥淢ae cael digwyddiad fel heddiw yn gr锚t.

"Mae鈥檔 gyfle i gyfarfod pobl sydd wedi bod, a dal i fynd trwy rywbeth tebyg i fi. Dwi鈥檔 gallu bod yn fi fy hun a rhannu鈥檔 onest sut dwi鈥檔 teimlo.鈥

'Nath fy mywyd ddisgyn yn ddarnau'

Cafodd y digwyddiad ei drefnu ar y cyd gan wyth sefydliad gwahanol.

Mae pob un ohonyn nhw鈥檔 darparu cymorth i鈥檙 rheini sy鈥檔 ceisio rhoi鈥檙 gorau i鈥檞 dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau.

Rob Haverlock o Borthmadog oedd yn arwain y gr诺p i gopa Moel Hebog.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 gaeth i gyffuriau a chwrw am dros 20 mlynedd.

"Trwy fod yn gaeth i gyffuriau nes i golli pob dim yn diwedd.

"Yn araf bach mi wnaeth fy mywyd i ddisgyn yn ddarnau."

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd Rob Sober Snowdonia helpu pobl eraill oedd yn ceisio rhoi'r gorau i'w dibyniaeth

Mae Rob yn egluro ei fod wedi cael "llond bol" yn y diwedd "a gwneud y penderfyniad i wella fy hun".

鈥淓rbyn hyn, dwi 鈥榙i bod yn rhydd o gyffuriau ac alcohol ers dros 17 mis.鈥

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe ddechreuodd gwasanaeth cymorth newydd o鈥檙 enw Sober Snowdonia.

鈥淪yniad Sober Snowdonia ydy dod 芒 phobl efo鈥檙 salwch yma i鈥檙 mynyddoedd ac i fi gael rhannu faint o gymorth mae 鈥榙i bod i fi efo pobl eraill.

"Yr unig le o鈥檔 i鈥檔 fodlon cerdded iddo fo o鈥檙 blaen oedd y t欧 tafarn neu i brynu cyffuriau a r诺an dwi wrthi鈥檔 cerdded y mynyddoedd anhygoel yma.鈥

Disgrifiad o'r llun, Daeth 60 o bobl at ei gilydd i ddringo Moel Hebog, ger Beddgelert

Mae Rob yn rhedeg y gr诺p ar y cyd gyda鈥檌 bartner Leanne Jones o鈥檙 Felinheli.

Mae Leanne hefyd wedi rhoi鈥檙 gorau i gymryd cyffuriau ac alcohol ers bron i flwyddyn a hanner.

鈥淢ae gallu bod yn rhan o ddigwyddiad fel hwn yn gr锚t.

"'Da ni鈥檔 dod o gefndiroedd gwahanol ond mae gyda ni鈥檙 un problemau, a 鈥榙a ni鈥檔 gallu deall ein gilydd a siarad, a bod yna efo鈥檔 gilydd a jyst mwynhau鈥檙 diwrnod ym mhrydferthwch Eryri.

"Does dim llawer sy鈥檔 well.鈥

Disgrifiad o'r llun, Pwrpas y daith oedd dangos sut mae natur yn gallu helpu pobl

Mae nifer y marwolaethau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chyffuriau ac alcohol yn parhau i fod ar ei lefel uchaf erioed yng Nghymru.

Yn 么l yr ystadegau diweddaraf, roedd yna 30 marwolaeth ym mhob 100,000 o鈥檙 boblogaeth yn 2022. Yn Lloegr y gyfradd yw 25.9.

Yn 2022 bu farw 834 o bobl ar draws Cymru o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau neu alcohol.

Mae鈥檙 gyfradd o farwolaethau wedi gostwng ymhlith dynion Cymru, ond mae鈥檔 uwch nag erioed ymhlith menywod.

Ond, mae Leanne yn teimlo鈥檔 gryf bod angen rhannu鈥檙 neges bod yna obaith i bawb sy鈥檔 gaeth i gyffuriau neu alcohol.

鈥淢ae 鈥榥a llawer o stigma o gwmpas alcohol a chyffuriau ond mae 鈥榥a gymaint ohonom ni mae jyst angen i ni fod yna gyda鈥檔 gilydd a helpu ein gilydd.

"Mae 鈥榥a obaith i unrhyw un sydd am roi'r gorau i'r pethau yma, ac mae angen i bobl wybod hynna.

"Mae 鈥榥a ffordd allan a dydi pobl ddim yn gorfod gwneud o ar eu pen eu hunain.鈥