Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Leighton James yn 'un o'r asgellwyr gorau erioed'
Roedd Leighton James "yn un o'r asgellwyr gorau yn hanes p锚l-droed Prydain", yn 么l cyn-ymosodwr a chyn-reolwr Cymru John Toshack.
Fe wnaeth yr asgellwr chwarae 54 o weithiau i Gymru yn ystod gyrfa hir oedd yn cynnwys cyfnodau gyda Burnley, Abertawe, Derby County a Chasnewydd ymhlith eraill.
Ychwanegodd Toshack fod Cymru wedi bod yn "lwcus" i gael chwaraewr mor ddawnus 芒 James yn eu cynrychioli.
Fe wnaeth Toshack chwarae gyda James, ond fe wnaeth o hefyd ei hyfforddi yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Abertawe.
Fe sgoriodd James g么ll hollbwysig mewn g锚m yn erbyn Preston North End wrth i'r Elyrch ennill dyrchafiad i'r haen uchaf am y tro cyntaf ym 1981.
"Mae asgellwr 'go iawn' yn rhywbeth sy'n brin iawn yn y g锚m fodern, ond roedd Leighton James yn un o'r asgellwyr gorau i b锚l-droed Prydain ei weld erioed," meddai Toshack.
"Roedd o'n wych gyda'i ddwy droed - un o'r gorau i mi ei weld, a dwi wedi gweld eithaf tipyn!
"Roeddwn i wrth fy modd yn chwarae yn yr un t卯m a fo... Daeth rhai o'r eiliadau gorau i mi gyda Chymru yn sgil gwaith Leighton ar yr asgell. Roedd o'n dipyn o dalent."
Wedi 19 mlynedd fel chwaraewr, fe aeth James yn ei flaen i ddechrau gyrfa fel rheolwr.
Roedd hefyd yn llais adnabyddus ar y radio ac yn ysgrifennu colofnau mewn papurau newydd yn dadansoddi ac yn rhannu ei farn am y g锚m.
'Chwaraewr arbennig'
Yn 么l yr awdur a'r strategydd gwleidyddol, Alastair Campbell, sy'n cefnogi Burnley, roedd James yn "arwr" iddo.
"Roedd Leighton James yn chwaraewr arbennig, efallai'r gorau i chwarae i Burnley erioed," meddai.
"Roedd o'n un o'r chwaraewyr hynny, fel George Best, pan roedd y b锚l wrth eu traed roedd 'na gynnwrf yn yr eisteddle a phawb yn teimlo y gallai wneud i rywbeth ddigwydd.
"Mae'n syndod i mi na gafodd o gyfle gydag un o'r clybiau mawrion... mi oedd o bendant yn ddigon da i wneud hynny."
Dywedodd cyn-chwaraewr Cymru ac Abertawe, Alan Curtis y bydd James yn cael ei gofio fel "chwaraewr anhygoel".
"Mae pobl yn aml yn gor-ddweud wrth ddisgrifio chwaraewyr da, ond mi oedd Leighton yn chwaraewr gwirioneddol wych.
"Hyd heddiw does gen i ddim syniad os oedd o'n ffafrio'i droed dde neu ei droed chwith. Roedd o mor dda gyda'r ddwy."
Mi fydd teyrngedau yn cael eu rhoi i James yn ystod gemau Abertawe yn erbyn Huddersfield a Burnley yn erbyn Sheffield United ddydd Sadwrn.