Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canfod llygod yng nghegin ysgol uwchradd Caernarfon
Bydd disgyblion Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon yn derbyn pecynnau bwyd am gyfnod ar 么l i lygod gael eu canfod yng nghegin yr ysgol.
Mewn llythyr at rieni, dywedodd y prifathro fod yr ysgol yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i "ddatrys y mater yn brydlon ac effeithiol".
"Ysgrifennaf atoch i roi gwybod i chi am fater diweddar yr ydym wedi dod ar ei draws yn ein cegin ysgol," meddai Clive Thomas.
"Yn anffodus, rydym wedi darganfod presenoldeb llygod, sy'n amlwg yn peri pryder am iechyd a diogelwch ein disgyblion a staff.
"Rydym am eich sicrhau ein bod yn cymryd y mater hwn o ddifrif.
"Mae鈥檙 ysgol yn gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 awdurdod i ddatrys y mater yn brydlon ac effeithiol.
"Yn y cyfamser, er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad at brydau iach, bydd y gwasanaeth arlwyo yn darparu pecynnau bwyd nes y bydd yr awdurdod wedi mynd i鈥檙 afael yn llawn 芒鈥檙 sefyllfa."