Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cynllun i greu pedwerydd parc cenedlaethol yng Nghymru
- Awdur, Ruth Roberts
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae cynlluniau ar waith i gyflwyno parc cenedlaethol newydd yng Nghymru, a hynny yn y gogledd-ddwyrain.
Ond gyda thri o barciau cenedlaethol yng Nghymru eisoes, mae rhai yn cwestiynu gwerth sefydlu un arall.
Os caiff ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru, y bwriad yw creu'r parc erbyn diwedd tymor y Senedd yn 2026.
Bydd y cyfnod ymgysylltu presennol yn dod i ben ddydd Llun, 27 Tachwedd.
Dyma fyddai'r parc cenedlaethol cyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru ers Bannau Brycheiniog yn 1957.
Mae鈥檙 effaith ar dwristiaeth, yr amgylchedd, caniat芒d cynllunio a鈥檙 economi yn rhai o'r ffactorau sydd wedi cael eu hystyried.
Mae鈥檙 ardal sy'n cael ei hystyried ar hyn o bryd yn ymestyn o鈥檙 glannau yng ngogledd Sir Ddinbych, i lawr am Fryniau Clwyd ac yna i Ddyffryn Ardudwy.
Yn 么l Cyfoeth Naturiol Cymru, nid dyma ffiniau terfynol y parc, ac mae鈥檔 debygol y bydd yn cael ei addasu yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Yn ystod y mis diwethaf mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn cynnal digwyddiadau i roi cyfle i bobl ddysgu mwy a chynnig adborth ar gynlluniau cychwynnol i greu pedwerydd parc yn y gogledd-ddwyrain.
A hithau鈥檔 ddyddiau cynnar yn y broses, mae鈥檙 farn ar hyn o bryd yn gymysg.
Mae Sara Evans, un o berchnogion Maes Carafanau Llanbenwch ger Rhuthun, yn gefnogol o'r cynlluniau.
"Fel busnes yn yr adran dwristiaeth mae o'n gr锚t i ni. 'Neith o ddod 芒 mwy o fusnes gobeithio," meddai.
"Bydd mwy o garafanau ac yna byddan nhw鈥檔 defnyddio鈥檙 caffi a鈥檙 siop hefyd."
Ychwanegodd ei g诺r Gwion Evans, sydd hefyd yn berchennog ar y busnes: 鈥淒wi鈥檔 meddwl y bydd busnesau bach yn y dref yn manteisio.
"Mae hi wedi bod yn anodd iawn hefo Covid, ma' prisiau pethau 'di mynd fyny a ma' 鈥榥a lawer yn stryglo.
"Ma' 'na lawer o siopau yn Rhuthun yn wag, felly wrach fydd bosib cychwyn busnesau eraill yno.鈥
'Poeni' am reolau cynllunio
Ond mae'r cwpl yn cydnabod nad ydy鈥檙 cynlluniau i bawb, ac er y buddion, mae ganddyn nhw eu pryderon hefyd.
"'Da ni yn poeni 鈥榗hydig am unrhyw reolau neith ddod i mewn fysa鈥檔 gallu rhwystro ni rhag symud ymlaen yn y dyfodol, o ran cynllunio a datblygu鈥檙 busnes,鈥 ychwanegodd Mr Evans.
Mae eraill yn dadlau bod gormod o bwyslais ar harddwch a鈥檙 cyfleoedd hamdden a ddaw gyda sefydlu parc cenedlaethol, a鈥檌 fod yn aneglur sut y bydd yn gwarchod bioamrywiaeth a bywyd gwyllt yn yr ardal.
Mae Rhian Pierce yn ffermio ger Llangynhafal ac mae ganddi ddiddordeb mewn byd natur.
鈥'Da ni mewn biodiversity crisis a fyswn i鈥檔 hoffi gweld mwy yn y cynlluniau yn ymwneud 芒 bywyd gwyllt," meddai.
Oes angen dysgu gwersi o dramor?
Mae Ms Pierce - sydd wedi gweithio yn y maes cadwraeth yn y gorffennol ac yn deall sut mae parciau cenedlaethol mewn gwledydd tramor yn gweithredu - yn dadlau y dylai parciau yng Nghymru fabwysiadu'r un strwythurau.
鈥淗offwn i weld parc lle ma' 'na lefydd lle dydi pobl ddim yn mynd," meddai.
"Lle ma' 'na no access zone, limited access zone ac yna ardal lle ma' 'na fwy o lwybrau cyhoeddus ac ati.鈥
Dydi Ms Pierce ddim yn gweld y cynllun yn cael llawer o effaith arni hi, gan ei bod eisoes yn byw mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.
鈥淵n yr ardal yma 'da ni wedi bod yn yr AONB ers blynyddoedd r诺an a dwi ddim yn meddwl bydd parc cenedlaethol yn gwneud llawer o wahaniaeth i ni yn bersonol.
"'Da ni wedi arfer hefo rheolau planning yn yr ardal ers tipyn."
Ychydig i鈥檙 de, yng ngogledd Powys, mae yna gwestiynau yn codi a ddylai鈥檙 ardal honno gael ei hystyried o gwbl.
Mae yna amheuon hefyd am allu鈥檙 sir i ariannu鈥檙 parc gan fod Powys eisoes yn rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Roedd y cynghorydd sir lleol, Elwyn Vaughan, yn bresennol yn un o鈥檙 digwyddiadau ymgysylltu yn nhref Llanfyllin.
鈥淒wi鈥檔 cael trafferth gweld be fydd y budd i鈥檙 ardal yma," meddai.
"Doeddwn i ddim yn ystyried Sir Drefaldwyn fel rhan o鈥檙 gogledd-ddwyrain. Dwi鈥檔 credu bod pobl leol yma wedi cael sioc."
Ychwanegodd: 鈥淢ae parciau cenedlaethol yn creu pwysau ychwanegol.
"Mae statws parc cenedlaethol yn creu delwedd ramantus iawn i nifer o bobl yn y dinasoedd ac yna mae pobl yn heidio yma.
"Mae hyn hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar dai, gan wthio prisiau i fyny yn yr ardal, a ma' hynny eisoes yn broblem fel 'da ni'n gwybod.鈥
'Lladd y gymuned a'r iaith'
Mae Tom Evans, sy'n ffermio yn ardal Llanrhaeadr-ym-mochnant, yn gwrthwynebu鈥檙 cynlluniau yn gryf.
鈥淒wi ddim yn gweld yr un fantais o gael parc newydd, dim ond anfanteision," meddai.
"Mae鈥檙 ardal yn denu digon o dwristiaeth fel mae hi.
"Fydd y ffyrdd methu ymdopi a does dim digon o feysydd parcio i'r holl ymwelwyr.鈥
Yn dad i bedwar o blant, mae Tom yn poeni am eu dyfodol yn byw o fewn ffiniau parc cenedlaethol.
鈥淢ae hi鈥檔 mynd yn anoddach cadw pob cenhedlaeth yng nghefn gwlad Cymru," meddai.
"Mae mwy a mwy yn symud i ffwrdd, methu ffeindio gwaith a methu cael tai.
"Ma' gen i ofn bydd y parc 'ma yn lladd y gymuned ac yn lladd yr iaith Gymraeg.
"Mae鈥檔 poeni fi na fyddan nhw'n cael yr un cyfle i fyw a magu plant yn eu milltir sgw芒r."
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried yr holl adborth cyn mynd ati i lunio map ar gyfer y cyfnod ymgysylltu nesaf yn 2024.
Yna, bydd cyfnod ymgynghori yn digwydd cyn y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflwyno'r argymhelliad i Lywodraeth Cymru ar sail y dystiolaeth fydd yn cael ei gasglu.
Gall Gorchymyn Dynodi gael ei gyflwyno os ydy鈥檙 meini prawf perthnasol yn cael eu bodloni.
Yn 2026, bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu cadarnhau, gwrthod neu amrywio鈥檙 gorchymyn.
Os caiff ei gadarnhau, bydd Parc Cenedlaethol newydd yn cael ei greu yn y gogledd-ddwyrain.