Ffilm newydd yn dilyn hynt a helynt Marcwis o F么n
- Cyhoeddwyd
Mae ffilm newydd sy'n canolbwyntio ar un o Farcwisiaid mwyaf unigryw Ynys M么n yn cael ei ffilmio yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd.
29 oed oedd Henry Cyril Paget, pumed Marcwis yr ynys, pan fu farw yn 1905.
Adeg ei farwolaeth, roedd yn fethdalwr ac fe adawodd ddyledion enfawr sy'n cyfateb i thua 拢45 miliwn heddiw.
Mae stori'r pumed Marcwis yn cael ei hadlewyrchu mewn ffilm newydd sbon o'r enw 鈥楳adfabulous鈥.
Yr actor sydd fwyaf adnabyddus am actio yn y gyfres 鈥業t鈥檚 A Sin鈥, Callum Scott Howells o Dreorci, sy'n chwarae prif ran y Marcwis.
Mae cyfarwyddwr ac awdur y sgript yn dod o Ynys M么n.
Mae actorion adnabyddus eraill yn rhan o'r cynhyrchiad, gan gynnwys Rupert Everrett a Julian Lewis Jones.
Roedd Henry Cyril Paget yn hoff iawn o berfformio, ac yn aml yn gwahodd y cyhoedd i鈥檞 wylio鈥檔 perfformio mewn theatr a adeiladodd ar ei stad ym Mhlas Newydd ger Llanfairpwllgwyngyll yn 1901.
Roedd yn hoff iawn o ddawnsio ac yn gwisgo dillad lliwgar llawn gemwaith drud wrth iddo berfformio ar y llwyfan.
Roedd pobl yn aml yn cyfeirio ato fel 'The Dancing Marquess鈥 .
Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru, dywedodd Callum Scott Howells, sy'n chwarae'r brif ran yn y ffilm: "Wrth adrodd ei stori bob dydd rwy'n dysgu cymaint amdano fel person drwy'r sgript.
"Rwy'n teimlo mor freintiedig i fod yn adrodd stori Henry, ac yn lwcus iawn, iawn o fod yn cael adrodd ei stori yma yng Nghymru."
Ychwanegodd : "Mae'r ffilm yma mor gyffrous... mae Henry yn gymeriad anhygoel, ond mae Henry hefyd yn complex a full of multiple layers."
Mae ffilm 'Madfabulous' yn cael ei chyfarwyddo gan yr actor a'r sgriptiwr Celyn Jones ac yn cael ei ffilmio ym Mhlas Newydd ym M么n ynghyd 芒 lleoliadau eraill ger Pwllheli a Chaernarfon.
Un lleoliad ffilmio ydi'r plasty ar stad Glynllifon ger Caernarfon, sydd wedi鈥檌 addurno i adlewyrchu'r arddull odidog oedd Henry Paget yn hoff ohoni.
Mae hanes lliwgar etifedd y pumed Marcwis wedi ei gadw'n dawel am dros ganrif wedi iddo wario holl gyfoeth y teulu ar gynnal dram芒u drud a gwisgo mewn gwisgoedd crand wedi eu gorchuddio mewn diemyntau.
Ond roedd wrth ei fodd yn diddanu'r gymuned leol gyda'i ryfeddodau ac yn adnabyddus am ei gariad tuag at fyd y theatr.
Dywedodd Callum Scott Howells ei fod yn rhannu ei angerdd am fyd y theatr: 鈥淩wy鈥檔 meddwl mai dyna un o鈥檙 rhesymau pam y daeth Celyn ata' i chwarae rhan Henry.
"Roedd yn gwybod fy mod wedi gwneud llawer o bethau ar y llwyfan ac roeddwn yn y sioe 'Cabaret' yn y West End ac rwyf wrth fy modd 芒'r theatr.
Mae'r ffilm yn seiliedig ar sgript gan Lisa Baker o Ynys M么n.
Cafodd y cyfarwyddwr Celyn Jones ei fagu ar yr ynys hefyd ond dywedodd mai'r cyfan yr oedd yn ei wybod am y pumed Marcwis oedd ei gariad at gael tynnu ei lun mewn gwisgoedd mawreddog.
Dywedodd: "Cafodd lluniau ohono eu rhannu ar draws y byd ac roeddwn i'n edrych arnyn nhw a meddwl, ai dyma'r 1890au? Ai rhyw seren roc glam ydy o?"
Mae'r actor Tom Rhys-Harries o Gaerdydd yn rhan o'r cast ac yn dweud bod talent 'Cymreig' o flaen a thu 么l i'r camera.
Mae o'n chwarae rhan Nick yn y ffilm, sy'n gynhyrchydd theatr.
Dywedodd: "Fi'n rili mwynhau cael chwarae cymeriadau sydd efallai efo ulterior motives... fi'n rili mwyhau saethu n么l yng Nghymru a gallu bod yn rhan o gynyrchiadau fan hyn sydd yn beth pleserus.
"Fi'n meddwl fod e'n hynod o bwysig i ni fel y Cymry sydd yn genedl hynod o greadigol ein bod ni'n hybu creative industries fan hyn - mae 'na gymaint o dalent yng Nghymru."
Dywedodd fod hi'n bwysig iddo "gallu dod n么l i gynrychioli a hysbysebu Cymru mewn golau da".
Ychwanegodd: "Mae hynny'n beth hynod o bwysig i fi... bod ni'n gallu dangos ein hunain i'r byd. Mae 'na farchnad fawr allan yno, lle ddylai ni gymryd mantais o hynny."
Mae ffilm 鈥楳adfabulous鈥 yn cael ei chynhyrchu gan y cwmni Mad As Birds ac yn cael ei chefnogi gan Ffilm Cymru gydag arian y Loteri Genedlaethol a聽gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.
Tra bod y ffilm wedi鈥檌 hysbrydoli gan fywyd y pumed Marcwis, mae'n cael ei disgrifio fel ffilm sy'n 鈥渁il-ddychmygu鈥 ei holl gampau a'i ryfeddodau.
Mae鈥檙 cynhyrchwyr yn gobeithio gwerthu鈥檙 ffilm i gwmni arall er mwyn ei rhyddhau yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017
- Cyhoeddwyd28 Ionawr