Cynghrair Europa: Y Seintiau yn colli g锚m agos ym Moldofa

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe gollodd Y Seintiau Newydd o 1-0 yn eu cymal cyntaf yn erbyn Petrocub yn nhrydedd rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Yn erbyn llif y chwarae, fe aeth pencampwyr Moldofa ar y blaen wedi 20 munud.

Fe ergydiodd Donalio Douanla o bellter ac fe wyrodd y b锚l oddi ar Daniel Davies i gornel ucha'r rhwyd.

Bron i'r Seintiau ddod yn gyfartal yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf, ond doedd Brad Young methu 芒 chyrraedd croesiad Jordan Marshall wedi symudiad gwych lawr yr asgell chwith.

Fe ddisgynnodd y Seintiau i'r gystadleuaeth hon ar 么l colli yn erbyn Ferencv谩ros yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Roedd gobeithion y Seintiau yn erbyn pencampwyr Hwngari drosodd wedi colled drom yn y cymal cyntaf, ond roedd perfformiad yr ymwelwyr yn Stadiwm Zimbru yn ninas Chi葯in膬u nos Fawrth yn hynod galonogol.

Roedd y si芒r o'r meddiant a nifer yr ergydion tua'r g么l mwy neu lai yn gyfartal rhwng y ddau d卯m, a hynny mewn g锚m lle'r oedd cyfleodd gwirioneddol i sgorio yn hynod brin.

Er eu bod wedi colli'r cymal cyntaf, fe fydd gobeithion y Seintiau yn uchel ar gyfer yr ail gymal - fydd yn cael ei chwarae yn Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt nos Fawrth 13 Awst.

Y Seintiau Newydd yw'r t卯m olaf o Gymru sydd dal i gystadlu yn Ewrop wedi i Gaernarfon, Cei Connah a'r Bala golli mewn rowndiau blaenorol.