大象传媒

Yr Hobyd: Cyfieithiad yn 'creu pontydd' i ddarllenwyr

Rhys Morris yn darllen Yr HobydFfynhonnell y llun, Rhys Morris
  • Cyhoeddwyd

Mae'r clasur The Hobbit gan J.R.R. Tolkien wedi cael ei chyfieithu i'r Gymraeg am y tro cyntaf.

Adam Pearce sydd tu 么l i'r cyfieithiad, sydd yn dilyn antur yr hobyd Bilbo Baggins. Er fod y nofel ffantasi adnabyddus wedi ei chyfieithu i dros 60 o ieithoedd - gan gynnwys y Gernyweg, Lladin a iaith Hawai'i - does dim fersiwn Gymraeg wedi'i chyhoeddi, tan nawr.

Mae Rhys Morris wrth ei fodd 芒 gwaith Tolkien, ac wedi bachu ar y cyfle i ddarllen Yr Hobyd, gan rannu rhai o'i argraffiadau gyda 大象传媒 Cymru Fyw:

Tolkien a'r Gymraeg

Pan glywais gyntaf am lyfr fyd-enwog J.R.R. Tolkien yn cael ei gyfieithu i鈥檙 Gymraeg fe neidiais ar y cyfle i gael copi o鈥檙 llyfr. Yn 么l fy nghydweithwyr, roedd hwn yn ddigon iddynt ystyried fy mod yn superfan Tolkien.

Dwi ddim am wrthbrofi hyn; dwi鈥檔 hoff iawn o鈥檌 waith, yn rhannol gan ei fod yn astudiaeth wych mewn i adeiladu byd ffuglennol drwy ieithoedd ffug.

Mae gwaith Tolkien wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd wahanol yn barod, gydag ef ei hun yn rhoi help llaw yn rhai ohonynt. Mae鈥檔 honni hefyd fod y llyfrau Saesneg gwreiddiol yn gyfieithiad o鈥檙 iaith Westron a grewyd ganddo ef.

Ond nid nes nawr y mae un o鈥檌 weithiau wedi鈥檜 cyfieithu i鈥檙 Gymraeg.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dylanwad y Gymraeg a diwylliant Cymru i'w weld ar waith J.R.R. Tolkien

Mae鈥檔 ffaith gyffredin bod Tolkien yn dweud fod llawer o鈥檌 ysbrydoliaeth i鈥檞 straeon wedi鈥檜 trwytho gan chwedlau a diwylliant Cymru. Roedd hefyd yn medru鈥檙 iaith yn ogystal 芒 Chymraeg Canol.

Mae鈥檔 werth nodi hefyd bod yr iaith Elvish (Quenya/Sindarin) yn ei lyfrau, wedi鈥檌 chreu ag awgrym o ddatblygiad iaith o鈥檙 Hen Geltaidd, sef yn ein hamser ni a esblygodd i fod yn Gymraeg.

Ond mae鈥檔 bwysig cofio mai nid dim ond Cymru oedd yn ysbrydoliaeth iddo, ond llawer o hen ddiwylliannau o gwmpas Ewrop.

Fe gyfrannodd hyn i gyd i greu byd hynod ddwys sydd yn gosod cefndir cyfoethog i allu gosod unrhyw stori ynddi... a sialens i unrhyw gyfieithydd.

Bilbo Baglan a Gandalff

Fel cyfieithydd medrus a chrefftus, mae鈥檔 rhaid bod mynd ati i gyfieithu unrhyw waith gan Tolkien yn brofiad brawychus, ond her a lwyddodd Adam Pearce ei chyflawni. Mae鈥檔 gyfieithiad hyfryd o un o fy hoff lyfrau.

Y cwestiwn oedd si诺r o fod ar dafod pawb cyn ei ddarllen (neu efallai dim ond fi) oedd sut aeth ati i gyfieithu鈥檙 enwau priod, hynny yw, Bilbo Baggins; Gandalf; Smaug; Thorin Oakenshield ac ati. Ac yn yr un ffordd y cyfieithodd Tolkien ei waith o Westron i Saesneg, mae Pearce wedi cadw yr un mathau o ddelweddau sy鈥檔 ysgogi鈥檙 dychymyg yn y Gymraeg: Thorin Dariandderw; Smawg; Gandalff; a Bilbo Baglan.

Roeddwn i ym Maglan yn ddiweddar ond yn anffodus heb weld unrhyw Hobyd na Hobyd-dwll yno. Ond wrth gwrs fel y gwyddoch, maent yn gallu diflannu鈥檔 鈥渄awel ac yn gyflym pan fo pobl fawr dwl fel ti neu fi yn baglu o gwmpas yn gwneud s诺n fel eliffant鈥.

Ac fel rhyw rodd i gyfieithwyr y llyfrau, fe adawodd Tolkien ei Guide to the Names in The Lord of the Rings, oedd yn gosod allan etymoleg ei enwau.

Ffynhonnell y llun, George Allen & Unwin, Evertype, Harper Collins
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr argraffiad cyntaf o The Hobbit o 1937, An Hobys - y cyfieithiad Cernyweg, a Hobbitus Ille - y cyfieithiad Lladin

Mae鈥檙 ymateb i鈥檙 llyfr wedi bod yn bositif; mae鈥檔 dangos fod y galw yn amlwg yno ar gyfer gwaith i鈥檞 gyfieithu i鈥檙 Gymraeg.

Mae Adam Pearce, y cyfieithydd a pherchennog Melin Bapur, hefyd wedi troi at addasu The Time Machine gan H.G. Wells i鈥檙 Gymraeg yn ogystal 芒 chyfieithu clasuron Cymraeg i鈥檙 Saesneg.

Teimlad rhyfedd yw darllen llyfr rwyf wedi ei brofi mewn iaith arall, yn enwedig llyfr mor boblogaidd; ac mae鈥檔 codi cwestiynau yngl欧n 芒 rhesymeg cyfieithu llyfrau sydd yn gampweithiau yn eu hiaith eu hun.

Ond wrth ddarllen yn y ddwy iaith mae elfennau gwahanol o鈥檙 stori yn dod i鈥檙 amlwg. Enghraifft wych o hyn yw pan fo Bilbo a鈥檙 Corachod yn dod ar draws dri trol yn coginio dafad. Mae鈥檙 troliaid yn cyfathrebu mewn tafodiaith gogleddol (cofiwch dim fi gyfieithodd hwn!), tra bod gweddill y llyfr mewn Gymraeg cyffredin.

Mae鈥檙 gwahaniaeth yma yn y patrwm siarad ond yn medru cael ei brofi drwy鈥檙 Gymraeg. Yn yr un ffordd yn y gwreiddiol, ble mae鈥檙 troliaid yn siarad yn dafodieithol, mae鈥檔 codi teimladau all ond gael ei brofi gan siaradwr Saesneg.

Cyfieithiad yn 'bont wych'

Yn gywilyddus rwy鈥檔 cyfaddef fod y rhan helaeth o fy narllen drwy gyfrwng y Saesneg, ac er fod llenyddiaeth Gymraeg wedi fod yn bwysig yn fy magwraeth, nid yw鈥檔 gyffredin yn fy mywyd dydd i ddydd.

Ond dwi wir yn credu fod cyfieithiadau fel hyn yn gallu bod yn bont wych mewn i lenyddiaeth gyfoethog a llewyrchus Cymraeg.

Felly, edrychaf ymlaen i forio mewn i鈥檙 byd yma, a pharhau i fwynhau llenyddiaeth yn fy mamiaith.