Disgwyl i Neuadd Dewi Sant fod ar gau tan 2026
- Cyhoeddwyd
Gallai un o leoliadau cyngherddau mwyaf Cymru fod ar gau am fisoedd yn hirach na'r disgwyl.
Cafodd Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ei chau ym mis Medi 2023 ar 么l canfod concrit diffygiol RAAC yno.
Yn wreiddiol, roedd disgwyl i brif leoliad cerddoriaeth glasurol y ddinas - sydd angen to newydd - aros ar gau tan 2025.
Fodd bynnag, nid yw caniat芒d adeilad rhestredig - sydd ei angen cyn y gellir gwneud unrhyw waith - wedi鈥檌 sicrhau eto, ac efallai na fydd y neuadd yn ailagor tan 2026.
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd5 Medi 2023
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Caerdydd, gofynnodd arweinydd gr诺p y Democratiaid Rhyddfrydol, Rodney Berman, am ddiweddariad ar y gwaith yn y neuadd.
Dywedodd Jennifer Burke, aelod cabinet y cyngor dros ddiwylliant, fod rhestru鈥檙 adeilad wedi 鈥測mestyn y broses yn sylweddol鈥.
Dywedodd mai'r disgwyl yw y gallai'r gwaith gymryd 18 mis i'w gwblhau unwaith y bydd pob caniat芒d cynllunio wedi'i sicrhau.
Fe wnaeth archwiliad yn y neuadd y llynedd ganfod bod angen newid y to yn gyfan gwbl oherwydd cyflwr y paneli yn y nenfwd.
Daeth arbenigwyr i edrych ar y neuadd ar 么l i ganllawiau iechyd a diogelwch newid ar RAAC.
Mae'r deunydd yn fath o goncrit ysgafn sy'n gallu dymchwel yn sydyn wrth iddo heneiddio.