Dangos gemau Cymru ar S4C yn 'achubiaeth' i dafarn
- Cyhoeddwyd
Mae tafarn wedi dweud bod dangos gemau rygbi Cyfres yr Hydref ar S4C yn "achubiaeth" i'r busnes, am na fyddai tanysgrifiad i'w dangos yn Saesneg yn fforddiadwy.
Mae Jon a Sacha Child wedi bod yn rhedeg Gwesty鈥檙 Kings Arms yn y Fenni ers bron i 12 mlynedd.
Dywedodd Jon eu bod yn "ddiolchgar" i S4C am ddangos gemau'r hydref yn fyw, wedi iddyn nhw sylweddoli na fyddai cost tanysgrifiad yn "hyfyw" i'w busnes.
Cwmni TNT sy'n darlledu holl gemau'r hydref yn Saesneg, ond mae gemau Cymru ar gael i'w gwylio am ddim ar S4C, oherwydd rhwng S4C a TNT.
Fe wnaeth Gwesty'r Kings Arms hysbysebu y byddan nhw'n dangos pob un o'r 21 g锚m ryngwladol rhwng amryw wledydd yn ystod Cyfres yr Hydref.
Ond roedd hynny cyn i gynrychiolydd o TNT gysylltu 芒 nhw i ddweud nad oedd ganddyn nhw'r tanysgrifiad cywir i allu dangos y gemau.
鈥淔e wnaethon nhw gysylltu - dim mewn ffordd faleisus, ond er mwyn amlygu nad oedd gennym ni'r pecyn cywir,鈥 meddai Jon.
"Roedd pris pecyn masnachol ychydig yn llai na 拢700 y mis, a VAT ar ben hynny, ac roedd yn rhaid tanysgrifio am o leiaf chwe mis.
"Roedd hynny'n ormod o lawer i ni fel busnes."
Dywedodd Jon fod gallu dangos gemau Cymru drwy S4C "yn achubiaeth llwyr i ni".
Dywedodd bod adborth gan gwsmeriaid ei bod yn well ganddynt gael sylwebaeth Saesneg gan nad yw mwyafrif eu cwsmeriaid yn siarad Cymraeg.
Ond mae'n ddiolchgar dros ben fod modd iddyn nhw ddangos gemau Cymru ar S4C gyda sylwebaeth Gymraeg.
"Fel arall fydden ni ddim wedi gallu dangos unrhyw gemau," meddai.
'Gwybod pa mor bwysig yw rygbi Cymru'
Dywedodd Sue Butler, comisiynydd cynnwys chwaraeon S4C, eu bod yn "gwybod pa mor bwysig yw rygbi Cymru, a鈥檙 gemau rhyngwladol, i gynulleidfaoedd".
"Rydym yn falch iawn i gynnig y gemau hyn am ddim, yn Gymraeg, ar S4C," meddai.
Ychwanegodd llefarydd ar ran cwmni Warner Bros. Discovery Sports Europe - sy'n berchen ar TNT: 鈥淢ae cyd-ddarlledu gemau t卯m cenedlaethol Cymru yn erbyn Fiji, Awstralia a De Affrica ochr yn ochr 芒 phartner rhagorol fel S4C yn cyd-fynd 芒鈥檔 huchelgais i sicrhau bod y tair g锚m ryngwladol hynny ar gael mor eang 芒 phosibl i wylwyr yng Nghymru.鈥
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru fod "tocynnau i wylio Cymru yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yr hydref hwn yn dal i fod ar gael ar gyfer pob un o鈥檙 tair g锚m, gan ddechrau o 拢5 yn unig i blant a 拢10 i oedolion.
鈥淩ydym wedi bod yn falch iawn o sicrhau hawliau teledu gydag S4C... a fydd yn gweld darllediadau byw o gemau Cymru yng Nghyfres Cenhedloedd yr Hydref am y ddau dymor nesaf."
"A gyda'r cytundeb 芒 TNT, mae gan glybiau rygbi ar draws Gymru fynediad at gynnig arbennig gyda TNT Sports Business a fydd yn eu galluogi i ddangos pob g锚m yn fyw.聽 Mae pob clwb wedi cael ei gysylltu ac wedi derbyn cod unigryw i ddatgloi鈥檙 fargen.鈥
Ble alla i wylio gemau'r hydref?
Bydd tair g锚m yn fyw ar S4C, Clic neu'r 大象传媒 iPlayer, gyda sylwebaeth Gymraeg;
Er mwyn gwylio gemau Cymru (a phob un o'r 21 o gemau Cyfres yr Hydref gwahanol wledydd) gyda sylwebaeth Saesneg mae angen tanysgrifiad i TNT;
Mae hynny'n costio 拢30.99 y mis ond yn cynnwys darllediadau o sawl camp arall hefyd;
Gallwch wrando ar holl gemau Cymru ar 大象传媒 Radio Cymru yn ogystal 芒 gemau gweddill y gwledydd ar 大象传媒 5 Live;
Bydd llif byw o'r gemau ar gael yn Saesneg hefyd ar wefan ac ap 大象传媒 Sport.
Pryd mae Cymru'n chwarae?
Cymru v Fiji - 13:40 dydd Sul, 10 Tachwedd
Cymru v Awstralia - 16:10 dydd Sul, 17 Tachwedd
Cymru v De Affrica - 17:40 dydd Sadwrn, 23 Tachwedd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd