Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Carcharu dynes am ffugio ei chymwysterau nyrsio
Mae dynes a roddodd wybodaeth ffug ac a ddywedodd gelwydd am ei chymwysterau tra'n ceisio am swydd fel uwch-nyrs mewn uned babanod newydd-anedig yn ne Cymru wedi cael ei charcharu am dwyll.
Yn Llys y Goron Caerdydd, cafwyd Tanya Nasir, 45, o Sir Hertford, yn euog o naw cyhuddiad - gan gynnwys twyll, defnyddio offeryn ffug gyda bwriad, meddu ar eitemau i'w defnyddio mewn twyll a sicrhau mynediad anawdurdodedig i ddeunydd cyfrifiadurol yn fwriadol.
Clywodd y llys yn ystod yr achos fod Nasir wedi 鈥渄weud celwydd yn fwriadol ar ei ffurflenni cais" ac wedi honni ei bod wedi gwasanaethu gyda'r fyddin.
Yn ystod yr achos fe wnaeth Nasir - oedd yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei herbyn - honni ei bod wedi trin achosion meddygol brys yn y fyddin a'i bod bron wedi cael ei saethu ddwywaith yn Afghanistan.
Cafodd ei dedfrydu i bum mlynedd o garchar.
Mae Nasir o Rickmansworth yn fam i ddau o blant, a chafodd ei phenodi yn rheolwr ward babanod newydd-anedig Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi 2019.
Bedwar mis ar 么l iddi ddechrau gweithio roedd gan fetron yr uned amheuon amdani wedi i'w chod cofrestru nyrsio ddangos ei bod wedi cymhwyso bedair blynedd yn ddiweddarach na'r hyn a oedd yn cael ei nodi ar ei ffurflen gais.
Fe ddechreuodd yr ysbyty gynnal ymchwiliad a daeth i'r amlwg fod Nasir wedi dweud nifer o gelwyddau am ei bywyd a'i phrofiad nyrsio.
Cafodd ei gwahardd o'i gwaith ond ymddiswyddodd ddau ddiwrnod cyn y gwrandawiad disgyblu yn yr ysbyty.
Yn ystod yr achos clywodd y llys bod Nasir wedi ffugio ei geirda ar gyfer swydd rheolwr uned babanod newyddenedigol gan ddefnyddio cyfrif e-bost Maureen Westphal, nyrs yr oedd wedi gweithio gyda hi yn Ysbyty Hillingdon yn Llundain.
Yn y geirda ysgrifennodd mai Ms Westphal oedd ei rheolwr llinell. Nid oedd hynny'n wir.
Roedd Ms Westphal wedi gadael ei swydd llawn amser ddeg mis cyn i'r geirda gael ei ysgrifennu ond roedd ei chyfrif e-bost yn parhau i fod yn weithredol oherwydd ei bod yn dal i fod yn aelod o staff achlysurol.
Pan gafodd ei chyfweld gan Ymchwilwyr Gwrth Dwyll y GIG, dywedodd Maureen Westphal nad hi oedd wedi ysgrifennu'r geirda.
Pan gafodd cartref Nasir yn Aberhonddu ei archwilio gan yr heddlu ar 么l iddi gael ei harestio ym mis Ebrill 2021 cafodd tystysgrifau a diplom芒u ffug eu canfod.
Dywedodd Nasir wrth y panel cyfweld yn Ysbyty Tywysoges Cymru ei bod yn aelod o'r Fyddin Wrth Gefn.
Roedd Nasir wedi bod yn gwirfoddoli gyda Llu Cadetiaid y Fyddin am gyfnod byr, ond methodd brawf ffitrwydd i ymuno 芒'r fyddin.
Yn ystod yr achos dywedodd cynrychiolydd ar ran y fyddin nad oedd Nasir erioed wedi gwasanaethu gyda nhw na'r Fyddin Wrth Gefn. Nodwyd chwaith nad oedd hi erioed wedi gwirfoddoli tramor.
Dywedodd Nasir hefyd ei bod wedi gwasanaethu ar ynys Diego Garcia yng nghefnfor India ac yn Haiti, Syria, Kosovo, Kenya ac Irac.
Honnodd ymhellach ei bod wedi gweithio gydag elusennau mewn gwledydd lle oedd rhyfel - yn eu plith Oxfam a'r Groes Goch ond doedd gan yr elusennau hynny ddim cofnod.
Mewn datganiad yn gynharach eleni dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Yn ystod y cyfnod byr iawn yr oedd Ms Nasir yn gweithio ac yn bresennol yn ei r么l yn Ysbyty Tywysoges Cymru, prin iawn oedd ei chyswllt a babanod a'u teuluoedd.
"Yn dilyn ymchwiliad mewnol manwl, gallwn gynnig sicrwydd i'r teuluoedd oedd gyda ni ar y pryd, na chafodd unrhyw niwed ei achosi o ganlyniad i gyflogaeth Ms Nasir yn yr uned."
Nasir 'wedi peryglu bywydau cleifion'
Dywedodd Gayle Ramsay ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: 鈥淔e wnaeth Tanya Nasir ddweud celwydd yn fwriadol am ei chymwysterau a鈥檌 phrofiad gwaith er mwyn cael bod yn uwch-nyrs - r么l nyrsio sensitif lle ymddiriedwyd ynddi i ofalu am fabanod newydd-anedig.
鈥淔e aeth i drafferthion anhygoel i geisio cael swyddi sy鈥檔 gofyn am uniondeb a gonestrwydd gan beidio dangos hynny ei hun.
"Nid yn unig y bradychodd ymddiriedaeth ei chyflogwyr a鈥檌 chydweithwyr, ond rhoddodd yr hyn a wnaeth fywydau cleifion bregus mewn perygl sylweddol.
鈥淕an weithio gydag ymchwilwyr yn Awdurdod Atal Twyll y GIG, llwyddodd yr erlyniad i gasglu llawer iawn o dystiolaeth a鈥檌 chyflwyno i'r rheithgor."