Cynllun i symud cyrsiau prifysgol o Lambed i Gaerfyrddin

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y coleg yn Llanbedr Pont Steffan ei sefydlu yn 1822

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi dechrau trafod cynllun i symud cyrsiau o'u campws yn Llambed i'w safle yng Nghaerfyrddin, gan ddweud "nad yw'r sefyllfa yn gynaliadwy".

Dywedodd llefarydd bod "cynnig i symud ein darpariaeth Dyniaethau a addysgir ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol, i鈥檔 campws yng Nghaerfyrddin o鈥檙 flwyddyn academaidd newydd yn dechrau ym mis Medi 2025".

"Er gwaethaf ystod o syniadau arloesol i ddenu mwy o fyfyrwyr i鈥檔 campws yn Llambed ni chawsant eu gwireddu, ac mae鈥檙 campws wedi gweld dirywiad cynyddol yn nifer y myfyrwyr sy鈥檔 cael eu haddysgu wyneb-yn-wyneb," meddai.

Ychwanegodd llefarydd bod "yn rhaid inni weithredu".

Dywedodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake y byddai symud cyrsiau i Gaerfyrddin "yn ergyd drom i'r gymuned academaidd a'r gymuned leol" yn Llambed ac y bydd yn galw cyfarfod brys i drafod y cynlluniau.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd llefarydd bod y brifysgol "wedi ymrwymo i gadw prif yst芒d y campws yn Llambed"

Clywodd Cymru Fyw bryderon yn 2019 bod lleihad wedi bod yn nifer y staff ac adrannau ar y campws yn Llambed.

Dywedodd un aelod o staff bryd hynny "nad ydynt [y myfyrwyr] yn gweld dyfodol i'r campws fel mae pethau".

Dywedodd Prifysgol Y Drindod Dewi Sant ar y pryd eu bod wedi buddsoddi yn y campws yn Llanbedr Pont Steffan yn y blynyddoedd diweddar, a bod cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Wrth gadarnhau'r cynnig i symud y cyrsiau o Lambed, dywedodd llefarydd bod nifer y myfyrwyr sydd gan y brifysgol "yn gyffredinol yn tyfu", ond "nid ydynt wedi鈥檜 dosbarthu鈥檔 gymesur ar draws ein campysau gwahanol".

Ychwanegodd llefarydd mai bwriad y cynnig i symud cyrsiau i Gaerfyrddin yw sicrhau "parhad yr addysg a ddarperir i鈥檔 holl fyfyrwyr gyda鈥檙 bwriad o wella profiad y myfyrwyr yn gyffredinol a grymuso cyflwyniad ac ansawdd ein rhaglenni".聽

Maen nhw'n pwysleisio y byddai hynny'n "cynorthwyo ein rhaglenni yn y Dyniaethau i ddatblygu ymhellach a ffynnu fel disgyblaeth academaidd".

鈥淢ae鈥檙 Brifysgol wedi ymrwymo i gadw prif yst芒d y campws yn Llambed a chanfod dulliau amgen o gynnig gweithgareddau sy鈥檔 ymwneud ag addysg a fydd yn rhoi bywyd newydd a dyfodol mwy diogel i鈥檙 campws," meddai'r llefarydd.

鈥淏ydd ein trafodaethau yn cymryd i ystyriaeth sut i wasanaethu lles gorau ein myfyrwyr, staff a鈥檙 gymuned yn Llambed tra hefyd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy鈥檙 sefydliad."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake y bydd yn galw cyfarfod brys i drafod y cynlluniau

Wrth ymateb i'r cynlluniau dywedodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake: "Llambed yw man geni addysg yng Nghymru ac ers dros 200 mlynedd, y brifysgol yw conglfaen y dref."

Dywedodd y byddai symud cyrsiau i Gaerfyrddin "yn ergyd drom i'r gymuned academaidd a'r gymuned leol" yn Llambed.

Tra'n cydnabod fod pwysau ariannol sylweddol ar sefydliadau addysg uwch y DU, dywedodd bod "dyletswydd ar Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i egluro sut maen nhw'n bwriadu parhau ag addysg uwch yn Llambed".

"Rydw i'n annog y brifysgol i ystyried effaith y cynlluniau yma ac fe fydda i'n galw am gyfarfod brys gydag arweinwyr y brifysgol ac arweinwyr lleol i sicrhau dyfodol addysg uwch yn Llambed."

Sefydliad academaidd hynaf Cymru

Yn ei anterth yn y 1990au roedd 1,500 o israddedigion yn Llanbedr Pont Steffan.

Mae prifysgol wedi bod yn y dref ers 1822, gan olygu mai hwn yw'r sefydliad academaidd hynaf yng Nghymru, ac un o'r rhai hynaf yn y DU.

Yn wreiddiol fel Coleg Dewi Sant, dyma'r sefydliad hynaf yng Nghymru i ddyfarnu graddau, a'r pedwerydd hynaf yng Nghymru a Lloegr, ar 么l Rhydychen, Caergrawnt a Durham.

Yn 1971 daeth y coleg yn aelod ffederal o Brifysgol Cymru.

Yn 2008, dechreuodd y broses o sefydlu'r coleg yn rhan o brifysgol Y Drindod Dewi Sant, sydd 芒 phresenoldeb yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Llanbed.

Mae sefydliad wedi arbenigo mewn nifer o bynciau gan gynnwys Diwinyddiaeth, y Clasuron, Archeoleg a Hanes yr Henfyd.