Arian tomenni glo 'i'w groesawu' ond 'ddim yn ddigon'

Ffynhonnell y llun, Getty

Disgrifiad o'r llun, Llithrodd 60,000 o dunnelli o wastraff i lawr ochr y mynydd ger Pendyrus yn 2020
  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd amgylchedd 大象传媒 Cymru

Mae tad sy'n poeni am ddiogelwch ei gartref bob tro mae'n glawio yn dweud ei fod yn croesawu'r newyddion am fwy o arian i drwsio hen domenni glo Cymru yn y Gyllideb.

Ond mae Phil Thomas, sy'n byw islaw un o gannoedd o dommeni sy'n cael eu hystyried yn rhai risg uchel, yn dweud bod yna gwestiynau yn parhau o ran ateb hir-dymor i'r broblem.

Mae'r gwrthbleidiau wedi rhybuddio nad yw'r 拢25m a gyhoeddwyd ar gyfer gwaith adfer yn agos at fod yn ddigonol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Canghellor Rachel Reeves wedi ymateb i'w galwadau ar i Lywodraeth y DU gyfrannu at y gost o ddiogelu'r tomenni.

Disgrifiad o'r llun, Mae Phil Thomas yn dweud ei fod yn poeni am ei gartref bod tro mae'n glawio ar 么l darganfod bod yna hen domen gerllaw

Daeth pryderon am ddiogelwch hen domenni glo Cymru i'r wyneb yn dilyn tirlithriad uwch Pendyrus yng nghwm Rhondda yn ystod glaw trwm storm Dennis, yn 么l yn 2020.

Tra bod llywodraeth Lafur Cymru a'r llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ar y pryd wedi sefylu tasglu ar y cyd, roedd 'na anghytuno dros bwy ddylai fod yn talu am waith adfer.

Dadl gweinidogion ym Mae Caerdydd oedd bod y problemau'n deillio o gyfnod cyn datganoli, gan awgrymu y gallai gostio cymaint 芒 拢600m dros 10-15 mlynedd i ddelio a'r sefyllfa drwy Gymru.

Datgelodd asesiadadau gyfanswm o 2,573 o hen domenni glo, gyda 360 ohonyn nhw 芒'r potensial i gael effaith ar ddiogelwch y cyhoedd.

Ffynhonnell y llun, Clear South Wales' Coal Tips

Disgrifiad o'r llun, Mae dros 2,500 o domenni glo yng Nghymru, y rhan fwyaf yng nghymoedd y de

Dywedodd Phil Thomas, a sefydlodd gr诺p ymgyrchu Clear South Wales Coal Tips, fod y 拢25m yn y Gyllideb yn "newyddion i'w groesawu ac yn arwydd bod y ddwy lywodraeth yn cymryd y mater o ddifri'".

Ond mae'r tad i ddau o blant ifanc o Ynyshir, Rhondda Cynon Taf, yn mynnu mai'r "cwestiwn mawr yw ble mae'r Bil Tomenni Glo ry'n ni wedi bod yn aros amdano yng Nghymru am dros bedair blynedd?"

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cyflwyno deddfwriaeth newydd i'r Senedd - fydd yn cynnwys sefydlu awdurdod newydd i oruchwylio diogelwch tomenni glo - erbyn diwedd y flwyddyn.

"Mae dros hanner y tomenni sydd yn y categoriau ucha' o ran risg mewn dwylo preifat, ac o be' dwi'n ddeall does 'na ddim ffordd o orfodi eu perchnogion nhw i wneud gwelliannau oni bai bod 'na sefyllfa o argyfwng," ychwanegodd Mr Thomas.

"Mae'r arian yma i'w groesawu, ond ble fydd e'n cael ei wario? Ai ar y tipiau sydd dan ofal cyrff cyhoeddus, achos nhw sydd yn y lleiafrif?"

Disgrifiad o'r llun, Roedd Ann Davies yn dyst i'r tirlithriad ym Mhendyrus

Dyweodd Ann Davies, sy'n byw yng nghysgod tomen lo Pendyrus bod y tirlithriad dramatig yn 2020 wedi bod yn "frawychus".

Ar y cyhoeddiad o gyllid newydd dywedodd ei bod hi'n "dda i roi rhywbeth yn ei le, ond mae wedi cymryd llawer yn rhy hir".

"Fe ddyle hyn fod wedi digwydd flynyddoedd yn 么l - naethon nhw wir ddysgu gwersi o Aberfan?" gofynodd.

"Mae'n mynd i fod yn ddrud ond bydd hi'n ormod o risg i adael y peth," meddai.

'Yn amlwg' ddim yn ddigon

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar newid hinsawdd, Delyth Jewell fod y cyhoeddiad yn "bell o fod yn ddigonol".

"Mae San Steffan wedi addo arian o'r diwedd ar gyfer diogelwch tomenni glo, ond mae'n rhaid cynyddu faint sy'n cael ei gynnig," meddai.

"Mae'r tomenni glo yn olion o'r modd y cafodd ein cymunedau eu hecsbloetio - ddylai'n cymoedd ni fyth fod wedi gorfod ymdopi 芒 nhw, heb son am dalu tuag at sicrhau eu bod yn ddiogel."

Doedd y 拢25m "yn amlwg" ddim yn ddigon, yn 么l llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, Janet Finch-Saunders.

鈥淢ae mesurau cynnal a chadw a diogelwch ar gyfer tomenni glo segur yng Nghymru wedi ei ddatganoli," meddai.

"Mae鈥檙 faith bod angen cydweithio gyda鈥檙 llywodraeth Brydeinig ar y mater yma, er nad ydy鈥檔 gyfrifoldeb ar y llywodraeth Brydeinig, yn profi eto pa mor bwysig ydy bod yn rhan o鈥檙 Undeb."

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Daeth y cyhoeddiad am gyllid i drwsio tomenni glo yn ystod cyllideb y Canghellor Rachel Reeves.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens: "Ychydig dros wythnos ers y cofio am drychineb Aberfan mae'n addas ein bod ni wedi ymrwymo i wario 拢25m ar ddiogelu tomenni glo.

"Mae'n brawf o'r berthynas newydd rhwng llywodraethau Cymru a'r DU, sydd wedi'u selio ar gydweithio, parch a gweithredu," ychwanegodd.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford wrth 大象传媒 Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am "拢91m dros dair blynedd gyda 拢25m yn y flwyddyn gyntaf".

"Felly mae'n ddechrau da a 拢25m yn fwy na roedd y llywodraeth flaenorol yn fodlon cynnig i ni."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y Canghellor wedi "ymateb i'n galwadau am gyllid", a hynny "ar ben y cyllid mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu bob blwyddyn i gefnogi awdurdodau lleol gynnal a thrwsio tomenni a buddosddi mewn montiro o'r radd flaenaf".