Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyfarnu yn y Gemau Olympaidd yn 'gwireddu breuddwyd'
Mae cael ei ddewis i ddyfarnu yng nghystadlaethau rygbi'r Gemau Olympaidd wedi 鈥済wireddu breuddwyd鈥 i Ben Breakspear o Gwm Cynon.
Fe fydd Ben, 26, yn dyfarnu'r gemau saith bob ochr ym Mharis yn yr haf.
Wrth siarad ar Dros Frecwast ddydd Gwener dywedodd Ben bod y cyfan wedi bod yn 鈥渂ach o sioc鈥 ond ei fod yn falch ei fod o鈥檙 diwedd cael rhannu鈥檙 newyddion anhygoel.
鈥淚 gael yr e-bost 'na i ddweud bo' fi ar y ffordd i Baris 鈥 mae e dal heb sinko mewn eto," meddai Ben.
鈥淒wi dal yn prosesu popeth sy鈥檔 mynd ymlaen. Mae鈥檔 wir anrhydedd a dwi鈥檔 edrych ymlaen i鈥檙 haf.
"Mae wir wedi bod yn freuddwyd i gymryd rhan. Yn 2012 rwy鈥檔 cofio gwylio鈥檙 Gemau Olympaidd yn Llundain a fi methu credu bo鈥 fi eleni yn cael cymryd rhan.鈥
Mae Ben yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun a dywed mai'r ysgol a鈥檌 anogodd i ddilyn cwrs dyfarnu fel un o鈥檌 bynciau TGAU.
Mae wedi bod yn dyfarnu ers yn 18 a bellach yn teithio'r byd gan wneud gyrfa o ddyfarnu.
Mae鈥檔 dweud hefyd fod cystadlaethau chwaraeon yr Urdd wedi bod yn hwb i鈥檞 yrfa a sgwrs a gafodd yn ystod un o鈥檙 gemau hynny gyda鈥檙 dyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens.
"Dwi鈥檔 cofio鈥檙 sgwrs 'na ges i gyda Nigel Owens lawr yn Sir G芒r ryw chwech i saith mlynedd yn 么l 鈥 'nath e ddweud wrthai pa gyfleon oedd allan yna o ran dyfarnu 鈥 rhywbeth o鈥檔 i heb really meddwl am鈥
"O鈥檇d y chat 'na really wedi agor y freuddwyd i weld pa ffynonellau sydd mas 'na i 'neud gyrfa yn y byd dyfarnu ac yn y byd rygbi a fi heb edrych yn 么l ers hynny.鈥
Mae Ben yn un o 23 sydd wedi鈥檜 dewis i ddyfarnu y gemau saith bob ochr 鈥 bydd 12 yn dyfarnu gemau鈥檙 dynion ac 11 yn dyfarnu gemau'r merched a fydd yn cael eu cynnal ar draws Ffrainc o 24-30 Gorffennaf.
Bwriad tymor hir Ben yw bod yn ddyfarnwr gemau 15 chwaraewr, ond am y tro mae am ganolbwyntio ar dimau saith bob ochr er mwyn ennill profiad.
Mae'n dweud fod mwy o gyfleon ar hyn o bryd i fod yn ddyfarnwr saith bob ochr.
"Mae鈥檔 rhoi cyfle i fi deithio鈥檙 byd ac i dyfu fel dyfarnwr. Rhaid gwneud penderfyniadau mawr o dan bwysau o flaen torf eitha mawr," meddai.
Mae Ben eisoes wedi dyfarnu gemau rygbi saith bob ochr yng Nghwpan y Byd ac yng Ngemau鈥檙 Gymanwlad ond fe fydd eleni yn "achlysur enfawr鈥, ychwanegodd.
&辩耻辞迟;贵颈鈥档 really edrych ymlaen wrth i lygad y byd fod ar y Gemau Olympaidd yn Ffrainc.鈥