Ffos-y-fran: Cwmni'n cloddio 'tu hwnt i'r ffiniau'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwmni sy'n rhedeg y safle glo brig olaf ym Mhrydain wedi cael eu cyhuddo o dorri eu trwydded, ar 么l cloddio tu hwnt i'r ffiniau roedd ganddyn nhw ganiat芒d i wneud.
Glofa Ffos-y-fran ym Merthyr Tudful sy'n cynhyrchu dau draean o lo'r DU bellach, ac roedd i fod i gau ym mis Medi pan ddaeth cyfnod y cais cynllunio i ben.
Ond ers hynny mae dros 200,000 tunnell o lo wedi parhau i gael ei dynnu oddi yno.
Mae'r cwmni wedi cael rhybudd gorchymyn terfynol i roi'r gorau i gloddio.
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2023
Cafodd y perchnogion, Merthyr (South Wales) Limited, y gorchymyn yn 么l ym mis Mai ond maen nhw wedi apelio.
Fe wnaeth yr Awdurdod Glo, sy'n rhoi trwyddedau yn y DU, anfon y rhybudd gan ddweud fod y cwmni'n torri'r gyfraith wrth barhau i gloddio.
Mewn ymateb i gais gan y 大象传媒, dywedodd y cwmni: "Rydym wedi dweud yn y gorffennol na fyddai'n briodol gwneud sylw tra bod proses ap锚l yn digwydd.
"Fyddwn ni ddim yn ymateb i ymholiadau pellach gan y 大象传媒."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedden nhw am wneud sylw tra bod ap锚l yn dal i ddigwydd "rhag ofn i hynny effeithio ar unrhyw benderfyniadau y gallai gweinidogion orfod gwneud yn y dyfodol".
Ychwanegodd Cyngor Sir Bwrdeistref Merthyr Tudful eu bod nhw'n parhau i "fonitro'r sefyllfa" ac ystyried pa gamau i'w cymryd.