Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw ar Tata i oedi cynlluniau i gau ffwrneisi chwyth
Mae undeb Unite yn galw ar gwmni dur Tata i gynnal trafodaethau pellach cyn bwrw 'mlaen â chynlluniau all weld ffwrneisi chwyth Port Talbot yn cau yr wythnos nesaf.
Roedd disgwyl i'r cwmni gael gwared ag un o’r ddwy ffwrnais chwyth ar y safle erbyn diwedd Mehefin, cyn i'r ail gau ym mis Medi - ond yn sgil cynlluniau'r undeb i streicio - maen nhw'n dweud "nad oes dewis" ond cymryd camau i oedi neu ddod â gwaith trwm ar y safle i ben.
Mae Unite yn dweud y dylai Tata aros i weld canlyniad yr etholiad cyffredinol "cyn gwneud unrhyw benderfyniadau nad oes modd eu gwyrdroi".
Dywedodd Tata mewn datganiad mai "diogelwch yw'r flaenoriaeth", gan alw ar undeb Unite i gefnu ar eu cynlluniau i weithredu'n ddiwydiannol.
Mae gweithwyr dur o undeb Unite wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol yn sgil cynlluniau ailstrwythuro Tata.
Bydd bron i 3,000 o swyddi'n mynd drwy'r DU dan gynlluniau'r cwmni - 2,800 o'r rheiny ym Mhort Talbot.
Mae'r undebau eraill sy'n cynrychioli gweithwyr ar y safle, Community a GMB, yn dweud eu bod nhw'n aros tan ar ôl yr etholiad cyffredinol cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â streicio posib.
'Annerbyniol'
Dywedodd Unite mewn datganiad ddydd Sadwrn: "Mae Unite wedi galw ar y cwmni sawl tro i ymrwymo i beidio â gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol am ddyfodol y ffwrneisi chwyth tan fod yr etholiad cyffredinol drosodd, gan mai dyna pryd fydd modd cynnal trafodaethau arwyddocaol.
"Yr unig drafodaethau y mae Tata eisiau eu cynnal yw rhai ynglŷn â chael gwared a swyddi a phecynnau diswyddo.
"Mae hyn yn annerbyniol."
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran cwmni dur Tata nad ydyn nhw'n gallu "bod yn sicr o ddiogelwch a sefydlogrwydd y safle yn ystod cyfnod o streicio", ac nad "nad oes dewis arall ond cymryd camau i oedi neu ddod â gwaith trwm ar y safle i ben".
"Dydy hwn ddim yn benderfyniad hawdd, a ry'n ni'n cydnabod y gallai fod yn gostus ac y gallai amharu ar y gadwyn gyflenwi, ond mae diogelwch y bobl ar ein safleoedd wastad am fod yn flaenoriaeth i ni."