Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyffryn Aman: Cyhuddo merch, 13, o geisio llofruddio
Mae merch 13 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ddydd Mercher.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ei bod yn wynebu tri chyhuddiad o geisio llofruddio, a'i bod yn parhau yn y ddalfa.
Mae hi hefyd yn wynebu cyhuddiad o gael arf miniog yn ei meddiant ar dir ysgol, yn 么l Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Cafodd dau athro ac un disgybl eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau o ganlyniad i gael eu trywanu ar dir yr ysgol fore Mercher.
Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau yn gynharach ddydd Iau bod y tri wedi cael gadael yr ysbyty ar 么l derbyn triniaeth am anafiadau a gafodd eu hachosi gan gyllell.
Yn y llys ddydd Gwener
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron y bydd y ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener.
"Mae hwn yn achos troseddol actif, ac mae gan y diffynnydd yr hawl i brawf teg," meddai eu datganiad.
鈥淢ae鈥檔 hynod bwysig na ddylai fod unrhyw adrodd, sylw na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai achosi rhagfarn yn yr achos mewn unrhyw ffordd.鈥
Mae 大象传媒 Cymru yn deall mai Fiona Elias - pennaeth blwyddyn saith yr ysgol - a Liz Hopkin yw'r ddwy athrawes a gafodd eu hanafu.
Mae'r ysgol wedi cadarnhau y bydd y safle ar gau i ddisgyblion tan ddydd Llun.
Bachgen hefyd wedi'i arestio
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod hefyd wedi arestio bachgen 15 oed yn Rhydaman dros nos ar amheuaeth o wneud bygythiadau oedd yn cyfeirio at y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.
Fe ddaeth hynny wedi i bryderon gael eu rhannu gyda'r heddlu am ddeunydd oedd yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol.
Cafodd gwarant ei gweithredu yng nghartref y bachgen yn ardal Cross Hands, ac mae gwn BB bellach ym meddiant yr heddlu.
Dywedodd yr heddlu fod yr ymchwiliad yn cael ei redeg ar wah芒n i'r digwyddiad yn yr ysgol, ond maen nhw'n ceisio cadarnhau a oes unrhyw gysylltiad posib rhwng y ddau.
Mae'r bachgen 15 oed yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Ross Evans: 鈥淯nwaith eto, byddwn yn annog pobl i beidio 芒 dyfalu, i beidio 芒 rhannu unrhyw ddelweddau na fideos yn ymwneud 芒鈥檙 naill ymchwiliad na鈥檙 llall, ac i ganiat谩u i ni gynnal ein hymholiadau鈥檔 llawn.
鈥淥s ydych chi, neu'ch plant, yn teimlo'n ofidus oherwydd y digwyddiadau hyn, ceisiwch gymorth gan asiantaeth briodol.
鈥淵n olaf, hoffwn ddiolch unwaith eto i鈥檔 cydweithwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru am eu hymateb cyflym i鈥檙 digwyddiad, yn ogystal 芒 staff y GIG fu'n trin y rhai a anafwyd, y sefydliadau elusennol sy鈥檔 cynnig cefnogaeth i'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad, a鈥檙 aelodau gwyliadwrus o鈥檙 cyhoedd a adroddodd eu pryderon i ni.鈥