Balchder wrth i ymgyrch Y Seintiau yn Ewrop barhau

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Gorfoledd yn Neuadd y Parc nos Iau wrth i'r Seintiau'n dathlu ar ddiwedd y g锚m gyfartal yn erbyn FK Panev臈啪ys
  • Awdur, Aled Williams
  • Swydd, Chwaraeon 大象传媒 Cymru

Mae chwaraewyr Y Seintiau Newydd yn cydnabod eu bod wedi creu hanes ar 么l sicrhau eu lle yng ngemau gr诺p Cyngres UEFA.

Er g锚m gyfartal ddi-sg么r yn erbyn FK Panev臈啪ys o Lithwania nos Iau, roedd buddugoliaeth o 3-0 yn y cymal cyntaf yn ddigon i'r Seintiau symud i gam nesaf y gystadleuaeth.

Roedd hi'n noson hanesyddol gan mai nhw fydd y clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i chwarae yng ngemau gr诺p - neu rownd y gynghrair fel ydy hi eleni - un o brif gystadlaethau Ewrop.

Bydd y clwb yn cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf brynhawn Gwener ond fe fydd pencampwyr y Cymru Premier yng nghwmni clybiau mawr fel Chelsea, Real Betis a Fiorentina.

'Anferth i'r clwb'

"Dwi'm yn meddwl fasa llawer o hogia Premier League yn gallu dweud bod nhw'n chwarae yn y Conference League felly mae hwnna yn rwbath anferthol," meddai chwaraewr canol cae y Seintiau, Leo Smith, seren y g锚m nos Iau.

"Mae'n anferth i'r clwb ac i'r hogia' i gyd i greu hanes i'r clwb. Mae'n rili pwysig.

"Maen nhw'n dweud chwaraewr y g锚m ond fasa unrhyw un o'r hogia wedi gallu cael o heno," meddai'r chwaraewr 26 oed sy'n hanu o Borthmadog.

"Dwi mor falch bod teulu a ffrinidiau fi wedi gallu bod yma i watchio.

"'Dan ni'n siomedig 'dan ni heb sgorio a curo'r g锚m ond tydi o ddim ots yn y diwedd."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Leo Smith a Sion Bradley wedi'r canlyniad hanesyddol nos Iau

Mae Leo Smith wedi bod gyda'r Seintiau ers pedair blynedd ond mae Sion Bradley yn gymharol newydd i Neuadd y Parc.

Ymunodd 芒'r clwb o Gaernarfon yn yr haf ar 么l ennill gwobr Chwaraewr y Tymor y Cymru Premier, ac fe ddaeth i'r maes fel eilydd hwyr yn erbyn FK Panev臈啪ys.

"Fydd y celebrations yn cario 'mlaen trwy'r weekend, dwi'n si诺r," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"'Di o dal heb sincio i mewn eto - ella neith o sincio mewn 'chydig bach mwy pan fydda i'n gweld yr enwa' yn dod allan o'r het p'nawn 'ma, ond mae o jyst yn eitha' swreal a d'eud gwir.

"Ma' tima' fatha Chelsea a Fiorentina yn sefyll allan... gobeithio gawn ni draw go lew.

"'Sa'n neis ca'l t卯m fatha Chelsea - 'sa'n experience da 'swn i byth yn anghofio, ma' hynna'n saff.

"Dan ni'n barod [i gystadlu yn Ewrop]. Ma' gennym ni hogia' da a sgwad reit fawr - fydd pawb yn barod a pawb yn edrych ymlaen i gystadlu."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Rheolwr Y Seintiau, Craig Harrison gyda chadeirydd a sylfaenydd y clwb, Mike Harris

Yn 么l cyn-chwaraewr y Seintiau, Marc Lloyd Williams, mae'r hyn y mae'r clwb wedi ei gyflawni yn "anhygoel".

Mae'n gobeithio y bydd rhediad Y Seintiau yn Ewrop y tymor hwn yn arwain at fuddion ehangach i'r Cymru Premier.

"Mae 'na arian sylweddol yn mynd i ddod gan UEFA r诺an a dwi'n meddwl bod y gymdeithas b锚l-droed yn cael arian ychwanegol hefyd," meddai'r cyn-ymosodwr, sydd wedi sgorio mwy o goliau yn Uwch Gynghrair Cymru nag unrhyw chwaraewr arall.

"Dwi'n gobeithio bydd y gymdeithas b锚l-droed yn buddsoddi'r arian yna yn Uwch Gynghrair Cymru i gryfhau'r timau eraill - nid ar y cae ond hefyd oddi ar y cae hefo staffio a chyflogi pobl llawn amser a cheisio bod yn uchelgeisiol, fel mae Mike Harris wedi bod yn Y Seintiau Newydd.

"Dwi'n gwybod bod angen lot o arian i wneud hynny a bod lot o glybiau yn rhan amser - dwi'n deall hynny.

"Ond mae'n rhaid bod 'na un neu ddau ella yn mynd i weld be mae'r Seintiau wedi gwneud ac eisiau buddsoddi mewn clwb o Gymru."

Symiau arian 'trawsnewidiol'

Bydd y clwb yn derbyn 拢2.6m yn sgil camu ymlaen yn y gystadleuaeth, ac yn 么l Tomos Lewis - cyfreithiwr sy'n arbenigo ar gyfraith fasnachol - mae'n swm "trawsnewidiol" i'r clwb.

"Fysa hynna'n ariannu unrhyw glwb arall yn y gynghrair am rhwng pump i 10 mlynedd so ma' hynna'n mynd i bwsio nhw yn ariannol yn bellach o flaen y gad, fel petai," meddai ar Dros Frecwast.

"Mi geith nhw fwy o arian os 'dyn nhw'n curo g锚m... bron i hanner miliwn arall - ac os 'dyn nhw'n ca'l g锚m gyfartal geith nhw dros gan mil arall, felly ma'r symia' yma yn drawsnewidiol.

"Diddorol," meddai, fydd gweld sut fydd Y Seintiau Newydd yn buddsoddi'r arian yna.

"Maen nhw ben a 'sgwydda' yn well na pawb yn barod felly 'dyn nhw'm angen buddsoddi o ran gwella'r garfan ddomestig, ond diddorol gweld be' neith nhw heddiw [diwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo], os neith nhw gryfhau'r garfan ar gyfer Ewrop yn benodol."