Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwyddonydd o Gymru: 'Gorddefnydd o wrthfiotigau yn bryder'
- Awdur, Nia Thomas
- Swydd, 大象传媒 Radio Cymru
Mae gwyddonydd blaenllaw o Gymru yn dweud bod rhaid i ni gyd ddysgu i beidio 芒 chamddefnyddio cyffuriau gwrthfiotig neu mi fyddwn ni鈥檔 wynebu problemau mawr yn y dyfodol.
Mae鈥檙 Athro Emeritws Colin Hughes wedi treulio blynyddoedd yn yr Unol Daleithiau, Ewrop ac ym Mhrifysgol Caergrawnt yn astudio sut mae bacteria yn achosi heintiau a sut mae nhw鈥檔 datblygu ymwrthedd i wrthfiotigau - a bellach mae o wedi ymgartrefu ar lannau鈥檙 Fenai ar Ynys M么n.
鈥淢i fydd pawb sydd wedi cael llawdriniaeth yn gwybod pa mor bryderus ydi ysbytai ar hyn o bryd am heintiau ymwrthol 鈥 pethau fel MRSA. Mae disgwyl i鈥檙 sefyllfa waethygu yn sylweddol.
"Mae ein hymwrthedd ni鈥檔 cynyddu oherwydd y gorddefnydd o wrthfiotigau. Felly i atal y sefyllfa rhag mynd yn waeth bydd rhaid i ni wneud rhai pethau - yn enwedig peidio gwastraffu neu gamddefnyddio gwrthfiotigau mewn meddygaeth 鈥 pob un ohona ni," meddai wrth raglen Post Prynhawn 大象传媒 Radio Cymru.
Mae Colin Hughes, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caergrawnt a Chymrawd Coleg y Drindod Caergrawnt, hefyd o鈥檙 farn bod angen i gwmn茂au cyffuriau rhyngwladol fuddsoddi mwy i ddatblygu cyffuriau gwrthfiotig newydd gan ein bod ni鈥檔 defnyddio鈥檙 cyffuriau presennol ers degawdau.
鈥淎r hyn o bryd does gan y cwmn茂au cyffuriau mawr ddim diddorddeb mewn datblygu gwrthfiotigau newydd am ein bod ni yn pryderu am gansar, am glefyd y galon, am ddementia - dyna lle mae鈥檙 arian,鈥 meddai.
Ond mae o鈥檔 dweud bod yna ffyrdd newydd cyffrous i ddatblygu cyffuriau newydd 鈥 sydd yn cynnig gobaith ar gyfer y dyfodol.
Yn wreiddiol o Fagillt, Sir y Fflint daeth Colin Hughes i amlygrwydd yn ddiweddar am ennill medal y dysgwyr yn Eisteddfod M么n - a hynny am yr eildro yn olynol am waith creadigol.
鈥淒wi ddim wedi siarad Cymraeg o gwbl rili fel plentyn ond o鈥檔 ni wedi arfer hefo s诺n yr iaith so bob dydd clywais ychydig o eiriau fel cariad, tyd yma, cau鈥檙 drws ac yn eitha aml dwi鈥檔 cofio cythraul bach!鈥
Rhyw ddeng mlynedd yn 么l ar 么l symud i fyw i gyrion Porthaethwy mi aeth ati go iawn i gyfoethogi ei Gymraeg.
鈥淎r 么l i mi weithio yn America, Ewrop a Chaergrawnt 'nes i ddechrau symud adra i ogledd Cymru 10 mlynedd n么l.
"A deud y gwir roedd dysgu, neu adennill yr iaith, yn rhan annatod o hynny. 'Nes i ddechrau ar fy mhen fy hun - jyst darllen - cyn i mi ymuno 芒 chyrsiau yn Llanbed, Nant Gwrtheyrn a Bangor. Dwi鈥檔 dal i ddysgu. So ers y pandemig dwi mewn gr诺p ar-lein - criw difyr iawn o ogledd Cymru a thu hwnt.鈥
Ond mae鈥檔 dweud bod ysgrifennu鈥檙 Gymraeg yn haws na鈥檌 siarad ar y cyfan.
鈥淔el arfer mae鈥檔 well gen i ysgrifennu. Mae gen i fwy o amser i feddwl a chywiro fy hun. Mae posib defnyddio geiriadur Cysill ar-lein, gofyn am gyngor wrth ymlacio hefo panad. Wrth siarad dwi鈥檔 teimlo, fel pob dysgwr, fy mod yn gadael llwybr o wallau y tu 么l i mi.鈥
Bydd cyfweliad yr Athro Emeritws Colin Hughes i'w glywed ar y Post Prynhawn am 17:00 dydd Llun, 12 Awst ac yna ar 大象传媒 Sounds.