Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Morgannwg yn trechu Sussex yn y T20 yn Hove
Fe wnaeth dechrau addawol Morgannwg i'r gystadleuaeth 20 pelawd barhau gyda buddugoliaeth dros Sussex yn Hove brynhawn Sul.
Llwyddodd Morgannwg i gyrraedd sg么r gwych o 219-5 yn eu 20 pelawd nhw, gyda Chris Cooke (50) a Colin Ingram (48) yn serennu.
Dim ond cyfanswm o 187-8 lwyddodd Sussex i gyrraedd yn eu hymateb nhw, er gwaethaf ymdrechion Tom Alsop (58) a Michael Burgess (45).
Enillodd y Cymry felly o 32 o rediadau.
Mae Morgannwg bellach wedi chwarae pum g锚m yn y gystadleuaeth, gan ennill pedair a cholli un.